Canllawiau
Disgrifiad o’r canllawiau
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth i drethdalwyr ac awdurdodau lleol am y rhyddhad trosiannol a fydd ar gael, ar ôl ailbrisio ardrethi annomestig (NDR) ar 1 Ebrill 2023. Maent yn berthnasol i Gymru yn unig ac nid ydynt yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth NDR bresennol nac unrhyw ganllawiau ar gynlluniau rhyddhad eraill (e.e. rhyddhad ardrethi busnesau bach).
Dylid cyfeirio ymholiadau bilio am y rhyddhad at yr awdurdod lleol perthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol yma. Dylid anfon ymholiadau am y canllawiau hyn a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig at Lywodraeth Cymru drwy’r cyfeiriad e-bost canlynol: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru
Mae mathau eraill o ryddhad NDR gorfodol a dewisol hefyd ar gael i fathau penodol o eiddo neu feddianwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ryddhad NDR ar gael ar ein tudalennau gwe Busnes Cymru.
Cyflwyniad
Cyhoeddwyd y cynllun rhyddhad trosiannol hwn fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd yn cyfyngu ar gynnydd mewn biliau NDR, o ganlyniad i'r ailbrisio ar 1 Ebrill 2023. Bydd trethdalwr cymwys yn talu 33% o'i atebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd ei atebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26).
Ariennir y rhyddhad trosiannol yn llawn gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ddiffinio yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi rheolau i gyfrifo'r swm a godir ar gyfer eiddo sydd â chynnydd yn ei atebolrwydd NDR o fwy na £300, o ganlyniad i'r ailbrisiad. Mae'r rhyddhad ar gael i drethdalwyr ar y rhestr leol ac ar y rhestr ganolog.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £113m dros ddwy flynedd i ariannu'r rhyddhad trosiannol hwn, gan gefnogi holl feysydd y sylfaen drethu drwy gynllun trosiannol cyson a syml.
Pa eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?
Nid yw cymhwysedd ar gyfer rhyddhad trosiannol wedi'i gyfyngu i unrhyw sector, maint, na defnydd o'r eiddo (hereditament) o fewn y sylfaen drethu NDR.
Er mwyn bod yn gymwys am ryddhad trosiannol, rhaid i'r hereditament:
- fod wedi'i ddangos ar restr leol neu restr ganolog ar 31 Mawrth 2023 (y diwrnod cyn i'r rhestrau newydd a gaiff eu llunio ar 1 Ebrill 2023 gael effaith);
- bod â chynnydd mewn atebolrwydd o fwy na £300 (y trothwy de minimis y bernir bod costau gweinyddol darparu'r rhyddhad hwn yn is nag ef yn drech na'r buddion);
- peidio â chael rhyddhad ar gyfer eiddo sydd wedi'i feddiannu yn rhannol (o dan adran 44A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988);
- peidio â bod yn achos y mae rhyddhad elusennol ar gyfer eiddo heb ei feddiannu yn gymwys iddo (o dan baragraff 2 o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988); a
- chael ei feddiannu gan yr un meddiannwr a oedd yn meddiannu’r eiddo ar 31 Mawrth 2023. Os nad yw, mae’r rhyddhad yn peidio â bod yn gymwys. Os yw’r eiddo heb ei feddiannu ar 31 Mawrth 2023, ni fodlonir yr amod hwn.
Faint o ryddhad fydd ar gael?
Yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd a nodir uchod, bydd cynnydd mewn atebolrwydd NDR yn cael ei gyflwyno'n raddol dros ddwy flynedd. Bydd trethdalwyr yn elwa o ryddhad trosiannol o 67% o'u hatebolrwydd uwch yn 2023-24 a 34% yn 2024-25. Yn 2025-26, bydd pob trethdalwr yn talu ei fil llawn, yn amodol ar unrhyw ryddhad arall y mae'n ei gael.
Sut bydd y rhyddhad yn cael ei weinyddu?
Ar gyfer hereditamentau ar y rhestr ardrethu leol, bydd awdurdodau lleol yn addasu biliau’n awtomatig i gymhwyso'r rhyddhad trosiannol, pan fo’r meini prawf cymhwysedd wedi’u bodloni.
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a hygyrch i drethdalwyr ynghylch manylion a gweinyddiaeth y cynllun. Os nad oes modd i awdurdod ddarparu'r rhyddhad hwn i drethdalwyr cymwys o 1 Ebrill 2023 ymlaen, am ba bynnag reswm, dylid ystyried hysbysu trethdalwyr cymwys eu bod yn gymwys i gael y rhyddhad, ac y bydd eu biliau'n cael eu hailgyfrifo.
Gofynnir i awdurdodau lleol nodi cyfanswm y rhyddhad a ddarperir o dan y cynllun yn eu ffurflenni NDR (NDR1 ac NDR3).
Ar gyfer hereditamentau ar y rhestr ardrethu ganolog, bydd Llywodraeth Cymru yn addasu biliau trethdalwyr yn awtomatig i gymhwyso'r rhyddhad trosiannol, pan fo’r meini prawf cymhwysedd wedi’u bodloni.
Bydd y rhyddhad trosiannol yn cyflwyno'n raddol y cynnydd mewn atebolrwydd NDR dros gyfnod o ddwy flynedd, drwy ddarparu rhyddhad i drethdalwyr o 67% o'u hatebolrwydd uwch yn 2023-24 a 34% yn 2024-25. Erbyn dechrau 2025-26, bydd trethdalwyr yn talu eu bil llawn yn seiliedig ar ailbrisiad 2023.
Os yw'r hereditament yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, yna mae lefel y rhyddhad trosiannol sy'n gymwys yn cael ei phennu gan y camau isod. Mae rhai enghreifftiau ymarferol wedi'u cynnwys yn Atodiad 1.
Pennu’r atebolrwydd sylfaenol
I gyfrifo’r atebolrwydd sylfaenol (BL) ar gyfer hereditament, defnyddir y fformiwla isod.
Os yw'r hereditament yn bodloni'r amodau i fod yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR):
A x 0.535
E
Ym mhob achos arall:
A x 0.535
Lle:
- A yw'r gwerth ardrethol ar gyfer hereditament ar restr leol neu restr ganolog fel ar 31 Mawrth 2023.
- 0.535 yw'r lluosydd a bennwyd ar gyfer 2022-23.
- E yw'r swm sy'n gymwys i'r hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Busnesau Bach) (Cymru) 2017 – mae hyn yn pennu faint o SBRR y mae'r hereditament yn gymwys i'w gael.
Pennu’r swm tybiannol a godir
I gyfrifo’r swm tybiannol a godir (BL) ar gyfer hereditament, defnyddir y fformiwla isod.
Os yw'r hereditament yn bodloni'r amodau i fod yn gymwys am SBRR:
A x B
E
Ym mhob achos arall:
A x B
Lle:
- A yw'r gwerth ardrethol ar gyfer yr hereditament ar restr leol neu restr ganolog fel ar 1 Ebrill 2023;
- B yw'r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023, a bennir gan Weinidogion Cymru yn ôl paragraff 4B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988; ac
- E yw'r swm sy'n gymwys i'r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Busnesau Bach) (Cymru) 2017 – mae hyn yn pennu faint o SBRR y mae'r hereditament yn gymwys i'w gael.
Cyfrifir yr NCA yn seiliedig ar y sefyllfa ar 1 Ebrill 2023. Defnyddir hyn i bennu faint o ryddhad a fydd yn gymwys ym mhob blwyddyn o’r cynllun. Nid yw'r NCA yn cael ei ailgyfrifo ar 1 Ebrill 2024. Effaith cyfrifo lefel y rhyddhad yn y modd hwn yw y bydd yn ofynnol i'r trethdalwr dalu costau unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd oherwydd chwyddiant yn 2024-25, a adlewyrchir mewn unrhyw gynnydd yn y lluosydd. Mae'r rhyddhad a gyfrifir ar 1 Ebrill 2023 yn cael ei ddidynnu o'r swm a godir am y diwrnod perthnasol.
Cymharu’r atebolrwydd sylfaenol â'r swm tybiannol a godir
Mae gan yr hereditament hawl i ryddhad pan fo'r cynnydd mewn atebolrwydd yn fwy na £300:
NCA > (BL + 300)
Pan fodlonir yr amod hwn, cyfrifir yr uchafswm sydd i’w ddidynnu o’r swm a godir.
Pennu’r didyniad mwyaf o’r swm a godir
Mae’r swm a godir am NDR yn cael ei gyfrifo’n ddyddiol. Mae lefel ddyddiol uchaf y rhyddhad trosiannol sy'n gymwys ar gyfer y flwyddyn berthnasol yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla isod.
Ar gyfer y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 (sy'n gorgyffwrdd â blwyddyn naid):
(NCA - BL) x 0.67
366
Ar gyfer y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2024:
(NCA - BL) x 0.34
365
Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025, mae'r swm a godir yn cael ei leihau yn ôl sero drwy ryddhad trosiannol, er y gall rhyddhadau eraill barhau i fod yn gymwys.
Pennu’r swm a godir (atebolrwydd) heb ryddhad trosiannol
Cyfrifir y swm a godir am y diwrnod perthnasol yn unol ag adran 43, 45 neu 54 o Ddeddf 1988, fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn ystyried unrhyw ryddhad gorfodol y mae'r trethdalwr yn gymwys i’w gael, cyn cymhwyso unrhyw ddidyniad pellach o'r swm a godir yn sgil hawl i ryddhad trosiannol.
Pennu’r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Mae’r swm a godir heb ryddhad trosiannol yn cael ei leihau gan y didyniad mwyaf o'r swm a godir, fel y cyfrifir uchod.
Os byddai cymhwyso'r didyniad mwyaf o'r swm a godir yn arwain at ffigur negatif, yna bydd y swm terfynol a godir yn sero. Yn y senario hon, bydd y swm terfynol o ryddhad a gymhwysir yn is na'r didyniad mwyaf a gyfrifir.
Os yw gwerth ardrethol eiddo cymwys yn newid yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, bydd yr hawl yn cael ei hailgyfrifo o ddyddiad effeithiol y newid, yn unol â'r camau a nodir uchod. Dyma fydd yn digwydd os bydd gwerth ardrethol yn cynyddu neu'n lleihau. Gall newidiadau mewn gwerth ardrethol ddigwydd am amryw o resymau.
A yw rhyddhad trosiannol yn cael ei gymhwyso cyn neu ar ôl mathau eraill o ryddhad?
Mae'r swm a godir, cyn cymhwyso rhyddhad trosiannol, yn cael ei bennu yn unol â’r adran berthnasol o Ddeddf 1988 (e.e. adran 43 ar gyfer hereditamentau wedi'u meddiannu sydd ar y rhestr leol). Mae hyn yn golygu bod y rhyddhadau eraill a ddarperir o dan yr adran berthnasol yn cael eu cymhwyso i atebolrwydd trethdalwr cyn y didyniad rhyddhad trosiannol a gyfrifwyd.
Dylai unrhyw ryddhad a ddarperir gan ddefnyddio pwerau dewisol awdurdodau lleol (e.e. o dan adran 47 o Ddeddf 1988) gael ei gymhwyso ar ôl unrhyw hawl i ryddhad trosiannol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw elfen atodol ddewisol o ryddhad gorfodol (e.e. unrhyw ryddhad elusennol ar ben yr 80% gorfodol a ddyfarnir gan yr awdurdod lleol), gan fod hyn yn cael ei ddyfarnu o dan adran 47.
Mae dull cyfrifo’r hawl i ryddhad trosiannol (h.y. y didyniad mwyaf o'r swm a godir) yn ystyried unrhyw hawl i SBRR, ond nid unrhyw ryddhad arall sy’n gymwys. Mae hwn yn gam sydd ar wahân i gyfrifo atebolrwydd cyn cymhwyso'r didyniad rhyddhad trosiannol.
Os yw atebolrwydd gweddilliol trethdalwr, ar ôl cymhwyso pob rhyddhad gorfodol arall, yn llai na'i ddidyniad mwyaf a gyfrifwyd o'r swm a godir, yna bydd y swm terfynol a godir yn sero.
Os ydw i'n peidio â bod y trethdalwr ar gyfer eiddo yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, a fydda i'n dal i gael rhyddhad am y cyfnod yr oeddwn yn atebol am NDR?
Byddwch. Mae hawl rhyddhad trosiannol yn cael ei chyfrifo'n ddyddiol (yr un fath ag atebolrwydd NDR). Mae gan drethdalwr hawl i ryddhad am y diwrnodau y mae’n meddiannu eiddo, cyn belled mai ef hefyd oedd y meddiannwr ar 31 Mawrth 2023.
Os yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol rwy'n dod yn atebol am NDR am eiddo nad oeddwn yn ei feddiannu o'r blaen, a fydda i’n gymwys i gael y rhyddhad?
Na fyddwch. Rhaid i drethdalwr fod wedi bod yn atebol am NDR mewn perthynas â'r eiddo ar 31 Mawrth 2023, yn ogystal ag o 1 Ebrill 2023 ymlaen, i fod yn gymwys i gael y rhyddhad.
A fydd hawl rhyddhad trosiannol yn cael ei hailgyfrifo yn 2024-25, i wneud cyfrif am unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd sy'n deillio o chwyddiant y lluosydd NDR?
Na fydd. Mae hawl rhyddhad trosiannol (h.y. y didyniad mwyaf o'r swm a godir) yn cael ei chyfrifo am ddwy flynedd y cynllun ar sail y sefyllfa ar 1 Ebrill 2023. Ni fydd yn cael ei hailgyfrifo ar 1 Ebrill 2024. Bydd y didyniad a fydd wedi'i gyfrifo ymlaen llaw yn cael ei gymhwyso i atebolrwydd trethdalwr yn 2024-25, yn seiliedig ar y lluosydd perthnasol. Dim ond os bydd gwerth ardrethol yr eiddo yn newid neu os yw'r trethdalwyr cymwys yn peidio â meddiannu'r eiddo y bydd yr hawl yn cael ei haddasu.
Os bydd gwerth ardrethol fy eiddo yn newid yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, a fydd fy hawl yn cael ei hailgyfrifo?
Bydd. Os bydd gwerth ardrethol eiddo cymwys yn newid yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, bydd yr hawl yn cael ei hailgyfrifo. Mae atebolrwydd NDR a hawl rhyddhad trosiannol yn cael eu cyfrifo'n ddyddiol a byddant yn cael eu hailgyfrifo o ddyddiad effeithiol y newid, yn seiliedig ar y camau a nodir yn y canllawiau hyn. Dyma fydd yn digwydd os bydd gwerth ardrethol yn cynyddu neu'n lleihau. Gall newidiadau mewn gwerth ardrethol ddigwydd am amryw o resymau.
Os yw fy eiddo heb ei feddiannu, ond fi yw'r trethdalwr o hyd, beth fydd yr effaith ar fy hawl?
Os yw’ch eiddo wedi’i feddiannu ar 31 Mawrth 2023 a heb ei feddiannu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd gennych hawl o hyd i ryddhad trosiannol, oni bai bod eich eiddo yn cael rhyddhad elusennol ar gyfer eiddo heb ei feddiannu o dan baragraff 2 o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 (eiddo heb ei feddiannu lle disgwylir i'r defnydd nesaf fod at ddibenion elusennol neu fel clwb chwaraeon amatur cymunedol). Gall eiddo gwag gael rhyddhad llawn o NDR am dri mis (neu chwe mis ar gyfer eiddo diwydiannol) ar ôl iddo ddod yn eiddo sydd ei feddiannu, felly ni fydd y rhyddhad trosiannol yn cael unrhyw effaith ar atebolrwydd yn ystod unrhyw gyfnod o'r fath. Byddech yn parhau i elwa o ryddhad trosiannol os bydd eich eiddo'n parhau i fod heb ei feddiannu wedi hynny, neu os byddwch yn ailddechrau meddiannaeth (cyn belled mai’r un yw’r meddiannydd â'r meddiannydd ar 31 Mawrth 2023).
Beth alla i ei wneud os oes gen i reswm i gredu bod fy rhyddhad wedi cael ei gyfrifo'n anghywir?
Os oes gennych reswm i gredu bod y rhyddhad a ddyrannwyd i'ch eiddo neu fod eich bil NDR yn anghywir, dylech gysylltu â'r awdurdod lleol sy'n gweinyddu’ch rhyddhad neu’ch bil.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau deall gwerth ardrethol fy eiddo?
Un o Asiantaethau Gweithredol Cyllid a Thollau EF yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae’n gorff annibynnol ac mae’n gyfrifol am lunio a chynnal rhestrau ardrethu ar gyfer Cymru. Os ydych eisiau deall sut y pennwyd gwerth ardrethol eich eiddo neu os oes gennych ymholiad amdano, dylech gysylltu â’r VOA.
Enghraifft 1
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £6,000 i £9,000 ac mae hawl SBRR yn cael ei lleihau.
Pennu’r atebolrwydd sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2023, mae’r hereditament yn gymwys am SBRR:
(6,000 x 0.535) / 5,000,000 = £0
Pennu’r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2023, mae’r hereditament yn gymwys am SBRR:
(9,000 x 0.535) / 2 = £2,408
Cymharu’r atebolrwydd sylfaenol â’r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw’r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na’r atebolrwydd sylfaenol:
2,408 – 0 = £2,408
Pennu’r didyniad mwyaf o’r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023:
(2,408 - 0) x 0.67) / 366 = £4.41
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2024:
(2,408 - 0) x 0.34) / 365 = £2.24
Pennu’r swm a godir (atebolrwydd) heb ryddhad trosiannol
Gan mai SBRR yw’r unig ryddhad statudol arall sy’n gymwys i’r hereditament, y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 yw:
(9,000 x 0.535) / (366 x 2) = £6.58
Pennu’r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023, y swm dyddiol a godir yw:
6.58 – 4.41 = £2.17
Enghraifft 2
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £10,000 i £13,000 ac mae hawl SBRR yn cael ei dileu.
Pennu’r atebolrwydd sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2023, mae’r hereditament yn gymwys am SBRR:
(10,000 x 0.535) / 1.5 = £3,567
Pennu’r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2023, nid yw’r hereditament yn gymwys am SBRR:
13,000 x 0.535 = £6,955
Cymharu’r atebolrwydd sylfaenol â’r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw’r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na’r atebolrwydd sylfaenol:
6,955 – 3,567 = £3,388
Pennu’r didyniad mwyaf o’r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023:
(6,955 – 3,567) x 0.67) / 366 = £6.20
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2024:
(6,955 – 3,567) x 0.34) / 365 = £3.16
Pennu’r swm a godir (atebolrwydd) heb ryddhad trosiannol
Gan nad yw’r hereditament yn gymwys am unrhyw ryddhad statudol arall, y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 yw:
(13,000 x 0.535) / 366 = £19.00
Pennu’r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023, y swm dyddiol a godir yw:
19.00 – 6.20 = £12.80
Enghraifft 3
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £50,000 i £60,000.
Pennu’r atebolrwydd sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2023, nid yw’r hereditament yn gymwys am SBRR:
50,000 x 0.535 = £26,750
Pennu’r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2023, nid yw’r hereditament yn gymwys am SBRR:
60,000 x 0.535 = £32,100
Cymharu’r atebolrwydd sylfaenol â’r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw’r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na’r atebolrwydd sylfaenol:
32,100 – 26,750 = £5,350
Pennu’r didyniad mwyaf o’r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023:
(32,100 – 26,750) x 0.67) / 366 = £9.79
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2024:
(32,100 – 26,750) x 0.34) / 365 = £4.98
Pennu’r swm a godir (atebolrwydd) heb ryddhad trosiannol
Gan nad yw’r hereditament yn gymwys am unrhyw ryddhad statudol arall, y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 yw:
(60,000 x 0.535) / 366 = £87.70
Pennu’r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023, y swm dyddiol a godir yw:
87.70 – 9.79 = £77.91
Enghraifft 4
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £15,000 i £16,000. Mae’r hereditament yn gymwys am ryddhad elusennol.
Pennu’r atebolrwydd sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2023, nid yw’r hereditament yn gymwys am SBRR:
15,000 x 0.535 = £8,025
Pennu’r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2023, nid yw’r hereditament yn gymwys am SBRR:
16,000 x 0.535 = £8,560
Cymharu’r atebolrwydd sylfaenol â’r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw’r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na’r atebolrwydd sylfaenol:
8,560 – 8,025 = £535
Pennu’r didyniad mwyaf o’r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023:
(8,560 – 8,025) x 0.67) / 366 = £0.98
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2024:
(8,560 – 8,025) x 0.34) / 365 = £0.50
Pennu’r swm a godir (atebolrwydd) heb ryddhad trosiannol
Gan fod yr hereditament yn cael rhyddhad elusennol gorfodol o 80%, y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 yw:
(16,000 x 0.535) / (366 x 5) = £4.68
Pennu’r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023, y swm dyddiol a godir yw:
4.68 – 0.98 = £3.70
Dyma’r swm dyddiol a godir cyn cymhwyso unrhyw ryddhad elusennol atodol (h.y. ar ben yr 80% gorfodol) a ddyfarnir yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol.
Enghraifft 5
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £15,000 i £16,000. Mae’r hereditament heb ei feddiannu.
Pennu’r atebolrwydd sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2023, nid yw’r hereditament yn gymwys am SBRR:
15,000 x 0.535 = £8,025
Pennu’r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2023, nid yw’r hereditament yn gymwys am SBRR:
16,000 x 0.535 = £8,560
Cymharu’r atebolrwydd sylfaenol â’r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw’r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na’r atebolrwydd sylfaenol:
8,560 – 8,025 = £535
Pennu’r didyniad mwyaf o’r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023:
(8,560 – 8,025) x 0.67) / 366 = £0.98
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2024:
(8,560 – 8,025) x 0.34) / 365 = £0.50
Pennu’r swm a godir (atebolrwydd) heb ryddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 pan fo rhyddhad eiddo gwag yn gymwys, y swm dyddiol a godir yw £0.
Ar gyfer unrhyw ddiwrnod arall yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023, y swm dyddiol a godir yw:
(16,000 x 0.535) / 366 = £23.39
Pennu’r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 pan fo rhyddhad eiddo gwag yn gymwys, y swm dyddiol a godir yw:
0 – 0.98 < £0
Gan na all y swm a godir fod yn negatif, mae’n cael ei bennu’n sero.
Ar gyfer unrhyw ddiwrnod arall yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023, y swm dyddiol a godir yw:
23.39 – 0.98 = £22.41