BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Let Loose Soft Play

Let Loose Soft Play

Canolfan chwarae newydd i blant yn cael ei lansio yng Nghasnewydd, wedi derbyn cymorth gan Busnes Cymru.

Mae Let Loose Soft Play yn ganolfan chwarae deuluol i blant o bob oed, wedi'i lleoli yng Nghasnewydd, De Cymru. Cysylltodd Ryan Jones, cyd-sylfaenydd, â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth i sefydlu ei fusnes, ac ers hynny mae wedi llwyddo i ganfod eiddo, cyllid a lansio'r busnes yn llwyddiannus.

  • dechrau llwyddiannus
  • creu 9 swydd
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes o £25,000 at eiddo ac offer

Cyflwyniad i'r busnes

Mae'r ganolfan yn eiddo i Ryan Jones, Jason Roberts-Jones a'i wraig Karen, ac mae Let Loose Soft Play yn ganolfan chwarae newydd o'r radd flaenaf i blant o bob oed, wedi'i lleoli yng Nghasnewydd, De Cymru.

Mae'r ganolfan, sydd ar thema Casnewydd, yn cynnig profiad synhwyraidd cynhwysfawr ac amgylchedd diogel i blant fwynhau a dysgu, yn ogystal â chynnig amgylchedd hamddenol i rieni.

Pam wnaethoch chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun?

Penderfynais i, a fy nghefnder Jason, gychwyn ein busnes ein hunain am ein bod ni'n teimlo fod bwlch yn y farchnad yng Nghasnewydd am ganolfan chwarae meddal o'r radd flaenaf. Mae Jason hefyd yn berchennog ar feithrinfa Greenfields yn Nhŷ-du, felly mae ganddo brofiad helaeth yn y sector gofal plant. Rwy'n dod o gefndir eiddo, ond rwyf wedi bod yn awyddus i ddechrau busnes arall ers rhai blynyddoedd.

Pa heriau a wyneboch?

Ein her fwyaf oedd dod o hyd i leoliad addas - cymerodd hyn oddeutu 9 mis. Cyn i ni ddod o hyd i'n lleoliad yn Corporation Road, roddem wedi ceisio sicrhau eiddo addas yn ardaloedd eraill y ddinas, ond gwnaethom sylwi fod y rhent yn rhy uchel, neu nad oedd y Cyngor yn fodlon rhoi caniatâd i newid defnydd yr adeilad.

Cymorth Busnes Cymru

Gweithiodd Rashad Ismail, Rheolwr Cysylltiadau Busnes Cymru, gyda Ryan a Jason ar ystod eang o faterion o ran paratoi ar gyfer lansio eu busnes newydd. Rhoddodd gefnogaeth iddynt gyda chynllunio busnes a chyllidol, cydymffurfiaeth, iechyd a diogelwch a recriwtio.

Bu i Rashad hefyd ddarparu cyngor ar sicrhau eiddo, prydlesu a helpu'r entrepreneuriaid i dderbyn benthyciad o £25,000 gan Gwmni Benthyciadau i Gychwyn at gostau adeiladu ac offer, gan ganiatáu iddynt lansio Let Loose Soft Play yn llwyddiannus, a chreu 9 swydd llawn amser a rhan amser.

Canlyniadau

  • dechrau llwyddiannus
  • creu 9 swydd
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes o £25,000 at eiddo ac offer

Mae Rash wedi ein helpu'n fawr. Yn ystod ein holl gyfarfodydd, rydym wedi rhannu gwybodaeth werthfawr am sefydlu busnes, na fyddem wedi bod yn ymwybodol ohoni o'r blaen. Roedd hyn yn cynnwys trafod rhent, grantiau oedd ar gael, cynllunio/newid y defnydd, cysylltiadau yswiriant, hysbysebu a mwy!

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Ar ôl sefydlu'r busnes, ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yw ehangu ein busnes, naill ai drwy agor canolfan arall neu fasnachfreintio. Rydym hefyd yn bwriadu rhoi arian yn ôl i mewn i'n busnes drwy brynu offer newydd i'w ddiweddaru a chynnal yr hwyl i'n cwsmeriaid!

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.