Cyhoeddi newidiadau i’r cyfyngiadau symud ar gyfer Cymru
Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad statudol o’r rheoliadau gan Weinidogion Cymru. O ddydd Llun 1 Mehefin 2020, bydd aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i bobl ddilyn arferion llym o ran cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo, i reoli lledaeniad y feirws. Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir...