BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Harvst

Harvst

Busnes technoleg gardd arloesol yn llwyddo i lansio yn Aberteifi, gyda chefnogaeth Busnes Cymru. 

Cyflwyniad i’r busnes

Wedi’i sefydlu gan ddau dyfwr brwd, Chris Tanner a Rik Sellwood, yn Aberteifi, Gorllewin Cymru, mae Harvst yn cynnig systemau tyfu clyfar sy’n helpu pobl i dyfu mwy, gydol y flwyddyn.

Mae’r tai gwydr bychan ar sail synwyryddion sy’n rheoli hinsawdd, rhoi dŵr i’r planhigion yn awtomataidd, yn sicrhau bod planhigion yn cael digon o faeth ac yn ddigon oer yn yr haf, ac yn defnyddio gwresogyddion a goleuadau tyfu i’w cadw nhw’n gynnes yn y gaeaf, gan roi hyder i dyfwyr i dyfu mwy.

Cefnogaeth Busnes Cymru

  • Dechrau da.
  • Wedi creu 4 o swyddi.
  • Wedi sicrhau grant gwerth £2,544 gan Gyngor Sir Ceredigion.
  • Wedi ennill gwerth £12,000 o werthiannau newydd.
  • Wedi cofrestru ar gyfer Addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb.

Gofynnodd y Cyfarwyddwyr, Rik Sellwood a Chris Tanner am gymorth gan wasanaeth Busnes Cymru i ddechrau eu busnes technoleg gardd. Rhoddodd Steve Maggs, Rheolwr Perthnasau gyngor ar arloesedd, buddsoddi a sicrhau cyllid, gan alluogi lansiad llwyddiannus Harvst a chreu pedwar o swyddi. 

Helpodd Steve y cwmni i sicrhau grant gan Gyngor Ceredigion tuag at adleoli i eiddo newydd a mwy o faint er mwyn bod yn addas ar gyfer twf cyflym y busnes newydd, gyda £12,000 o werthiannau eisoes wedi’u cyflawni.  

Cofrestrodd Harvst hefyd gydag Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru, gan ymrwymo i ddefnyddio pecynnu cynaliadwy ac ystyried defnydd cynnyrch ac adnoddau ar ddiwedd eu hoes. 

Sut cawsoch chi’r syniad am Harvst? 

Nod Harvst yw cael mwy o bobl i dyfu am sawl rheswm, gan gynnwys manteision cymdeithasol, corfforol a meddyliol, yn ogystal â hyrwyddo a chyfrannu’n ymarferol at fywyd mwy cynaliadwy.  Fel cyfarwyddwyr Harvst, mae Chris a Rik ill dau wedi bod yn arddwyr angerddol brwd ers peth amser, gan weld y manteision o dyfu dros eu hunain a’u teuluoedd. 

Gwnaethom gwrdd â Rik i ddysgu mwy am eu syniad arloesol.

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu’r busnes?

“Er ein bod yn arddwyr llysiau brwd, rydym hefyd yn tyfu blodau a phlanhigion eraill. Credwn os gallwn ni gael rhagor o bobl i dyfu, byddan nhw, a ni, yn elwa yn y tymor byr, canolig a hir. 

I gyflawni’r nod hwnnw, rydym yn gwybod bod angen i ni chwalu rhwystrau a’i gwneud hi’n haws i bobl dyfu gydol y flwyddyn, gan wneud eu mannau tyfu mor gynhyrchiol â phosibl. Mae’r systemau tai gwydr bychan Harvst yn ddelfrydol yn hyn o beth drwy gynnig amgylcheddau tyfu a reolir sy’n awtomataidd, sy’n cael eu rheoli gan synwyryddion ac mae modd eu haddasu.”

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

“Roedd rhaid i ni ddechrau o’r dechrau gyda’r dechnoleg, y cynnyrch, y busnes a phob elfen ar yr hyn rydym yn ei wneud. Mewn rhai achosion, rydym hyd yn oed wedi gorfod dylunio ac adeiladu ein hoffer arbenigol ein hun.  

Doedd dim o’r hyn yr oeddem am ei greu a’i ddefnyddio’n bodoli, felly gwnaethom ddylunio ac adeiladu’r system gyfan o egwyddorion yn gyntaf. Y broblem gyntaf oedd sut i greu system rhoi dŵr ar sail synwyryddion sy’n rhoi’r cyfaint cywir i’r planhigion: mae gormod yn achosi i’r gwreiddiau bydru, ac mae dim digon yn achosi i’r planhigion wywo a marw. Felly, dyluniom ein system reoli ein hunain i reoli’r llif dŵr drwy sawl fersiwn o synhwyryddion, rheolaethau, pympiau, chwistrellwyr a phibellau dyfrhau i ddod o hyd i’r datrysiad perffaith.  

Mae hwn yn un o lawer o is-systemau sydd gan dai gwydr bychan Harvst. Mae’r holl gydrannau’n cael eu dylunio a’u rhoi at ei gilydd yma yng Nghymru, ac rydym yn cael cymaint â phosibl o’r cydrannau a’r gweithgynhyrchu is-gydosod gan gyflenwyr yma yn y DU. Rydym wedi gorfod dylunio systemau pecynnu pwrpasol, ein systemau rheoli ein hunain ac wedi datblygu’r wefan a’r holl gynnwys marchnata, y brand a’r adnoddau gwerthu ein hunain.

Mae wedi bod yn llawer iawn o waith, ac rydym bellach yn llwyddo i werthu ein systemau tai gwydr bychan Harvst a’r holl ategolion i gwsmeriaid manwerthu a busnes o bob rhan o’r DU, o Dundee i Padstow.”  

Beth fyddech chi’n ei ddweud am y gefnogaeth yr ydych wedi’i derbyn gan eich ymgynghorwyr Busnes Cymru? 

“Mae Busnes Cymru wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Rydym wedi gweithio gyda thîm o ymgynghorwyr dan arweiniad Steve Maggs, ein Rheolwr Perthnasau. Waeth os yw’n gyngor am eiddo, cynaliadwyedd, ymgyrchoedd Kickstarter neu farchnata, mae’r tîm Busnes Cymru wedi bod yn hynod ddefnyddiol gyda chyngor ymarferol a pherthnasol. 

Yn fwy diweddar, cawsom wybodaeth a chyngor ganddynt ar gais i gronfa Grant Cyfalaf Cyngor Ceredigion gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sydd wedi’n helpu ni i ymestyn ein heiddo a chyflogi dau aelod staff newydd.  

Er bod y ddau ohonom yn bobl fusnes a pheirianwyr profiadol iawn sydd wedi arwain busnesau newydd yn y gorffennol, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn ymgysylltu gyda’r ymgynghorwyr llawn gwybodaeth. Mae eu cyngor a rhwydweithiau ymarferol wedi’n helpu ni i ddatrys materion a phroblemau yn gyflym.”

Cynlluniau ac uchelgeisiau yn y dyfodol

“Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar flwyddyn un ein cynllun busnes sy’n cynnwys cysoni ein dau ddarn o gynnyrch craidd (y systemau tai gwydr bychan Iard a Theras), datblygu a lansio dau gynnyrch newydd cyffrous a symud i’n heiddo newydd. 

Er ein bod wedi dod yn bell mewn cyfnod byr o amser, mae gennym ychydig o waith i’w wneud i gyflawni ein dyhead ar gyfer y flwyddyn. Mae ein hail flwyddyn eisoes yn cynnwys rhagor o ddatblygu cynnyrch, digwyddiadau lansio ac ymestyn ein capasiti cynhyrchu - gyda chynlluniau y tu hwnt i flwyddyn dau ar y gweill. Rydym yn symud yn gyflym iawn wrth ddarparu ystod o gynnyrch premiwm cystadleuol iawn, felly mae angen i ni ehangu’n gyflym a chysoni ein sefyllfa.

Mae hyn oll yn cael ei ategu gan werthoedd craidd mewn cwmni bychan sy’n bwriadu helpu pobl i ‘Dyfu Mwy’ drwy ddarparu cynnyrch ardderchog, cynaliadwyedd a chan ddefnyddio’r dechnoleg orau.”

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.