Ali Barber
"Diolch i gefnogaeth ac arweiniad fy ymgynghorydd, bues yn llwyddiannus wrth sicrhau cymorth gan y Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref, sydd wedi fy ngalluogi i ddechrau fy musnes. Erbyn hyn, mae gen i swydd ac rwyf wedi sicrhau dyfodol i mi a fy nheulu." Mae Ali Sulaiman Ali yn ffoadur o Syria a ddaeth i Gymru ychydig flynyddoedd yn ôl. Mynychodd un o’n gweminarau Dechrau Busnes, a oedd wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer ffoaduriaid o Syria...