BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Mark360 Virtual Tours

Mark360 Virtual Tours

Busnes teithiau rhithwyr 360° newydd sbon yn cychwyn yng Ngogledd Cymru, diolch i gymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

Ac yntau â dim profiad blaenorol o gwbl, penderfynodd Mark Schorah fentro a dechau gweithio ar ei liwt ei hun yn rhan-amser. Gofynnodd i Busnes Cymru am help, ac ers hynny mae wedi ennill hyder a sgiliau ymarferol newydd i lansio ei fusnes ei hun, Mark360 – nid yn unig fel ffordd o ychwanegu at ei incwm, ond gan wneud rhywbeth y mae’n wirioneddol danbaid drosto hefyd.

Cyflwyniad i’r busnes

Mae Mark360, a lansiwyd gan Mark Schorah yn Llanrwst, yn cynnig teithiau rhithwir 360° i’r farchnad eiddo, i’r diwydiant lletygarwch ac i fusnesau o bob math sy’n dymuno arddangos eu lleoedd/safleoedd mewn modd mwy ymgollol.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd gyda ffotograffiaeth. Pan oeddwn yn blentyn, rwy’n cofio meddiannu sied fy nhad a’i throi’n ystafell dywyll ar gyfer ffotograffiaeth, lle gallwn brosesu ac argraffu fy ffotograffau du a gwyn fy hun.

Rhwng 2007 a 2011, astudiais ffotograffiaeth a dylunio yng Ngholeg Llandrillo a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ond allwn i ddim meddwl am unrhyw syniadau ar gyfer troi fy nghymwysterau yn fenter busnes.

Yn fwy diweddar, cafodd fy nghariad tuag at sgwba-blymio ei adfywio ym Môr Coch yr Aifft. Dechreuais gofnodi fy nheithiau plymio gyda chamera Go-Pro, ac ar ôl gwylio myrdd o fideos YouTube, cefais fy nghyflwyno i ffotograffiaeth 360°. Ar ôl ymchwilio rhywfaint i’r farchnad, darganfûm nad oedd teithiau rhithwir wedi ennyn llawer o sylw yng Ngogledd Cymru. Roedd yn amlwg imi hefyd nad oedd safon y ffotograffiaeth yn y diwydiant eiddo, ar y cyfan, yn dda iawn – hyd yn oed ar gyfer eiddo tra dethol. A dyna pryd y cefais y syniad ar gyfer Mark360.

Pa heriau a wyneboch?

Creu portffolio o waith: Roedd angen imi ddangos enghreifftiau o ’ngwaith i ddarpar gleientiaid. Fy nhaith rithwir gyntaf oedd taith trwy fy nghartref fy hun, oherwydd roeddwn wedi mynd ati’n ddiweddar i’w ailwampio hyd at safon eithaf uchel. Trwy rwydweithio, llwyddais i greu fy mhortffolio, a oedd yn cynnwys bwthyn gwyliau, canolfan ffitrwydd, ystafelloedd gwesty (Gwesty’r Imperial, Llandudno) a swyddfeydd.

Hunangred a phryderon: Pan ddaeth Covid-19, cynyddodd fy ymdeimlad o bryder yn eithriadol. Roeddwn wedi gobeithio mai eiddo bach-canolig ei faint fyddai fy ngwaith cyflog cyntaf – ond, yn y diwedd, plasty £1,25m oedd o! Roeddwn mor nerfus ar y diwrnod ac roedd maint y plasty yn codi ofn arnaf. Rwy’n cofio dadsgriwio fy monopod o chwith, a hwnnw’n dod yn ddarnau yn fy nwylo. Yn y diwedd, euthum ar goll yn y tŷ, gan dynnu llun nifer o’r ystafelloedd ddwywaith. Ond ar ôl imi ddechrau cael adborth cadarnhaol ac adolygiadau 5 seren gan fy nghwsmeriaid, dechreuais fagu mwy o hyder.

Creu llif gwaith mwy effeithlon: Cymerodd y daith rithwir o ’nghartref i fy hun dair wythnos i’w chwblhau. Rhaid cyfaddef, treuliais wythnos yn tacluso ymlaen llaw! Y cam mwyaf llafurus sy’n perthyn i ffotograffiaeth teithiau rhithwir yw’r gwaith ôl-gynhyrchu neu’r broses olygu. Roedd yn rhaid imi ddod o hyd i ffordd o droi tair wythnos yn dair awr. Ar ôl gwylio oriau lu o fideos YouTube a dosbarthiadau tiwtorial LinkedIn, ynghyd â llawer iawn o ymarfer, datblygais ffordd fwy effeithlon o weithio.

Presenoldeb ar-lein a chael busnesau i weithio gyda mi: Yn gynharach eleni, dechreuais ymgyrch farchnata trwy e-bost, gan dargedu’r farchnad eiddo (cwmnïau gwerthu tai) a’r diwydiant lletygarwch (gwestai, tai llety a bythynnod gwyliau). Bu’r ymateb yn siomedig a dim ond llond llaw o archebion a gefais. Os oeddwn am i bobl fy nghymryd o ddifrif, sylweddolais yn fuan iawn y buaswn angen gwefan a thudalen fusnes ar Facebook. Treuliais ryw bythefnos yn creu gwefan y gallwn fod yn falch ohoni.

Covid-19: Ar ôl i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio tua chanol yr haf, doedd gan westai a bythynnod gwyliau ddim arian i’w wario ar farchnata neu roeddynt yn llawn ymwelwyr am fisoedd – ac roedd hynny’n golygu na allwn fynd i mewn i’r adeiladau i dynnu eu lluniau.

Ond daeth tro ar fyd ar ôl cwblhau taith rithwir rad ac am ddim o eglwys Sant Grwst, Llanrwst. Roedd yr eglwys newydd gael ei gweddnewid ar gost o £1.25m ac roedd Jon Richmond, y Swyddog Datblygu Busnes, yn awyddus i arddangos y newidiadau, yn enwedig o gofio’r cyfyngiadau ar y pryd. O fewn ychydig ddyddiau ar ôl cyhoeddi fy nhaith ar fy nhudalen Facebook, llwyddais i gyrraedd 2757 o bobl ac esgor ar 563 o ymgysylltiadau, a chynyddodd nifer fy nilynwyr a fy hysbysiadau ‘Hoffi’ yn enfawr.

Cymorth Busnes Cymru

Ar ôl mynychu nifer o weithdai Busnes Cymru yn ymwneud â dechrau busnes, treth, cadw cyfrifon a marchnata, cafodd Mark gymorth gan Siân E Jones, cynghorydd dechrau busnes yn Busnes Cymru. Aeth Siân ati i gynorthwyo Mark gyda phob agwedd ar ddechrau busnes – yn cynnwys cynllunio busnes, marchnata a chreu gwefan, ymhlith pethau eraill. Hefyd, cynigiodd Siân gymorth i Mark trwy gyfnodau o hunanamheuaeth, gan roi iddo’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol, ynghyd â’r hyder, i fentro ar ei liwt ei hun.

Erbyn hyn, mae Mark yn gweithio gyda Jane Stokes, mentor busnes, sy’n cynnig arweiniad iddo gyda materion ac ymholiadau parhaus. Hefyd, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig help llaw gyda gwefan Mark.

“Mae Busnes Cymru wedi bod yn ffynhonnell anhygoel ar gyfer gwybodaeth a chymorth – a’r cwbl yn rhad ac am ddim! Llwyddais i gyd-dynnu’n dda gyda Siân o’r cychwyn cyntaf – nid yn unig am ei bod yn chwerthin am ben fy jôcs, ond am ei bod mor wybodus a hawdd siarad gyda hi. Bob tro y cyrhaeddwn le cyfyng, roedd ganddi awgrym wrth law. Yn bwysicach na dim, efallai, roedd hi’n credu ynof fi ac yn fy ngalluoedd.”

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Busnes ar ei brifiant yw Mark360. Mae gennyf y gallu i gynnal mwy o deithiau rhithwir ochr yn ochr â’m swydd ran-amser. Yn y pen draw, hoffwn ddatblygu’r busnes fel y bydd modd iddo fy nghynnal yn ariannol yn llawn-amser. Cyn bo hir, byddaf yn lansio gwasanaeth newydd ar gyfer busnesau, o’r enw ‘Google Maps Street View’, lle gellir integreiddio teithiau rhithwir cleientiaid â Google Street View a’u rhestriad Google My Business. Mae gan hyn y potensial i ehangu fy rhestr o gleientiaid fel y gellir cynnwys bwytai, bariau, caffis a siopau.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.