Biwroau Cyflogaeth a Menter
Mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru ei Biwro Cyflogaeth a Menter ei hun i baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith a’u helpu i gael hyd i swydd neu i ddechrau eu busnes eu hunain, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething. Mae’r Biwroau o’r radd flaenaf yn rhan bwysig o un o gynlluniau pwysicaf Llywodraeth Cymru, y Warant i Bobl Ifanc. Mae’n warant y bydd pob person o dan 25 oed sy’n byw...