BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

ART Carpenter and Decorator

Abdul Rahman Al Dirani

Cefnogaeth a chyllid wedi’i deilwra gan Busnes Cymru yn helpu entrepreneur o Syria i lansio ei fusnes gwella cartrefi yng Nghasnewydd.  

 

Yn bensaer profiadol, roedd Abdul Rahman Al Dirani yn wynebu nifer o heriau ar ôl cyrraedd yn y DU. Llwyddodd gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i greu pecyn cymorth wedi’i deilwra i Abdul yn ei famiaith, Arabeg, i’w helpu i lansio ei fusnes gwaith saer ac addurno yn 2021.  

  • Dechrau llwyddiannus.
  • Wedi creu 1 swydd.
  • Wedi sicrhau £2,000 gan Grant Rhwystrau Busnes Cymru.
  • Wedi cofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru.

Cyflwyniad i’r busnes

Gyda 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant yn ei wlad enedigol, Syria, dechreuodd Abdul Rahman Al Dirani fusnes ART Carpenter and Decorator i gynnig gwasanaethau gwella cartrefi, gan gynnwys gwaith saer, paentio ac addurno, yn ardal Casnewydd. 

Gofynnom i Abdul am yr heriau o ddechrau busnes mewn gwlad dramor.

Pam benderfynoch chi sefydlu eich busnes eich hun?

Ers cyrraedd yn y DU, ro’n i’n derbyn cymorth gan Gredyd Cynhwysol. Dechreuais weithio eto a gwneud arian o fy musnes fy hun. Rwy’n brofiadol ac yn weithiwr caled, ac yn awyddus i fynd i mewn i’r maes gwaith saer ac addurno, gan mai dyma oeddwn i’n ei wneud gartref.  

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Y brif her i mi, wnaeth fy atal rhag dechrau swydd, oedd y rhwystr o ran iaith. Roedd rhaid i mi astudio Saesneg am 3 blynedd, fel bod modd i mi gysylltu a siarad gyda chwsmeriaid. Ar ôl hynny, sylweddolais nad oedd gen i ddigon o arian i brynu unrhyw offer hanfodol a fan i ddechrau’r busnes. Oherwydd hyn, penderfynais gyflwyno cais i Grant Rhwystrau Busnes Cymru er mwyn fy helpu i dalu’r costau hyn a dod o hyd i’r offer.  

Cefnogaeth Busnes Cymru

Er bod gan Abdul ystod o brofiad a gwybodaeth yn y diwydiant, nid oedd yn siŵr am fod yn berchennog busnes yn y DU. Ar ôl atgyfeiriad gan Gyngor Casnewydd, cysylltodd â Busnes Cymru a derbyniodd gefnogaeth yn ei famiaith, Arabeg. Helpodd ei ymgynghorydd dechrau busnes, Shahidul Islam, i fagu ei hyder, ennill sgiliau a sicrhau cyllid i ddechrau ar ei fusnes.

Yn ogystal, cofrestrodd Abdul i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru ac mae wedi ymrwymo i ddefnyddio cyflenwyr lleol, cerbydau allyriadau isel, archebu ar-lein er mwyn lleihau ei ôl-troed carbon a chadw cofnodion ar gyfrifiadur o gyllid, dyfynbrisiau ac anfonebau er mwyn lleihau gwastraff a phostio.

Deilliannau

  • Dechrau llwyddiannus.
  • Wedi creu 1 swydd.
  • Wedi sicrhau £2,000 gan Grant Rhwystrau Busnes Cymru.
  • Wedi cofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru.

Rwy’n weithiwr profiadol, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i ddechrau busnes yma na’n siarad yr iaith. Cefais lawer o help gan Shahid, fy ymgynghorydd, drwy sicrhau bod yr holl gyfathrebu a’r gefnogaeth mewn Arabeg. Rwy’n ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth, gan fod ei gyngor a’i help gyda’r cais am gyllid wedi golygu bod modd i mi ddechrau gweithio eto. 

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

Rwy’n bwriadu prynu rhagor o offer ac adnoddau arbenigol fydd yn fy helpu i ehangu’r busnes a chynyddu fy elw. Bydden i’n awyddus i allu darparu ar gyfer fy nheulu. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio tyfu fy musnes yn sylweddol fel y gall y gymdeithas elwa ohono, drwy greu swyddi i bobl eraill. 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.