“Mae Busnes Cymru wedi ein helpu, o lunio cynllun busnes, i help gyda chyflogi staff trwy gynllun Kickstart.” 

Person working in a boatyard shop serving customers

 

Penderfynodd Liz a Simon Kirkham droi eu pleser o gychod a dŵr yn fusnes. Felly, fe aethon nhw ati a chymryd naid i’r gwyll trwy brynu iard gychod.

Ȃ’r rheiny heb unrhyw brofiad blaenorol o redeg busnes, fe gawsant eu paru gydag un o fentoriaid Busnes Cymru a aeth ymlaen i gefnogi Liz a Simon gyda’r dasg o reoli’r busnes yn gyffredinol. Gwnaethant hefyd fynychu dau weminar, ‘Materion Treth a Chadw Llyfrau’ a ‘Cychwyn a Rhedeg Busnes’, er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o fyd busnes. Drwy’r cymorth a gawsant, aethant ati i ddrafftio cynllun busnes a rhagolwg llif arian, a adolygwyd gan eu mentor er mwyn sicrhau eu bod ar y trywydd cywir.

Yn ogystal â hynny, maen nhw wedi cyflogi gweithiwr ifanc o’r Cynllun Kickstart, sy’n darparu cyllid i gyflogwyr greu swyddi ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.

Mae Above the Brine  yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac offer morol ar gyfer cychod yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon. 

Cysylltwch â ni heddiw i ganfod sut allwn ni eich helpu Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen