“Mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i chael gan fy Nghynghorydd yn Busnes Cymru wedi bod yn wych a wir wedi fy helpu yn ystod y dyddiau cynnar!”
Gall dechrau busnes deimlo’n hynod anodd a llethol, fel y canfu Kate Dibble yn fuan pan ddechreuodd ei busnes, Boushka Candle Co, yn gwerthu canhwyllau 100% soi ac olewau naws.
Ar ôl cymryd rhan yn ein gweminar Dechrau a Rhedeg Eich Busnes Eich Hun, gwnaeth hyder Kate yn dilyn y cwrs ei hannog i gofrestru i gael cymorth un i un ychwanegol gydag un o’n cynghorwyr busnes.
Ers hynny mae Kate wedi cael amrywiaeth o gefnogaeth ar gyfer ei busnes, gan gynnwys cynllunio busnes, marchnata, prisio, a rheoli cyllid y busnes.
Mae hi wedi ymuno â’r Addewid Twf Gwyrdd gan annog dulliau gweithio cynaliadwy, megis gweithio gyda chyflenwyr cynaliadwy, annog uwchgylchu cynhwysyddion y canhwyllau a dewis pecynnau cynaliadwy ar gyfer y cynnyrch.
Yn ogystal, mae Kate yn cael arweiniad gan Cyflymu Cymru i Fusnesau ar farchnata digidol.
Rydym yn falch o glywed bod Boushka Candle Co wedi bod i Ŵyl Happy Place Fearne Cotton ac wedi cael ymateb gwych!
Oes gennych chi syniad ar gyfer busnes? Rhannwch ef gyda'r tîm heddiw i weld sut y gallwn eich helpu.