BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Neighbourhood

Neighbourhood business owners

Rheolwyr lletygarwch profiadol yn cychwyn ar daith fusnes newydd yng nghanol y pandemig i ddod â phrofiad gwahanol o letygarwch i Gaerdydd.

Penderfynodd Caroline a Tudor Barber oresgyn heriau Covid-19 drwy ddefnyddio'r cyfyngiadau symud fel cyfle i wireddu eu huchelgais o fod yn berchnogion lleoliad bwyd a lletygarwch yng Nghaerdydd. Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi eu helpu i gychwyn y busnes, gan alluogi'r pâr i ddod o hyd i gyllid a llwyddo i godi'r allweddi ar gyfer eu busnes ym mis Chwefror 2021.

  • Llwyddwyd i gychwyn busnes llwyddiannus yn ystod pandemig Covid-19.
  • Crewyd 2 swydd.
  • Sicrhawyd benthyciad cychwyn busnes.

Cyflwyniad i’r busnes

Lansiwyd Neighbourhood gan Tudor a Caroline Barber, gŵr a gwraig entrepreneuraidd. Mae’n fusnes lletygarwch yng Nghaerdydd, sy'n cynnig lleoliad ar gyfer stondinau bwyd stryd dros dro yn ogystal â gwesty bach.

Holwyd Tudor a Caroline am eu taith fusnes a dyma'r hyn oedd ganddynt i’w ddweud:

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Mae Caroline a minnau wedi gweithio ym maes lletygarwch ers nifer o flynyddoedd. Cyn y pandemig roedd Caroline yn rhedeg lleoliad cerddoriaeth llwyddiannus (Tramshed) ac roeddwn innau’n rhedeg cwmni digwyddiadau bwyd stryd ar raddfa fawr (Street Food Warehouse). Fodd bynnag, gyda’r ddau ohonom ar ffyrlo, a'n diwydiant wedi’i daro’n ddifrifol gan y pandemig, cawsom ein hannog i weithredu ein cynllun 5 mlynedd yn gynt. Eisteddodd y ddau ohonom ar ein soffa yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ac ysgrifennu ein cynllun busnes delfrydol gyda'n gilydd – ac aethom ati i geisio dod o hyd i leoliad addas yng Nghaerdydd.

Mae’r ddau ohonom yn deithwyr brwd ac yn hoffi ymweld â dinasoedd, ac rydym wedi teithio Ewrop bob blwyddyn am y 9 blynedd diwethaf. Felly roeddem yn awyddus i agor lleoliad a llety y byddem ni’n dewis aros ynddo mewn dinasoedd eraill nad oedd ar gael yng Nghaerdydd. Rhywbeth gwahanol i'ch Airbnb arferol! Mae ein cegin bwyd stryd yn cynnig lle hamddenol i fwyta ac yfed, p'un a ydych chi’n aros gyda ni neu'n ein defnyddio fel lle i dreulio noson wych yn y ddinas.

Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu?

Roedd yn anodd dod o hyd i leoliad addas mewn dinas sy'n newid yn gyflym! Gwelsom rywle addas ond syrthiodd drwodd oherwydd problemau gyda'r lesddeiliad presennol,  costiodd £2,000 i ni mewn ffioedd cyfreithiol ond ni lwyddwyd i sicrhau’r ddêl. Yna daethom o hyd i ail leoliad. Rhoddodd y ddau ohonom ein bryd ar y safle hwn ar Tudor Street, Glan yr afon, sef tafliad carreg i ffwrdd o Orsaf Ganolog Caerdydd a Stadiwm Principality. Mae gwaith adnewyddu gwerth £4 miliwn yn cael ei wario ar yr ardal ac mae rownd y gornel i’r Tramshed, felly roeddem yn gwybod mai dyma'r lle i ni.

Her arall oedd dod o hyd i gyllid yng nghanol pandemig! Gyda'r economi’n wynebu dirwasgiad cyflym, roedd yn ddealladwy mai ychydig iawn o gyfleoedd benthyca oedd ar gael ar gyfer busnes newydd, yn enwedig ym maes lletygarwch. Ond gyda chymorth a chefnogaeth Busnes Cymru llwyddwyd i ddod o hyd i'r arian oedd ei angen arnom i wireddu ein breuddwyd.

Cymorth Busnes Cymru

  • Llwyddwyd i gychwyn busnes llwyddiannus yn ystod pandemig Covid-19.
  • Crewyd 2 swydd.
  • Sicrhawyd benthyciad i gychwyn busnes.

Ar ôl gweithio gydag Ymgynghorydd Twf Busnes Cymru, Miranda Bishop ar fentrau blaenorol, ymgysylltodd Tudor a Caroline â hi pan benderfynon nhw gyflwyno eu cynllun ar gyfer busnes lletygarwch newydd yng Nghaerdydd.

Cynorthwyodd Miranda y pâr gyda'u cynllun busnes a'u rhagolygon ariannol a rhoddodd gyngor ar gostio a dod o hyd i gyllid. Gyda’r gefnogaeth llwyddodd Tudor a Caroline i sicrhau cyllid gan Start-up Loans Company a lansio'r busnes. 

Beth allwch chi ei ddweud am y cysylltiad rhyngoch a’ch ymgynghorydd?

Ble mae dechrau?! Mae Miranda wedi bod yn anhygoel. Gwrandawodd yn astud ar ein syniadau gwyllt a rhoddodd sicrwydd ac anogaeth i ni. Helpodd Miranda ni gyda chanllawiau a’r gwaith o brawfddarllen ein cynllun busnes a rhoddodd gymorth gyda thempledi ariannol, a hwylusodd y gwaith o baratoi ein rhagolygon ariannol. Roedd yn gallu argymell cyllid priodol ar gyfer ein busnes newydd ac arweiniodd ni drwy'r broses ymgeisio, a oedd yn ddi-dor. Cawsom wybod ein bod wedi bod yn llwyddiannus o fewn wythnosau! A hithau bellach wedi dod i'n hadnabod, mae Miranda yn dal i roi cymorth ac arweiniad i ni’n rheolaidd ac mae'n awgrymu cymorth busnes pellach yn gyson a allai helpu ein busnes i dyfu.

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol 

Ein bwriad yw cael bwyty prysur sy'n cefnogi busnesau bwyd stryd lleol a'u cyflenwyr. Rydym am gael gwesty llawn o deithwyr i'r ddinas gan gynnig gwybodaeth leol unigryw ar sut i fwynhau ein dinas wych.

Ein huchelgais yw sefydlu Neighbourhood fel conglfaen i gymuned Glanyrafon a Grangetown am flynyddoedd i ddod. Byddem wrth ein bodd yn agor ail a thrydydd lleoliad yn y dyfodol.

Os ydych chi eisiau darllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i gychwyn neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos  neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.