BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Happy Yoga Wales

Happy Yoga Wales

Mae Busnes Cymru wedi mynd y tu hwnt i’m disgwyliadau o bell ffordd. Bob tro y byddaf yn credu fy mod wedi defnyddio eu gwasanaethau i gyd, rwy’n dod o hyd i wasanaeth arall sy’n fy helpu i ddatblygu fy musnes.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysgu, penderfynodd Paula Roberts ddilyn ei huchelgais o redeg ei busnes ioga ei hun. 

Dechreuodd Happy Yoga  Wales ym mis Mehefin 2020, ond er mwyn sicrhau ei fod yn tyfu a datblygu yn fusnes fyddai’n darparu gwaith llawn amser iddi, roedd angen cefnogaeth arbenigol a chyngor Busnes Cymru.

Trafodwyd y strategaeth fusnes gyda’i chynghorwr, gan edrych i ddechrau ar ddatblygu cynllun busnes a strategaeth brisio. Roedd Paula eisoes wedi creu gwefan a phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe’i cyfeiriwyd at fentor busnes profiadol i gynorthwyo gyda’r cynllun marchnata a’r brandio cyffredinol, gan sicrhau bod y teclynnau marchnata yn cyrraedd ei phrif gwsmeriaid. 

Mae Paula yn parhau i weithio ochr yn ochr â’i chynghorwr a’i mentor Busnes Cymru i sicrhau bod ei busnes ar y llwybr cywir ar gyfer twf cynaliadwy. Mae ei mentor yn ei chefnogi gyda chymhelliant i weithredu, blaenoriaethu ac atebolrwydd. 

Ydych chi angen cyngor busnes? Cysylltwch â’r tîm er mwyn cael cefnogaeth wedi’i hariannu’n llawn Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.