BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Loft Solutions NW Ltd

Loft Solutions NW Ltd

Mae Busnes Cymru wedi cefnogi gyda chymaint o wahanol agweddau ar ein busnes. Rydym wedi ennill gwybodaeth a chymorth sylweddol.

Colette Lhombreaud a'i brawd, Rob Morris yw cyfarwyddwyr Loft Solutions NW Ltd, cwmni teuluol sy'n bordio llofftydd. Mae'r cwmni yn creu mannau storio mewn llofftydd yng nghartrefi pobl, yn ogystal ag insiwleiddio llofftydd a gosod ysgolion a gorddrysau.

Mae'r busnes wedi manteisio ar lu o gymorth gan Busnes Cymru ers 2018. I ddechrau cawsant gymorth dechrau arni er mwyn troi eu syniadau busnes yn gwmni Cyfyngedig sy'n masnachu, ac wedyn cawsant gymorth mwy penodol er mwyn ysgogi twf a datblygiad.

Ar ôl cefnogi Colette i ddechrau'r busnes, gwnaethant barhau i ofyn am gyngor ar reolaeth ariannol, strategaeth farchnata, cymorth Adnoddau Dynol a chynllunio strategol. Roedd y rheolwyr, Colette a Robin, yn awyddus i ddatblygu'r busnes, felly cawsant sgwrs â'u hymgynghorwr busnes am sut fyddai'r twf yn cael ei reoli, gan gynnwys datblygu strwythurau addas ar gyfer cyfathrebiadau mewnol y cwmni.

Yn fwy diweddar, mae Loft Solutions NW Ltd wedi'i gyfeirio at ymgynghorwr Tendro, sy'n tynnu sylw at fuddion defnyddio gwefan GwerthwchiGymru. Yn trafod y gwahanol ffyrdd i ymgysylltu â sefydliadau'r sector cyhoeddus er mwyn adnabod cyfleoedd posibl ar gyfer contractio.

A oes angen cyngor arbenigol ar eich busnes chi? Cysylltwch â ni heddiw am gymorth! Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.