BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Maggie’s Exotic Foods

Margaret Ogunbanwo

 

Cafodd Margaret Ogunbanwo ei magu a’i haddysgu yn Nigeria. Sefydlodd ei busnes, Maggie’s Exotic Foods, mewn ymgais i ail-greu rhai o’r bwyd bendigedig a gafodd ei magu yn ei fwyta. Ysbrydolwyd y busnes gan angerdd Maggie am ei threftadaeth Affricanaidd, a’i chariad at fwyd, coginio a gweld pobl ifanc, yn enwedig menywod, yn tyfu i'w llawn botensial.

Sefydlwyd Maggie’s Exotic Foods yn 1997 ac mae'n cynnig amrywiaeth o gynnyrch cartref, cynhwysion egsotig, gan gynnwys cymysgeddau sbeis, sawsiau a phastau, ac mae hefyd yn cynnig gwasanaethau arlwyo, ac arddangosiadau a dosbarthiadau coginio. Mae'r busnes hefyd yn cyflenwi cynhwysion figan, llysieuol, heb gynnyrch llaeth a heb glwten, ac yn cynnig pecynnau anrheg, sy’n galluogi cwsmeriaid i wneud eu cymysgeddau bwyd egsotig eu hunain.

Beth ddaru nhw

Dechreuodd hanes busnes Maggie yn y 90au hwyr yn Essex lle gwnaeth hi gais i Ymddiriedolaeth y Tywysog i sefydlu ei busnes arlwyo a chyflenwi bwyd egsotig. Ar ôl creu argraff ar y beirniaid, canfu ei bod hi'n feichiog gyda'i phlentyn cyntaf ac o ganlyniad i heriau iechyd cysylltiedig, penderfynodd ohirio ei datblygiad busnes.

Dechreuodd Maggie ei hantur busnes yng Nghymru ar ôl symud gyda'i theulu i bentref bach Penygroes yng Ngwynedd yn 2007. Dechreuodd werthu bwyd Affricanaidd mewn marchnadoedd ffermwyr lleol a chafodd ei hysbrydoli i agor caffi lleol yn ei chartref. Lansiwyd y caffi o ganlyniad i gefnogaeth ymgynghorol ac ariannol gan Busnes Cymru, dyma oedd ei menter fawr gyntaf yng Nghymru.

Wrth i werthiannau sosejys, wyau a madarch wedi’u coginio ostwng, roedd bwyty pop-up Noson Affricanaidd Maggie yn dod yn fwy poblogaidd, gan arddangos amrywiaeth a hyblygrwydd coginio Affricanaidd yn defnyddio cynhwysion lleol yn bennaf. O ganlyniad i'r nosweithiau hyn, dechreuodd  Maggie’s Exotic Foods, a datblygodd sawsiau a siytnis Asake, ac mae newydd lansio 'Ileri promise Hair Custard', cyflyrydd gwallt arbenigol.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

"Mae wedi bod yn daith hir mewn tiriogaethau anghyfarwydd, yn dysgu beth sy'n gweithio a sut. Yn y lle cyntaf, wrth edrych yn ôl, byddwn wedi dilyn llwybr Ymddiriedolaeth y Tywysog, gan y byddai hynny wedi agor drysau i lawer o wybodaeth. Un o'r prif rwystrau a wynebais oedd diffyg gwybodaeth sy'n tueddu i feithrin ofn. Mae ofn wedyn yn eich stopio’n stond, felly wrth edrych yn ôl, byddwn wedi bod yn fwy ystyfnig a thaer wrth guro ar ddrysau a oedd yn ymddangos yn gaeedig a byddwn wedi ennill y sgiliau a'r wybodaeth roeddwn eu hangen i wynebu’r anghyfarwydd. "- Margaret Ogunbanwo

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Fy moment mwyaf balch mewn busnes oedd dod i Ogledd Cymru lle gwelais fod yna nifer o gyfleoedd, cymorth a chefnogaeth i unrhyw un sydd â chymhelliant entrepreneuraidd. Rwyf wedi cael fy nghefnogi, fy helpu a'm harwain gan Busnes Cymru yn ystod fy nhaith busnes yma, yng Ngogledd Cymru, a oedd unwaith yn diriogaeth anghyfarwydd.  Fe wnaeth Busnes Cymru hefyd fy nathlu trwy gyflwyno gwobr Mentai y Flwyddyn: Tyfu Busnes i mi. Rwyf yn dal i ymhyfrydu yn y clod o gydnabyddiaeth o'r fath. "

Yn ogystal â gwobr Rhagoriaeth SFD, yn 2017 enillodd  Maggie’s Exotic Foods Wobr Great Taste am ei Saws Asake Tsili Rhost gyda Saws Balsamaidd.

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes? Os ydynt, sut mae hyn wedi eu helpu

Pan symudodd y teulu i Wynedd, gwnaethant sylweddoli ei bod hi’n bwysig ymgysylltu â'r bobl a’r iaith leol. Aeth Margaret ati o ddifrif i ddysgu'r iaith yn rhan amser. Cafodd ei sgiliau Cymraeg eu hybu trwy redeg caffi y Grochan Flasus ym Mhenygroes lle mae 80% o’r trigolion yn siarad Cymraeg ac roedd hi felly’n defnyddio'r iaith bob dydd. Yn fwy diweddar, mae hi wedi cael yr iaith yn gynyddol ddefnyddiol wrth fynd i wyliau bwyd a digwyddiadau tebyg ledled Cymru.

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Mae Margaret wedi gweithio'n agos gyda Busnes Cymru trwy gydol ei thaith fusnes. Cafodd gefnogaeth i ddechrau gan Reolwr Perthynas, Richard Fraser-Williams, a wnaeth ei helpu i gael grant i agor ei chaffi, ac yn fwy diweddar mae wedi cael cefnogaeth gan Gynghorydd Twf, Jayne Jones, sydd wedi cyfeirio Maggie at gyngor, cyfleoedd, teithiau masnach, gweithdai ar farchnata a gwerthu, strategaethau gwerthu ac, yn bwysicaf oll, rhoddodd yr hwb hyder a'r anogaeth iddi i lwyddo.

Cafodd Maggie arweiniad gan Jayne hefyd ar ddatblygu, lansio a marchnata'r sawsiau Asake, gan ei helpu i fynd at y Maer, a wnaeth ei helpu i dynnu sylw'r gymuned leol at y cynnyrch newydd.

Aeth Maggie ymlaen wedyn i gael cefnogaeth gan fentor Busnes Cymru, Janet Matthews, a wnaeth rannu ei chyfoeth o wybodaeth, profiad gyda phobl, amser ac adnoddau. Rhoddodd Janet gyfarwyddyd a chymorth i wrthdroi tuedd ar i lawr yn y busnes, gan wneud i Maggie ystyried meithrin gallu a thwf posib, a wnaeth  chaniatáu iddi fanteisio ar gontractau newydd.

Gyda'i hagwedd ysbrydoledig, roedd Janet hefyd yn gallu pontio gwahaniaethau mewn cefndir diwylliannol yn llwyddiannus, diolch i'w dealltwriaeth fanwl a’i sgiliau cyfathrebu, gan helpu Maggie i weld ei hun fel mae pobl eraill yn ei gweld hi, ac yn y pen draw feithrin ei hyder i symud ymlaen a llwyddo.

Mae Maggie nawr yn fentor Busnes Cymru ei hun sy'n cynnal digwyddiadau cefnogaeth busnes ar ran Busnes Cymru yn ei rhagosodiad.

Dywedodd Maggie: "Mae cynghorwyr Busnes Cymru wedi fy helpu'n sylweddol, maen nhw bob amser yn barod ac ar gael i helpu fy musnes i dyfu. Yn fwy diweddar, cefais fy nghyflwyno i’r cynllun mentora gwych sy’n cael ei redeg gan Busnes Cymru. Nid yn unig wyf wedi dod o hyd i fentor yn Janet Matthews, ond rwyf hefyd wedi dod yn fentor busnes fy hun. Mae gan Janet y wybodaeth o weithio  yn hunangyflogedig yn y DU dros gyfnod o flynyddoedd lawer a gall lanw bylchau yn fy ngwybodaeth i fel person busnes yn y DU.

Rwy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r rôl y mae Busnes Cymru wedi chwarae yn fy nhyfiant a fy natblygiad fel person ac fel busnes ers i mi fwrw fy ngwreiddiau yng Ngogledd Cymru dros 10 mlynedd yn ôl.

Cyngor Da

Dyma brif gynghorion Maggie i unrhyw un arall sy'n awyddus i ddechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:

  • nid yw pawb yn cael eu geni i weithio i gyflogwr, felly os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n un o'r bobl hynny, peidiwch â gwastraffu amser yn ceisio ffitio mewn - dewch yn rhywun sy'n cyflogi pobl eraill
  • peidiwch â gadael i ofn eich atal rhag symud ymlaen, mae’r hyn sy’n anhysbys heddiw yn dod yn gyfarwydd yfory, a byddwch chi'n dod yn Arbenigwr yn eich maes
  • symudwch i Gymru i gael cefnogaeth fusnes wych a rhyfeddol
  • lle bynnag y byddwch chi'n canfod eich hun, gwnewch bopeth y gallwch ei wneud i ennill gwybodaeth leol, gofynnwch gwestiynau, cnociwch ar ddrysau, siaradwch â phobl a dewch o hyd i ffyrdd o rwydweithio ac integreiddio
  • byddwch ynoch chi eich hun, peidiwch â cheisio cyflwyno pwy neu beth nad ydych chi, a pheidiwch ag anghofio cael o leiaf un person ifanc yn rhan o’r busnes

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.