BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Eva Vradiy

By the Wye

Rwy’n hynod ddiolchgar fy mod yn derbyn cymorth ariannol gan Busnes Cymru. Mae hyn yn rhoi cymhelliant i mi ddatblygu fy musnes.

Mae gan Yevgeniia Vradii yrfa lwyddiannus fel  ffotograffydd proffesiynol yn Wcráin ers 2010.

Newidiodd ei hamgylchiadau yn ddramatig pan ddechreuodd y rhyfel yn Wcráin, gan orfodi Yevgeniia i werthu ei chamera i dalu costau teithio gyda’i theulu i’r DU. 

Ar ôl ychydig o fisoedd o addasu i’w bywyd newydd a chael cymorth gan Lywodraeth Cymru, roedd Yevgeniia yn barod i sefydlu ei busnes ffotograffiaeth ei hun yng Nghymru. 

Gan nad Saesneg yw iaith gyntaf Yevgeniia, sicrhaodd ei chynghorydd busnes fod y gweminarau Cychwyn Busnes a Cyflymu Cymru i Fusnesau ar gael yn Wcreineg. Darparwyd ystod eang o gymorth busnes, yn trafod trethi, marchnata, adeiladu sylfaen busnes, ac roedd cyllid ar gael.

Arweiniodd hyn at baratoi a gwneud cais ar gyfer y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn; cefnogodd ei chynghorydd busnes hi gyda’r cais a oedd yn gofyn am gynllun busnes, rhagolwg llif arian a dogfennaeth ategol. 

Cafodd y cais am gyllid ei gymeradwyo’n llwyddiannus, gan ganiatau i Yevgeniia brynu camera newydd a llwyddo i gychwyn ei busnes newydd, Eva Vradiy, yng Nghymru o’r diwedd.
 
Cysylltwch heddiw os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â sefydlu busnes newydd yng Nghymru! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.