BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025-26

Canllawiau

Disgrifiad o’r canllawiau

Lluniwyd y canllawiau hyn i helpu cynghorau sir a bwrdeistref sirol (“awdurdodau lleol”) i weinyddu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch (“y rhyddhad”). Ar 10 Rhagfyr 2024, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg y byddai'r rhyddhad ardrethi'n cael ei ehangu dros dro ar gyfer 2025-26. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig.

Mae’r canllawiau yn gosod y meini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i bennu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer rhyddhad ardrethi sy’n cael ei ddarparu i eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch. Nid yw’r canllawiau yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ar ardrethi annomestig nac unrhyw fath arall o ryddhad.

Dylid anfon ymholiadau bilio ynglŷn â'r rhyddhad i'r awdurdod lleol perthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr awdurdodau lleol yma. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r canllawiau i: localtaxationpolicy@llyw.cymru 

Mae’r rhyddhad yn cael ei gynnig o 1 Ebrill 2025 a bydd ar gael tan 31 Mawrth 2026. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.