BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Em Creative

Em Creative

Busnes dylunio newydd yn cael ei lansio gyda diolch i Busnes Cymru a Hwb Menter Wrecsam.

Gyda phrofiad helaeth yn y diwydiant, bu i Emma Jones benderfynu mynd amdani a dod yn hunangyflogedig yn dilyn ei hail gyfnod mamolaeth. Trodd Emma at wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru i gael cymorth ac ers hynny mae hi wedi cynyddu ei hyder a sgiliau ymarferol i lansio ei busnes ei hun, Em Creative.

  • dechrau llwyddiannus
  • cyngor ar sefydlu busnes, marchnata a thyfu busnes
  • creu 1 swydd

Cyflwyniad i'r busnes

Bu i Emma Jones gychwyn emcreative er mwyn cynnig datrysiadau dylunio unigryw, o'i diddordeb mewn dylunio a ddatblygodd dros 20 mlynedd wrth weithio mewn timau marchnata a brandio llwyddiannus.

Wedi'i leoli yn Hwb Menter Wrecsam, mae Em Creative yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau creadigol ar draws meysydd brandio, digidol, argraffu a'r cyfryngau cymdeithasol i fusnesau bach.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Cefais fy ail blentyn yn 39 oed ac roeddwn yn teimlo dan fwy o bwysau wrth feddwl am ddychwelyd i'r gwaith, ac yn pryderu fwy yn ariannol o'i gymharu â phan gefais fy mhlentyn cyntaf. Ar ôl cyfuno cost gofal plant a gofal ar ôl ysgol, roeddwn yn teimlo nad oeddwn yn ennill dim drwy fynd yn ôl i weithio!

Roeddwn wastad wedi ystyried gweithio i mi fy hun, ond nid oeddwn wedi bod ddigon hyderus - ond roedd fy nghyfnod mamolaeth wedi rhoi amser i mi archwilio'r syniad ac edrych yn iawn ar sut y gallwn blannu'r hedyn hwnnw! Y cam cyntaf a gymerais fel rhan o'r ymchwil hwnnw oedd cysylltu â Busnes Cymru ac edrych ar y cymorth oedd ar gael. Treuliais amser yn siarad â fy rhwydwaith o deulu, ffrindiau a phobl oedd eisoes yn hunangyflogedig (pwysig!) er mwyn cael gwybodaeth a denu ychydig o ddiddordeb yn y busnes cyn i mi gychwyn.

Pa heriau a wyneboch?

Fy her fwyaf oedd credu ynof fy hun. Credu fy mod yn gallu mynd amdani a chredu fy mod ddigon da a chredadwy i ddarparu gwasanaeth o safon uchel. Yn ogystal, roedd rheoli fy amser o amgylch gweithio, bod yn fam brysur a neilltuo amser i sefydlu'r busnes yn her ddyddiol! Gyda'r holl gymorth yn y byd, nid oedd hyn yn hawdd, mae'n rhaid i chi fod yn barod i weithio'n galed ac aberthu ambell beth.

Cymorth Busnes Cymru

Derbyniodd Emma gefnogaeth gan Lee Stephens, ymgynghorydd Busnes Cymru, oedd wrth law i gynorthwyo gyda'r holl agweddau ar sefydlu busnes, yn cynnwys cynllunio busnes, marchnata a gosod telerau, ymysg pethau eraill.

Mae Emma hefyd wedi elwa o weithdai, digwyddiadau a man cydweithio a ddarparwyd gan Hwb Menter Wrecsam, Busnes Cymru.

Canlyniadau

  • dechrau llwyddiannus
  • cyngor ar sefydlu busnes, marchnata a thyfu busnes
  • creu 1 swydd

Ni fyddwn wedi cyflawni cymaint yn ystod fy mlwyddyn gyntaf heb gymorth Busnes Cymru a phawb yn Sgwâr y Dref a Hwb Wrecsam. Ar ôl sylweddoli bod y cymorth yno, amsugnais y cyfan fel sbwng! Mynychais y cwrs Merched mewn Busnes ac yn fuan wedi hynny ymunais â'r Clwb Busnesau Newydd, ac roedd y ddau yn werthfawr tu hwnt wrth fy helpu i ddysgu am hanfodion busnes a gwneud cysylltiadau gwych i ddatblygu fy musnes. Rwy'n cwrdd â [fy ymgynghorydd] Lee [Stephens] yn aml ac yn gwybod ei fod ar gael ar unrhyw adeg i fy nghefnogi a siarad am gyfeiriad fy musnes.

Fy mhryder mwyaf oedd 'rhedeg busnes' yn llwyddiannus heb unrhyw gefndir! Gallaf ddylunio drwy'r dydd bob dydd, rwyf wrth fy modd! Rwy'n dda wrth fy ngwaith ac rwy'n gwybod fy mod yn gallu darparu'r hyn mae pobl ei angen, ond yr un peth oedd yn fy rhwystro drwy'r adeg oedd, 'sut y byddaf yn rhedeg fy musnes?' Fodd bynnag, os yw hynny yn rhywbeth sydd yn eich rhwystro chi, cofiwch fod modd i chi 'ddysgu' am y broses honno. Rhaid i chi dderbyn y bydd yn cymryd blynyddoedd i'w feistroli, nid wyf yn hollol hyderus ynof fy hun eto, ond rwyf wedi dysgu cymaint yn barod ac yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd am beth i'w wneud neu beth i beidio â'i wneud! Felly, mae hynny i gyd yn dod â'r gorchwyl o sefydlu busnes. Cyn belled â bod gennych yr adnoddau ac angerdd am yr hyn rydych eisiau ei wneud, bydd y gweddill yn dilyn, gyda llawer o ffydd a gwaith caled! Os ydych yn gweithio'n ddygn i gael yr hyn rydych ei eisiau o'ch busnes a ddim yn rhoi'r ffidil yn y to wrth wynebu heriau, byddwch yn siŵr o lwyddo! Rwy'n gweld hynny nawr!

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf o redeg busnes, gosodais nod i mi fy hun, sef adeiladu'r busnes i lefel lle roeddwn yn gallu gadael fy swydd ar ôl 16 mlynedd a mynd i weithio yn emcrative yn llawn amser. Yn ddiweddar, llwyddais i wneud hynny! Yn ogystal, ac er ei fod yn ddigon i godi gwallt fy mhen, roedd yn dda gallu ticio'r bocs cyntaf. Nawr, rwyf eisiau ffocysu ar fy mhortffolio a pharhau i weithio a chefnogi cleientiaid lleol a thu hwnt. Yn y pen draw, hoffwn dyfu'r busnes yn stiwdio fy hun, a chael tîm. Fy mhrif uchelgais yw dysgu fy mhlant eu bod nhw'n gallu cyflawni unrhyw beth wrth weithio'n galed a rhoi eu holl sylw iddo!

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.