BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ali Barber

Ali Barber

Diolch i gefnogaeth ac arweiniad fy ymgynghorydd, bues yn llwyddiannus wrth sicrhau cymorth gan y Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref, sydd wedi fy ngalluogi i ddechrau fy musnes. Erbyn hyn, mae gen i swydd ac rwyf wedi sicrhau dyfodol i mi a fy nheulu.

Mae Ali Sulaiman Ali yn ffoadur o Syria a ddaeth i Gymru ychydig flynyddoedd yn ôl. Mynychodd un o’n gweminarau Dechrau Busnes, a oedd wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer ffoaduriaid o Syria, lle dechreuodd ddatblygu ei syniad busnes o agor siop farbro.

Mae ei ymgynghorydd busnes hefyd wedi bod yn cydweithio’n agos ag Ali dros y 6 mis diwethaf, ac mae wedi’i helpu i wneud cais am y Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref drwy baratoi cynllun busnes a llunio rhagolygon ariannol.

Roedd ei gais yn llwyddiannus, ac mae bellach wedi dechrau masnachu - ac mae wedi gwneud gwaith arbennig gyda’i siop sydd wedi’i lleoli yng nghanol Wrecsam! 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.