BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Precision Full Service Dental Lab

Precision Full Service Dental Lab

Labordy deintyddol unigryw yng Nghaerdydd yn diogelu ei waith at y dyfodol, diolch i becyn ariannol mawr.

Precision Full Service Dental Laboratory yw’r unig labordy deintyddol yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaeth llawn. Mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau ac offer Thermo-ffurfiedig, Prosthetig, Orthodontig, Pontydd a Choronau. Yn dilyn cyfnod o ehangu cyflym, trodd Richard Anthony a’i gyd-gyfarwyddwyr at wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gael cymorth i dyfu’r busnes a diogelu’i statws, er gwaethaf yr heriau yn sgil Brexit.

  • cymorth rheoli perthnasoedd o ran ymestyn a buddsoddi
  • crëwyd 6 o swyddi ers 2017
  • diogelwyd 16 o swyddi, diolch i ddarparu offer uwch newydd
  • sicrhawyd buddsoddiad a oedd yn gyfanswm o £176,995 gan amryfal gyllidwyr

Cyflwyniad i’r busnes

Cafodd Precision ei sefydlu gan James Anthony yng Nghaerdydd yn 2007, a dechreuodd y busnes fel labordy orthodontig. Tyfodd yn gyflym i fod yr unig labordy deintyddol yng Nghymru i gynnig gwasanaeth llawn. Mae’r busnes yn cynhyrchu coronau a phontydd, dannedd gosod, offer orthodontig a chyflinwyr clir, yn ogystal ag offer thermo-ffurfiedig yn cynnwys dargadwyr/giardiau nos a chafnau gwynnu.

Pa heriau a wyneboch?

Ers refferendwm Brexit 2016, mae nifer o effeithiau niweidiol wedi dod i’n rhan:

  • Oedi cyn cael deunyddiau ac offer (daw cyfran helaeth o’r rhain o wledydd yr UE).
  • Costau cyflenwi uwch mewn perthynas â deunyddiau ac offer. Yn ôl y sôn, cynyddodd gwerth uned echdynnu a gynhyrchir yn yr Almaen 25% yn dilyn y refferendwm.
  • Mae yna nifer o dechnegwyr labordy medrus a thechnegwyr deintyddol llai medrus yn dal i weithio yn y DU. Mae un o’r Uwch Dechnegwyr Labordy Orthodontig sy’n gweithio i Precision yn hanu o Wlad Pwyl. Trwy golli’r rhyddid i symud, mae’n debygol y bydd y gronfa o weithwyr yn lleihau, a bydd hyn yn cynyddu’r costau.

Pam wnaethoch chi gyflwyno cais am Grant Cydnerthedd Brexit?

Mae labordai deintyddol mwy eu maint yn Ewrop ac mewn rhannau o Loegr wedi buddsoddi’n helaeth mewn technolegau digidol newydd, gan roi mantais dechnolegol amlwg iddynt a chan gael gwared â’r rhwystrau logistaidd a daearyddol traddodiadol o ran darparu gwaith labordy i ddeintyddfeydd lleol, yn cynnwys deintyddfeydd yng Nghymru.

Mae Cronfa Gydnerthedd Brexit wedi galluogi Precision i greu Canolfan Ddigidol newydd a buddsoddi mewn technolegau digidol newydd er mwyn parhau i fod yn gystadleuol. Nid yn unig mae’r arian wedi ein galluogi i ddiogelu ein cronfa bresennol o gwsmeriaid, ond hefyd bydd yn agor marchnadoedd i ni ymhellach i ffwrdd yng ngweddill y DU, yn Iwerddon, yn Ewrop a thu hwnt. Hefyd, bydd yn sicrhau y bydd gwaith a gaiff ei is-gontractio i labordai y tu allan i Gymru yn aros gyda ni, gan ein galluogi i wella proffidioldeb nifer o gynhyrchion.

Yn y Ganolfan Ddigidol, mae prynu eitemau offer cyfalaf (peiriannau melino a pheiriannau argraffu 3D), meddalwedd deintyddol pwrpasol a hyfforddiant cysylltiedig wedi gwella ein cynhyrchiant, wedi esgor ar arbedion effeithlonrwydd mewn prosesau gweithgynhyrchu ac, yn y pen draw, wedi ein galluogi i gynnig cynhyrchion gwell eu gwerth mewn amserlenni byrrach.

Cymorth Busnes Cymru

Mae Richard wedi elwa ar gymorth gan Brian Roberts, Rheolwr Perthnasoedd Busnes Cymru, a aeth ati i gynorthwyo Richard i ehangu Precision a sefydlu’r Ganolfan Ddigidol newydd yn Llaneirwg, Caerdydd. Ar ôl pennu nifer o heriau yn sgil ymadawiad y DU o’r EU, yn ogystal â chyfleoedd i’r busnes fynd ati i ddiogelu a gwella ei statws ar y farchnad, fe weithiodd Brian gyda Richard i greu pecyn ariannol a chodi buddsoddiad ar gyfer cyfalaf gweithio, offer newydd a gwaith recriwtio.

Rhoddodd Brian gymorth gyda’r broses ymgeisio am arian, a llwyddodd i helpu Richard i gael buddsoddiad a oedd yn gyfanswm o £176,995 trwy gyfrwng Cronfa Gydnerthedd Brexit Llywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru a Funding Circle.

Canlyniadau

  • cymorth rheoli perthnasoedd o ran ymestyn a buddsoddi
  • crëwyd 6 o swyddi ers 2017
  • diogelwyd 16 o swyddi, diolch i ddarparu offer uwch newydd
  • sicrhawyd buddsoddiad a oedd yn gyfanswm o £176,995 gan amryfal gyllidwyr i hwyluso twf a mynd i’r afael â heriau ar ôl Brexit

Bu cymorth Brian yn hollbwysig wrth wireddu ein cynlluniau mewn cyfnod mor fyr. Parhaodd Brian i’n cynorthwyo wrth inni ymdrechu i osod offer yn ein Canolfan Ddigidol newydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf ar gychwyn y pandemig, ac mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy inni.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Yn bennaf, mae’r buddsoddiad hwn wedi ein galluogi i wella ein cynhyrchiant, ein cysylltedd a’n hansawdd, gan leihau ein costau yr un pryd. Ond mae ein strategaeth hefyd yn cynnwys cynllun gwella parhaus ar gyfer adeiladu mwy ar y llwyddiannau hyn. Er gwaethaf Brexit a Covid-19, mae gennym gynlluniau yn yr arfaeth i dyfu fel busnes a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a fydd yn ein galluogi i agor marchnadoedd newydd er mwyn sicrhau y bydd Precision yn fusnes ar gyfer y dyfodol.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.