BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Arabic Flavour 

Arabic Flavour 

Y bwyty Arabaidd cyntaf yn Aberystwyth yn lansio’n llwyddiannus, ac mae’n barod i dyfu ar ôl i gyfyngiadau’r cyfnod clo godi. 

Wedi’i redeg gan Ghofran Hamza o Syria, Arabic Flavour yw’r bwyty cyntaf o’r Dwyrain Canol yn Aberystwyth. Ar ôl ymgysylltu â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar brosiect gwahanol yn syth ar ôl symud i’r DU, bu i Ghofran elwa ar gefnogaeth busnes newydd ac AD wrth iddi ddechrau symud ymlaen a lansio ei bwyty ei hun. 

Cyflwyniad i’r busnes

Arabic Flavour yw’r bwyty Arabaidd cyntaf yn Aberystwyth sy’n cael ei redeg gan deulu o ffoaduriaid o Syria. Mae’r bwyty ei hun yn falch o weini amrywiaeth o brydau o’r Dwyrain Canol, gan gynnwys bwyd o Lebanon, Syria a Thwrci, wedi’i baratoi gyda chynnyrch ffres lleol.

Gofynnon i’r perchennog Ghofran ddweud ychydig mwy wrthym am ei thaith fusnes yn y DU:

Pam y gwnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Cyrhaeddais yn y DU yn 2018 fel ffoadur 18 oed o Syria. Bryd hynny, meddyliais am ddechrau prosiect coginio, gan nad oeddwn yn gallu dod o hyd i unrhyw fwytai o’r Dwyrain Canol yn Aberystwyth. Ym mis Hydref 2018, gyda help a chymorth y Groes Goch, gwnaethom sefydlu Prosiect Swper Syria a chynhaliom ein digwyddiad coginio cyntaf erioed gan godi arian i deuluoedd o Syria. Cawsom lawer o gariad a chefnogaeth gan y gymuned, felly penderfynodd pump ohonom ni, gan gynnwys fy mam a fi, i fwrw ymlaen â’r prosiect. Fi oedd yr unig un oedd yn siarad Saesneg yn dda, felly ro’n i’n gyfrifol am gofrestru ein prosiect fel menter gymdeithasol. Creais ein logo a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol; ro’n i hefyd yn edrych ar ôl y gwaith rheoli, cyfrifo a marchnata.  

Er ein bod ni’n gwneud yn dda gyda’n gilydd, roedd gan y prosiect sgôp cyfyngedig ac elw cyfyngedig. Ro’n i’n cael trafferth hefyd i ddod o hyd i waith arall mewn tref fechan fel Aberystwyth Felly, penderfynais sefydlu fy musnes fy hun a chyflogi fy nheulu, fel y gallwn oll weithio gyda’n gilydd a bod yn fuddiol i’r gymuned drwy redeg bwyty Arabaidd cyntaf y dref.

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Tan nawr, nid oeddem wedi dechrau masnachu o’r bwyty oherwydd y cyfnod clo, ac rydym yn wynebu llawer o heriau gan nad oes gen i lawer o brofiad.  

Her arall oedd bod gan lawer o’n hoffer ofynion arbennig. Er enghraifft, nid oeddwn yn ymwybodol bod angen canopi echdynnol arbennig ar y popty bara a brynwyd am £3,000. Nid oeddwn yn gallu dod o hyd i unrhyw un sy’n gwneud hyn yn Aberystwyth, a byddai’n costio dros £8,000 i osod dim ond un. Nid yw’r popty’n cael ei ddefnyddio mwyach a doedd dim modd ei anfon yn ôl. Gwnaethom hefyd brynu peiriant golchi llestri pŵer 3 cham am £1,800 cyn sylweddoli mai dim ond pŵer un cam oedd ar gael yn yr eiddo ac y byddai’n costio miloedd i sicrhau ei fod yn gweithio. Eto, ni allwn ddefnyddio’r peiriant golchi llestri ac ni dderbyniodd y cwmni’r peiriant yn ôl. Ymhellach, nid oeddem yn gallu dod o hyd i unrhyw un fyddai’n cysylltu ein popty nwy at ddibenion masnachol. Achosodd hyn lawer o straen. 

Er gwaethaf llawer o broblemau eraill, gan gynnwys cofrestru gyda CThEM, cyflogi pobl, gwneud cais am gyllid a deall rheolau a rheoliadau’r Llywodraeth ynghylch dechrau busnes bwyd, rydym bron iawn yno. Byddwn yn defnyddio offer amgen yn y cyfamser fel y gallwn ddechrau arni.  

Cefnogaeth Busnes Cymru

Cefnogodd Busnes Cymru Ghofran a llawer o fenywod o Syria oedd yn ffoaduriaid i sefydlu Prosiect Swper Syria, oedd yn eu galluogi i goginio a gwerthu eu bwyd i godi arian i’w teuluoedd. 

Yn dilyn llwyddiant y fenter, ceisiodd Ghofran gyngor Busnes Cymru ar agor ei bwyty ei hun, Arabic Flavour. Gweithiodd gyda’n hymgynghorydd busnesau newydd, Barry Morgan, wnaeth ei helpu gyda chynllunio’r busnes, eiddo, pennu marchnadoedd targed a chadw’r llyfrau. Gwnaeth ein hymgynghorydd arbenigol, Catherine Rowland, roi cyngor pellach ar faterion AD, gan gynnwys recriwtio, contractau cyflogaeth a llawlyfrau staff, gan helpu Ghofran i recriwtio am y tro cyntaf. Helpodd Ghofran hefyd i gofrestru ar gyfer Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru, gan arddangos ei hymrwymiad i gynnig gwasanaeth cynhwysol yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a lles staff, cwsmeriaid a chyflenwyr.

Deilliannau 

  • Wedi llwyddo i ddechrau’r busnes
  • Cefnogaeth fusnes newydd gan gynnwys AD a recriwtio
  • Wedi ymrwymo i Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru

Roedd Barry’n help mawr o’r cychwyn cyntaf. Gwnaeth fy helpu i ddeall sut i gyflogi pobl a gwneud cais am grantiau. Rhoddodd gyngor hefyd ar gadw llyfrau a chyfrifo, yn ogystal â sut i reoli’r busnes. Roedd yno bob amser i ateb unrhyw ymholiad oedd gen i. Oes oedd rhywbeth y tu allan i’w gylch gorchwyl, byddai’n fy atgyfeirio i rywun arall o Fusnes Cymru fyddai’n gallu helpu.

Cynlluniau ac uchelgeisiau yn y dyfodol

Ar ôl y cyfnod clo, rydym yn bwriadu dechrau gweini bwyd wedi’i goginio a gwerthu cynnyrch bwyd Arabaidd hefyd, fel bod modd i bobl goginio ein ryseitiau gyda blasau Arabaidd gwreiddiol gartref. Fel y gwelsom wrth weithio o gartref, mae gan ein busnes botensial a does dim amheuaeth yn fy meddwl i y byddwn ni’n llwyddo os ydym yn cynllunio’n dda ac yn gweithio ag angerdd. 

Unwaith y byddwn wedi sefydlu, rydym yn awyddus i greu sianel YouTube a rhannu ein ryseitiau. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu tyfu’r busnes ac ehangu’r brand gyda bwytai a siopau mewn trefi eraill yng Nghymru.  

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.