BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024-25

Canllawiau

Disgrifiad o’r canllawiau

Lluniwyd y canllawiau hyn i helpu cynghorau sir a bwrdeistref sirol (“awdurdodau lleol”) i weinyddu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch (“y rhyddhad”). Ar 19 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y byddai'r rhyddhad ardrethi'n cael ei ehangu dros dro ar gyfer 2024-25. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig.

Mae’r canllawiau yn gosod y meini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i bennu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer rhyddhad ardrethi sy’n cael ei ddarparu i eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch. Nid yw’r canllawiau yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ar ardrethi annomestig nac unrhyw fath arall o ryddhad.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y cynllun at: polisitrethilleol@llyw.cymru

Mae’r rhyddhad yn cael ei gynnig o 1 Ebrill 2024 a bydd ar gael tan 31 Mawrth 2025.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.