BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Bryn Glamping

Bryn Glamping

Heb gymorth fy nghynghorwyr busnes, ni fyddai Bryn Glamping wedi llwyddo i’r fath raddau erbyn heddiw.

Dymuniad Huw Rodgers oedd sefydlu ei fusnes glampio yng nghefn gwlad tawel Pen-y-bont ar Ogwr, ond yn fuan iawn fe sylweddolodd y bydddai’n elwa o gael cyngor i greu cynllun busnes er mwyn cychwyn y busnes hwnnw.

Cysylltodd Huw â Business Wales i gael cefnogaeth, gan weithio gyda chynghorydd cychwyn busnes profiadol i ddatblygu cynllun busnes a rhagolygon llif arian. Yn sgil hynny bu’n llwyddiannus yn ei gais am gyllid.

Galluogodd hynny i’w freuddwydion gael eu gwireddu wrth i Huw lansio ei fusnes Bryn Glamping Limited a gweithio’n llawn amser yn ei ddatblygu. Mae’n safle newydd sy’n cynnwys pedwar o gabannau pren sy’n ddelfrydol i ymwelwyr sy’n dymuno dianc i gefn gwlad, gyda phob caban yn cynnwys twb dŵr poeth sy’n cael ei gynhesu gan dân coed!

A hoffech chi gael cefnogaeth gyda’ch syniad busnes? Cysylltwch â ni heddiw! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.