BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

EatSleep Media

EatSleep Media

Tarfwr datblygu cynnwys o Gaerdydd yn sicrhau cyllid ac yn creu swyddi yn ystod pandemig Covid-19. 

Mae EatSleep Media yn asiantaeth datblygu cynnwys yng Nghaerdydd, sy’n gwneud pethau ychydig yn wahanol. Gyda thîm o fideograffwyr, crewyr ffilmiau a chyfathrebwyr profiadol, a chefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, daeth y busnes o hyd i ffyrdd i dyfu er gwaetha’r heriau, drwy ddatblygu mwy o gynnwys difyr ac unigryw. 

  • Wedi sicrhau £20,000 drwy Gam 2 a 3 y Gronfa Cadernid Economaidd.
  • Wedi diogelu 4 o swyddi.
  • Wedi creu 3 swydd newydd.
  • Wedi cofrestru ar gyfer addewidion Cydraddoldeb a Thwf Gwyrdd Busnes Cymru.

Cyflwyniad i’r busnes

Wedi’i sefydlu gan Daniel J. Harris, Laurence Mora ac Alex Feeney, mae EatSleep Media yn asiantaeth datblygu cynnwys fideo a sain, sy’n creu rhaglenni ar ffurf cylchgronau, sy’n helpu sefydliadau i adeiladu perthnasau cynaliadwy a hirsefydlog gyda’u cynulleidfaoedd targed.

Gofynnom i’r Cyd-Sylfaenydd Alex Feeney i ddweud mwy wrthym am sut crëwyd y syniad ar gyfer y busnes.

Pam gwnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Datblygodd EatSleep Media allan o bodlediad am bêl-droed Cymru, o’r enw EatSleepFootyRepeat, wnaeth droi i mewn i sioe fideo ar-lein.

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn cadw llygad ar beth roeddem yn ei wneud, a gofynnwyd i ni greu rhaglen oedd yn dathlu arwyr pêl-droed Cymru, o wirfoddolwyr ar lawr gwlad yr holl ffordd at sêr rhyngwladol, a hyrwyddo ei hamcanion strategol.

Ganwyd FC Cymru, a gwnaethom sylweddoli y gallai’r model o ddod o hyd i lysgenhadon ac eiriolwyr i siarad â chynulleidfaoedd ar eu lefel nhw, yn hytrach na gyda jargon corfforaethol, weithio mewn unrhyw sector. 

Rhwng ein tri sylfaenydd, Daniel, Laurence a fi, mae gennym brofiad helaeth o greu ffilmiau, newyddiaduraeth a chyfathrebu corfforaethol, felly rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i ddweud straeon deinamig mewn sawl cyfrwng, sy’n hyrwyddo amcanion allweddol sefydliad yn y ffordd y mae’n targedu beth mae cynulleidfa eisiau. 

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Mae’n siŵr mai’r her go iawn gyntaf y gwnaethom ei hwynebu oedd ei bod wedi cymryd sbel i un o’r sylfaenwyr sylweddoli ei fod wedi dechrau cwmni! Roedd y ddau arall yn brysur yn ei adeiladu a’i ddatblygu.

Felly, y peth cyntaf y gwnaethom ddysgu oedd ei bod hi’n bwysig pennu sut yn union mae pob sylfaenydd yn ystyried y busnes, os oes mwy nag un, gan gynnwys ei ran yn y busnes, sut bydd yn gweithio a beth yw’r amcan cyffredinol.

Mae cael y trafodaethau gonest hynny am weledigaeth a disgwyliadau yn gynnar yn y broses yn eich helpu i osod ffiniau eich busnes. 

Her arall oedd gwneud i bobl ddeall beth roeddem yn ei wneud, pam yr oedd yn wahanol ac yn well na busnesau eraill. Doedd dim fel ein hymagwedd ni yn y farchnad ar yr adeg, a gall hynny arwain atoch yn cwestiynu a ydych yn gwneud y peth iawn.

Ond, roeddem yn ymddiried yn ein barn, ein profiad a’r tîm, a daethom o hyd i gleientiaid cefnogol oedd yn gweld budd yn y ffordd yr ydym yn gwneud pethau. 

Cefnogaeth Busnes Cymru

  • Wedi sicrhau £20,000 drwy Gam 2 a 3 y Gronfa Cadernid Economaidd.
  • Wedi diogelu 4 o swyddi.
  • Wedi creu 3 swydd newydd.
  • Wedi cofrestru ar gyfer addewidion Cydraddoldeb a Thwf Gwyrdd Busnes Cymru.

Cefnogodd Ymgynghorydd Twf Busnes Cymru, Miranda Bishop, EatSleep Media gyda’u cynlluniau ar gyfer twf cyn a thrwy gydol pandemig Covid-19, gan helpu’r busnes i sicrhau £20k mewn cyllid ERF, yn ogystal â diogelu a chreu swyddi. 

Cofrestrodd Alex a’r tîm hefyd ar gyfer addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru i’w helpu nhw i adolygu, cynllunio, gwella a monitro eu harferion AD a chynaliadwyedd. 

Beth allwch chi ei ddweud am eich ymgynghorydd busnes?

Mae Miranda yno i ni pan fo’i hangen. Weithiau gall fod yn fisoedd, ac weithiau yn aml iawn mewn ychydig ddyddiau. 

Mae’n ein helpu i ganolbwyntio; mae’n helpu gyda’r materion ymarferol sy’n deillio o redeg busnes, ac yn rhoi cyngor i ni ar ble gallwn ddod o hyd i gefnogaeth bellach. Mae hefyd wedi bod yn help mawr yn ystod y pandemig, gan roi’r diweddaraf i ni ar gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru, cyfleoedd cyllid ac unrhyw beth arall. 

Nid yw’n swnian arnom na’n gofyn i ni gysylltu’n rheolaidd. Rydym yn gwybod pe byddem yn wynebu problem, neu’n awyddus i ymchwilio unrhyw beth, y cwbl sydd angen i ni ei wneud yw anfon neges ati, a bydd yn gwneud ei gorau i helpu. 

Mae hi fel Alexa, ond yn llawer gwell!

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

Yr amser hen y llynedd roeddem yn edrych ar 2020 fel ein hamser i dyfu’n wirioneddol: cyflogi staff newydd, sicrhau cleientiaid newydd a datblygu ein prosiectau mewnol ein hunain. Wrth gwrs, ni weithiodd pethau felly!

Fel llawer eraill, roedd yn anodd iawn ar adegau ac roeddem yn gweithio o wythnos i wythnos o ran cadw’r cwmni i fynd. Roeddem hefyd yn lwcus o gael cleientiaid gwych fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru, oedd yn dal eisiau cyfathrebu gyda’u cynulleidfaoedd targed ac roedd yn chwilio am ffyrdd arloesol o wneud hynny. 

Gwnaeth i ni ddatblygu cynnyrch ffrydio byw a phodlediadau newydd, a rhoddodd hynny gyfle i ni ymchwilio ffyrdd mwy creadigol o ddarparu cynnwys, y gwnaethom eu mabwysiadu yn rhan o’n portffolio. 
Hefyd, rhoddodd gyfle i ni ganolbwyntio ar un o’n prosiectau hirdymor, rhaglen bêl-droed i fenywod o’r enw Ballers. Roeddem yn awyddus i deilwra’r rhaglen i siwtio ein cynulleidfa darged o ferched 16-25 oed, ond fel dynion mewn oed, nid oedd gennym unrhyw syniad beth roeddent ei eisiau.

Felly, gwnaethom gymryd y cyfle i ddysgu gyda grant Llywodraeth Cymru a chefnogaeth gan Gyflymydd Arloesedd Data Prifysgol Caerdydd. Gwnaethant ein dysgu sut i gasglu a dadansoddi data i adnabod tueddiadau o ran defnydd o gynnwys a phlatfformau, wnaeth roi cyfle i ni i brofi a siapio’r cynnyrch.

Drwy waith caled a chreadigrwydd, mae trosiant 2020-21 yn dal yn well na 2019-20, felly rydym yn dal i dyfu.
Rydym yn awyddus i wneud Ballers yn blatfform poblogaidd y mae merched ifanc eisiau ymweld ag ef i ddysgu rhagor am bêl-droed menywod yn y DU, ac rydym yn datblygu syniadau newydd eraill.  

Yn gyntaf, mae sioe radio am punks sy’n mynd i redeg. Ei enw yw Running Punks ac maent yn ymwneud â chymuned gynhwysol sy’n cefnogi ei gilydd i redeg cyn belled neu cyn lleied ag y mynnent, y cwbl sydd angen iddynt ei wneud yw rhoi cynnig arno a’i fwynhau. 

Rydym wedi cael ein comisiynu i gynhyrchu rhaglen ddogfen am yr heriau o gadw menywod ym maes chwaraeon ar gyfer Radio Wales, ac mae prosiectau eraill ar y gweill ynghylch chwaraeon modur a phêl-droed, ac eto, rydym yn edrych arnynt mewn ffyrdd na fyddai llawer o fusnesau eraill o bosibl. 

Yr uchelgais yw creu rhagor o raglenni dogfen, waeth beth yw’r cyfrwng, ond hefyd parhau i ddatblygu ein sail gleientiaid o ran ein cynnwys cyfathrebu corfforaethol, sy’n cynnwys pobl ac sy’n rhoi eu straeon wrth wraidd popeth.  

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.