"Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd oherwydd y pandemig, ond mae’r wobr hon yn brawf, gyda’r gefnogaeth, gwaith caled, penderfynoldeb a dyfal barhad cywir, gall breuddwydion gael eu gwireddu!"

Christina Cooling Make Up Artist
Christina Cooling

 

Pan agorodd Christina Cooling ei busnes yn Sir Fynwy fel artist colur llawrydd, roedd Busnes Cymru yno i roi cefnogaeth yn ymwneud â ffyrdd o ddatblygu ei busnes.

Amcan Christina ar gyfer ei busnes yw gwella ei marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a mynd â’i busnes i’r lefel nesaf. 

Er mwyn cyflawni hyn, mynychodd Christina ein gweithdy ‘Ymchwilio a Chynllunio eich Marchnata’, derbyniodd gyngor un i un gan gynghorydd busnes a chefnogaeth gan Superfast Busnes Cymru i wireddu ei photensial marchnata digidol i fusnesau. 

Mae Christina newydd ennill Artist Colur Priodas y Flwyddyn y De Orllewin yng ngwobrau mawreddog ‘The Wedding Industry Awards’ - am anhygoel! Pleidleisiwyd drosti fel un o’r 8 Artist Colur Priodas Gorau yn y DU.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen