BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

EcoSlurps

EcoSlurps

Fe wnaethom gofrestru ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd er mwyn helpu i leihau gwastraff plastig o fewn ein sefydliad ac i’n helpu i gyflawni statws niwtral Carbon.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld newid na welwyd ei debyg o’r blaen gyda mewnforio ac allforio. Bu Busnes Cymru’n gefnogol i’n helpu ni dyfu fel busnes dramor yn ystod y cyfnodau heriol hyn.

Mae EcoSlurps yn darparu mannau manwerthu, bariau, a bwytai gyda chynnyrch ecogyfeillgar yn cynnwys amrywiaeth o wahanol setiau cyllyll a ffyrc, cwpanau, platiau, bowlenni, a gwellt biobydradwy y gellir eu hailddefnyddio.

Yn awyddus i sicrhau bod eu hôl troed carbon yn parhau’n isel, fe wnaeth Gerwyn Holmes, Sylfaenydd EcoSlurps, droi at Busnes Cymru am gyngor ar fesur eu hôl troed carbon a chysylltu â mentrau cymdeithasol lleol. Gyda chyngor gan ei gynghorydd cynaliadwyedd, mae e wedi cofrestru ar gyfer ein Haddewid Twf Gwyrdd. Mae Gerwyn bellach yn gweld y mwyafrif o becynnau’n dod yn rhydd rhag plastig, yn gweithio â chwmnïau sy’n achrededig gyda’r ISO, BSCI a’r FSC a hefyd wedi plannu cannoedd o goed o amgylch y byd i wrthbwyso’r allyriadau carbon wrth iddyn nhw weithio tuag at statws carbon niwtral. 

I ddarganfod mwy am ddod yn fusnes cynaliadwy a sut i gofrestru ar gyfer ein Haddewid Twf Gwyrdd, cysylltwch â’n tîm heddiw!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.