Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro
Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru. Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn omicron newydd. Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff. Mae’r rheoliadau’n ailgyflwyno mesurau diogelu mewn busnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau pan fyddan nhw’n ailagor ar ôl cyfnod y Nadolig. Bydd canllawiau...