
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod statws arbennig newydd Porthladd Rhydd Ynys Môn bellach yn fyw.
Mae Ynys Môn yn ymuno â'r porthladd rhydd arall yng Nghymru, Porthladd Rhydd Celtaidd Port Talbot ac Aberdaugleddau, a aeth yn fyw ym mis Tachwedd.
Bydd y porthladdoedd rhydd yn ffurfio parthau arbennig ar gyfer busnes gyda manteision o ran treth a thollau, a chyllid ar gyfer prosiectau seilwaith a sgiliau allweddol. Mae porthladdoedd rhydd Cymru yn nodedig am eu bod yn cynnwys telerau gwaith teg, cydnabyddiaeth gan undebau ac mae awdurdodau lleol yn rhan o’u gwaith.
Nod y porthladdoedd rhydd Cymru yw sbarduno adfywiad economaidd a chreu swyddi o ansawdd uchel. Maent hefyd yn anelu at ddatblygu’n hybiau cenedlaethol ar gyfer buddsoddiad a masnach byd-eang ar draws yr economi ac ysgogi arloesedd.
Mae porthladdoedd rhydd Cymru yn canolbwyntio ar hybu cryfderau penodol pob ardal, gan fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd yno o ran ynni’r gwynt ar y môr ac ynni'r môr, gweithgynhyrchu uwch ac arloesedd.
Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cynnwys safleoedd ym Mharc Ffyniant a Pharc Cybi yng Nghaergybi, M-Sparc ger Gaerwen a dau safle tir llwyd ar Ystad Ddiwydiannol Llangefni.
Nod porthladdoedd rhydd Cymru yw denu £6.5 biliwn mewn buddsoddiad a chreu tua 17,000 o swyddi.
Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Hwb i Ynys Môn wrth lansio'r Porthladd Rhydd | LLYW.CYMRU
Beth bynnag rydych yn ei gynnig – gwasanaethau, trwyddedau neu gynnyrch – fe allai allforio weddnewid bron pob elfen o’ch busnes. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Pan allforio? | Drupal