BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

META

META Case Study Image

Artist Daear o Bowys yn dechrau ei busnes paent daear naturiol ei hun gyda chefnogaeth Busnes Cymru.

Gan gydnabod a hyrwyddo pwysigrwydd gofalu am ein byd naturiol, dechreuodd Jackie Yeomans META – busnes sy'n cynhyrchu paent naturiol, wedi'i wneud o bigmentau pridd. Cafodd gefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ac fe wnaeth lansio’r busnes yn llwyddiannus ym mis Tachwedd 2020.

  • Wedi llwyddo i lansio a chreu 1 swydd.
  • Cymorth dechrau.
  • Ymrwymiad i Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru i ddarparu gwasanaeth cynhwysol i gwsmeriaid a rhedeg busnes teg, agored a gonest.
  • Ymrwymiad i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru i fonitro a gwella perfformiad amgylcheddol y busnes.

Yn dilyn 15 mlynedd o baentio gyda phigmentau pridd crai, priddoedd a chlai yn unig, ac oes o gariad a diddordeb mewn pridd – o fyw'n wledig a thyfu planhigion i wneud celf gyda mwd ac astudio iechyd pridd yn y Brifysgol, penderfynodd yr Artist Daear o Bowys Jackie Yeomans fuddsoddi ei gwybodaeth, ei pharch a'i chariad at bridd yn ei busnes ei hun.

Mae META yn cynhyrchu paent wedi'i wneud o bigmentau pridd naturiol a glynwr fegan, i helpu pobl i greu gwaith celf, a fydd yn gwneud iddynt deimlo'n fwy cysylltiedig â'r byd naturiol.

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Jackie i gael gwybod mwy am ei thaith fusnes.

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Rwyf wedi bod yn paentio gyda deunyddiau daear ers dros 15 mlynedd ac fe wnes i benderfynu gwneud busnes o'r angerdd hwn. Gadewais fy swydd ym mis Chwefror 2020 i fynd ar drywydd cyfle yn New Mexico, lle roeddwn i’n cynnal sesiynau celf therapiwtig yn wirfoddol mewn encilfan o'r enw ‘Not Forgotten Outreach’ sy'n cefnogi cyn-filwyr sy'n dioddef o PTSD.

Wrth i bandemig Covid-19 ddod yn fwy amlwg a’r cyfyngiadau'n mynd yn dynnach, cefais fy ngorfodi i ddychwelyd i'r DU. Gyda diwydiannau'n cael eu taro'n galed, a swyddi'n brin, penderfynais ymuno â Hwb Menter y Drenewydd a mynd ar drywydd fy angerdd.

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Un o'r prif heriau yr wyf wedi'i hwynebu yw'r costau cychwynnol o ran sefydlu busnes newydd. Roedd angen i mi brynu offer a deunydd pacio i symleiddio fy mhrosesau.

Yn ogystal â hyn, roeddwn i’n dioddef o ddiffyg hyder. Doeddwn i ddim yn gwybod p’un a oeddwn i'n buddsoddi mewn rhywbeth y gellir ei farchnata, neu a oedd yn faes arbenigol i mi fy hun yn unig. Rwyf wedi goresgyn hyn ar ôl cael adborth mor gadarnhaol gan fy nghwsmeriaid.

Yn ogystal â hyn, rwyf wedi ei chael hi’n anodd prisio fy nghynhyrchion, marchnata a gweithio allan beth yw’r llwybrau gorau i'r farchnad.

Cymorth Busnes Cymru

Ar ôl penderfynu cymryd y naid i hunangyflogaeth, cafodd Jackie gyngor gan arbenigwr busnes newydd Busnes Cymru, Debra Davies-Russell, a'i harweiniodd drwy ddatblygu cynllun busnes a rhagolygon ariannol. Wrth fynd i'r afael â rhai o bryderon Jackie, cynghorodd Debra ymhellach ar farchnata, cyfryngau cymdeithasol, safonau masnach a labelu, ac fe wnaeth hyn alluogi Jackie i ddechrau'r cwmni ym mis Tachwedd 2020.

Ymunodd Jackie hefyd ag Adduned Cydraddoldeb Busnes Cymru, gan ymrwymo i weithio gydag uniondeb, hyrwyddo lles a lleihau rhwystrau i gwsmeriaid, yn ogystal ag Adduned Twf Gwyrdd Busnes Cymru, gan addo sicrhau swyddfa ddi-bapur a lleihau allyriadau carbon o wasanaethau logistaidd.

Canlyniadau 

  • Wedi llwyddo i lansio a chreu 1 swydd.
  • Cymorth dechrau.
  • Ymrwymiad i Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru i ddarparu gwasanaeth cynhwysol i gwsmeriaid a rhedeg busnes teg, agored a gonest.
  •  Ymrwymiad i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru i fonitro a gwella perfformiad amgylcheddol y busnes.

Mae Debra wedi bod yn fentor gwych drwy gydol y broses o ddechrau a rhedeg busnes newydd. O'r dechrau, mae wedi annog fy nghynnyrch gyda brwdfrydedd am ei rinweddau dilys ac unigryw. Mae Debra yn hawdd siarad â hi, bob amser ar gael gyda chyngor ac yn gwneud cysylltiadau i gefnogi fy menter. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddi.

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Yn ystod y 12 mis nesaf, byddaf yn parhau i weithredu o'm cartref, ond mae gennyf gynlluniau i sefydlu fy ngweithdy fy hun. Gyda hyn, gallaf wedyn ddatblygu'r busnes.

Rwy'n gobeithio cael y cyfle i deithio mwy er mwyn porthi priddoedd o wahanol ardaloedd. Bydd hyn yn helpu i greu lliwiau newydd ac unigryw.

Os ydych am ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu ddilyn @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.