BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Be My Bear

Be My Bear

Mae cyflenwr tedi bêrs Killing Eve a Hollyoaks wedi llwyddo nid yn unig i oroesi Covid-19, ond i ehangu’n rhyngwladol yn ystod y pandemig.

Cyflwyniad i’r busnes

Wedi’i sefydlu yn 2001 ym Mae Colwyn, mae Be My Bear yn arbenigo mewn pecynnau creu tedi bêrs, ategolion, anrhegion unigryw a chynnyrch partïon moethus. Mae cangen gyfanwerthol y busnes, Be My Bear Wholesale, yn cyflenwi pecynnau, dillad tedi bêrs ac ategolion i ystod o sectorau, gan gynnwys manwerthu, adloniant a chorfforaethol.  

  • Grant £36,000 gan Gyngor Conwy
  • Cronfa ERF Llywodraeth Cymru gwerth £6,000 
  • Brexit, Covid-19 a chyngor arbenigol
  • Wedi diogelu 4 o swyddi

Mae Svetlana Ross, Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Be My Bear, Pippa Thomas drwy gydol y pandemig Covid-19, gan helpu’r busnes i sicrhau cyfanswm o £42,000 o fuddsoddiad drwy grantiau’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.

O ganlyniad, nid yn unig y mae Be My Bear wedi gallu goroesi effeithiau Brexit a Covid-19, mae hefyd wedi ehangu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol drwy adeiladu dwy wefan newydd a sicrhau dosbarthwr newydd yng Nghyprus. Nawr, bydd Pippa’n ymgysylltu ag ymgynghorydd Masnach Rhyngwladol Busnes Cymru er mwyn datblygu ymhellach rhan allforio’r busnes.

Gwnaethom gwrdd â Pippa i ddysgu mwy am beth wnaethon nhw i daclo pandemig Covid-19:

Pa heriau achosodd Covid-19 i’r busnes?

Rydym wedi treulio bron i flwyddyn yn ail-ddylunio ein dwy wefan www.bemybear.com a www.bemybearwholesale.com am bris o £25,000, a’r busnes sydd wedi ariannu hyn yn gyfan gwbl. Y syniad y tu ôl i ddatblygu’r gwefannau oedd taclo effaith Brexit drwy ddefnyddio’r dechnoleg a’r swyddogaethau mwyaf newydd i dargedu marchnad allforio manwerthu a chyfanwerthu yn ogystal â pharhau i gysoni ac ehangu marchnad y DU. Nawr, mae gennym effaith ychwanegol y pandemig i ddelio â hi, sydd hyd yma wedi arwain at golli gwerth £300,000 o werthiannau. Yn anffodus, mae’r safleoedd wedi cymryd llawer hirach i ddylunio a datblygu na’r hyn yr oeddem wedi’i ddisgwyl. Diolch byth, llwyddom i’w lansio nhw o’r diwedd fis diwethaf!

Nawr mae angen i ni ddatblygu ymgyrch SEO eang, gan gasglu a defnyddio data ar sail ymddygiad cyfrifiadurol ledled y ddau safle gan ddefnyddio geiriau allweddol, sgoriau, cyfraddau trosi ac uchafu er mwyn rhoi hwb i archebion a refeniw. Mae’n rhaid i ni hyrwyddo cynnwys a gyhoeddir ar y wefan drwy’r cyfryngau cymdeithasol, marchnata dros e-bost, ymgyrchoedd SEO a PPC hyd yn oed. Mae marchnata digidol yn arwain at heriau arbennig gan fod sianeli digidol cystadleuol yn newid yn gyflym, ac mae’n rhaid i farchnatwyr digidol wybod y diweddaraf o ran sut mae’r sianeli’n gweithio, sut mae cwsmeriaid yn eu defnyddio a sut i ddefnyddio’r sianeli hyn i farchnata cynnyrch neu wasanaethau’n effeithiol. 

Yn ogystal, mae’n dod yn fwy anodd dal sylw cwsmeriaid, gan eu bod nhw’n gweld cymaint o hysbysebion sy’n cystadlu, Mae hyn yn faes arbenigol iawn ac mae angen i ni allanoli’r gwaith hwn i arbenigwyr marchnata digidol sy’n dadansoddi’r swm enfawr o ddata y maent yn ei gasglu, ac yna ecsbloetio’r data hwn mewn ymdrechion marchnata. Mae’n cymryd rhwng 3-6 mis i ddechrau cael cydnabyddiaeth a rhoi hwb i werthiannau. Bydd hyn yn gost barhaus i gadw sgôr uchel ar y peiriannau chwilio a pharhau i dyfu’r busnes.  

Sut mae ein hymgynghorydd wedi’ch helpu chi?

Helpodd Svetlana fi i gael mynediad i Grant Penodol i Sector werth £6,000 gan Lywodraeth Cymru, oedd yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi hamdden. Nid oeddwn i’n meddwl ‘mod i’n gymwys ar gyfer y grant, oherwydd ro’n i’n tybio ei fod yn uniongyrchol ar gyfer cwmnïau sy’n cyflenwi bwyd ac ati i’r diwydiant lletygarwch. Fodd bynnag, rydym yn cyflenwi nifer fawr o gleientiaid hamdden gan gynnwys safleoedd gwyliau Butlins a’r gadwyn dafarndai Greene King, felly awgrymodd Svetlana y dylwn i gyflwyno cais, ac ro’n i’n llwyddiannus!  

Bydd hyn yn talu costau SEO am bron i dri mis, sy’n help mawr. Mae Svetlana wedi bod yn gefnogaeth wych dros yr ychydig flynyddoedd heriol diwethaf gyda gwybodaeth helaeth a chyngor ymarferol bob amser. Ac os na all hi helpu, bydd hi’n dod o hyd i rywun fydd yn gallu’ch helpu!

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

Yn gyffredinol, rwy’n disgwyl i werthiannau dyfu’n sylweddol yn y DU ac Ewrop. Os gallwn ni godi’n proffil yn y farchnad, byddwn yn cynyddu gwerthiannau ar y safleoedd manwerthu a chyfanwerthu. Mae’r pandemig wedi arwain at gynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n siopa ar-lein, ac rydym yn disgwyl gallu targedu’r cwsmeriaid hyn yn effeithiol iawn gyda rhagor o farchnata digidol. 

Mae cyfleoedd enfawr hefyd yn y farchnad gyfanwerthu - rydym wedi cyflenwi tedi bêrs i nifer o sioeau teledu gan gynnwys X Factor, Hollyoaks, The Apprentice ac yn fwy diweddar, trydedd gyfres Killing Eve a Baptiste 11 sydd heb gael ei ddarlledu eto. Gall marchnata gwell roi hwb i’n proffil ledled y diwydiant ffilmiau, ymysg rhai eraill. Bydd gwella a hyrwyddo’n ddigidol y ddwy wefan newydd gan ddefnyddio’r dechnoleg a’r swyddogaethau diweddaraf yn fy ngalluogi i dargedu marchnad allforio manwerthu a chyfanwerthu newydd yn ogystal â pharhau i gysoni ac ehangu marchnad y DU. Bydd cynnydd mewn gwerthiannau yn helpu i wrthbwyso’r ffiniau mwy cyfyngedig a achoswyd gan bryderon am Brexit a’r pandemig, sydd wedi costio £300,000 o werthiannau i mi ers mis Mawrth y llynedd.

Bydd gwneud rhai elfennau ar y wefan yn awtomataidd yn rhyddhau staff gweinyddol gan eu galluogi i ganolbwyntio ar agweddau eraill ar gynyddu’r busnes megis galwadau gwerthu poeth ac oer. Bydd yr SEO yn helpu i ddenu cwsmeriaid newydd drwy leihau costau hysbysebu a TG a’n helpu i barhau i fod yn gystadleuol. O ganlyniad, rwy’n gobeithio nid yn unig gwarantu’r 3 aelod staff llawn amser a’r 2 aelod staff rhan amser yr wyf yn eu cyflogi, ond gyda rhagfynegiad o hwb i werthiannau gyda manwerthu ar-lein yn perfformio’n arbennig o dda, byddwn yn rhagweld cynyddu oriau’r staff rhan amser a’r posibilrwydd o greu swydd newydd yn yr adran ddethol a phacio.  

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.