BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Hwylio PPSA

PPSA Sailing

Mae academi hwylio yn Sir Benfro yn agor ail safle, diolch i gymorth gan Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Ar ôl treulio 32 o flynyddoedd yn y lluoedd arfog gan gynnwys fel Hyfforddwr gyda Chymdeithas Hwylio'r fyddin, penderfynodd y Cyfarwyddwr a'r Prif Hyfforddwr Richard Owens droi'i angerdd yn fusnes a sefydlu Academi Hwylio Sir Benfro yn y flwyddyn 2013. Diolch i gymorth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, mae bellach yn bwriadu agor ail safle yn Lydstep y Pasg hwn. 

  • cymorth cynghorol â chynllunio busnes a chynllunio ariannol
  • sicrwydd o fenthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru
  • cymorth AD gyda pholisïau a gweithdrefnau

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i sefydlu yn 2013 gyda mynediad llawn at Aber Cleddau a Dyfrffordd Aberdaugleddau, Academi Hwylio Sir Benfro (PPSA) yw'r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) a'r ganolfan hyfforddi cychod modur arweiniol yn Ne Orllewin Cymru.

Wedi'i leoli yng Nghildraeth Llanion ger Doc Penfro, mae'r ganolfan yn darparu hyfforddiant ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â morwyr Clwb medrus drwy ystod gyflawn o gyrsiau Hwylio Dingi, gan gynnwys hyfforddiant celfad yn ogystal â chyrsiau cychod pŵer.

Pam wnaethoch chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun?

Ar ôl treulio 32 o flynyddoedd yn y lluoedd arfog, roeddwn mewn sefyllfa i fod yn feistr ar fy ffawd fy hun ac roeddwn yn awyddus i wneud rhywbeth yr oeddwn yn teimlo'n angerddol amdano. Fel morwr dingi brwd iawn, roeddwn eisiau cael cyfle i drosglwyddo fy ngwybodaeth a'm profiad i eraill. Fel Hyfforddwr ac Asesydd i'r RYA, roeddwn mewn safle delfrydol i wneud hyn.

Sefydlais y busnes yn y flwyddyn 2013 ar ôl i mi ymddeol o'r Royal Signals. Yn wreiddiol yn Dale yn Sir Benfro, wrth i'r busnes ehangu, cefais y cyfle i symud i Gildraeth Llanion, ger Doc Penfro, ac i ddarparu gweithgareddau hwylio, cychod modur a gwersi theori ar y lan oddi yno.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf yn y rhan hon o'r byd yw dwysedd poblogaeth ac annog pobl i deithio yma er mwyn dilyn cyrsiau. Mae'r safle presennol yng Nghildraeth Llanion yn ddelfrydol ar gyfer darparu cyrsiau RYA a darparu hyfforddiant gyda digon o letyau a chyfleusterau ystafell ddosbarth, yn ogystal â mynediad 24 awr i ddŵr. Er ei fod yn wych ar gyfer rhai sydd eisoes yn hwylio, mae ceisio denu masnach ymwelwyr yn anodd. Mae'r safle newydd yn Lydstep mewn safle gwell o lawer i allu cynnig profiadau hwylio i dwristiaid rheolaidd a'r rhai yn yr ardal leol. O safbwynt ariannol, yn anffodus, roedd yr her o gael cyllid i ehangu yn rhy fawr, heb unrhyw ddarparwr amlwg ar gyfer maint fy musnes ac ar gyfer maint y benthyciad yr oeddwn yn chwilio amdano.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Richard 'Taff' Owens â Busnes Cymru pan benderfynodd ar yr adeg iawn i ehangu'i gwmni hwylio. Bu'r cynghorydd Darren Thomas, a gynorthwyodd gyda chynllun busnes a rhagolygon ariannol Richard, yn ei helpu i archwilio opsiynau ariannu ac yn ei gefnogi drwy gydol y broses o wneud cais am fenthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Llwyddodd Richard i gael y cyllid, y bydd yn ei fuddsoddi er mwyn prynu dau gwch hwylio newydd a chychod pŵer ar gyfer yr ail safle yn Lydstep.

Canlyniadau

  • cymorth cynghorol â chynllunio busnes a chynllunio ariannol.
  • sicrwydd o fenthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru.
  • cymorth AD gyda pholisïau a gweithdrefnau

Yn wreiddiol, tynnodd Busnes Cymru sylw at y cyfleoedd a allai fod ar gael i ni pan benderfynais edrych ar ffyrdd o ddatblygu fy nyheadau a thyfu'r busnes. Roedd Darren [fy nghynghorydd] yn wybodus iawn ac mi oedd o gymorth drwy gydol y broses o sicrhau benthyciad busnes gan Fanc Datblygu Cymru. Mae Darren hefyd wedi fy nghynorthwyo wrth edrych am geisiadau grant.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Gan ein bod bellach wedi sefydlu'r safle newydd yn Lydstep, rydym yn awyddus i atgyfnerthu ac o bosib ehangu'n llynges yno, pe byddai'r angen ar gyfer hyn yn ymddangos. Rydym hefyd yn dymuno ehangu i ardaloedd eraill os ydym yn llwyddiannus gyda'n safleoedd presennol. Byddem eisiau cyflwyno cyrsiau mwy technegol (e.e Cwrs Uwch Sgiliau Cychod Pŵer) gan ein Pencadlys yng Nghildraeth Llanion, a fyddai'n ehangiad sylweddol o bosib, ond yn sicr yn werth ei ystyried ar gyfer y dyfodol.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.