BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Pretty Perfect Boutique

Pretty Perfect Boutique

Entrepreneur ifanc yn lansio boutique gwisgoedd achlysur arbenigol yng nghanol dinas Caerdydd.

Gyda phrofiad o'r diwydiant priodas, penderfynodd Naomi Vaughan i ddechrau ei boutique pop-up yn gwerthu dillad achlysur ar gyfer achlysuron arbennig fel priodasau, promiau a phasiantau. Gyda help gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar ddechrau a rhedeg busnes, roedd Naomi yn medru ail-lansio The Pretty Perfect Boutique yn llwyddiannus ym mis Hydref 2019 yn Arcêd Morgan yng Nghaerdydd.

  • lansiad llwyddiannus
  • creu 1 swydd
  • cefnogaeth ymgynghorol a gweithdai

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi ei sefydlu gan Naomi Vaughan yn Arcêd Morgan yng Nghaerdydd yn 2019, mae The Pretty Perfect Boutique yn cynnig gwisgoedd achlysur ar gyfer pob mathau o achlysuron gan gynnwys priodasau, promiau, pasiantau a dathliadau. Mae'r siop hefyd yn arbenigo yn y pryniadau hollbwysig cyn ac ar ôl y ffrog briodas, gan gynnwys gwisgoedd mam y briodferch neu'r priodfab.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Penderfynais ddechrau fy musnes fy hun, The Pretty Perfect Boutique, yn 2018 a dechreuais fasnachu'n swyddogol ym mis Ionawr 2019. Roeddwn wedi bod yn gweithio yn y diwydiant priodasau ers bron i 5 mlynedd yn Laura May Bridal. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio yn y diwydiant, roeddwn i'n frwdfrydig dros ffrogiau cynllunydd ac yn mwynhau helpu priodferched i ddod o hyd i'w ffrog ddelfrydol. Cefais fy ysbrydoli gan y merched yn Laura May a oedd wedi dechrau eu busnes yn ôl yn 2011. Yn ystod fy nghyfnod yn gweithio gyda nhw, sylweddolais fod galw yng Nghaerdydd am siop gwisgoedd achlysur arbennig. Roedd llwyth o bobl yn dod i'r siop bob diwrnod yn chwilio am wisgoedd ar gyfer mam y briodferch neu briodfab nad oeddynt eisiau teithio y tu allan i ganol y ddinas, felly penderfynais y byddai'n gyfle perffaith imi gynnig pob mathau o wisgoedd achlysur i gyd mewn un lle.

Y darn anodd oedd dechrau, ond rhoddodd Laura May y cyfle imi agor boutique pop-up o fewn eu siop yng nghanol y ddinas. Roeddwn yn lwcus iawn o gael y cyfle ac wir yn mwynhau gweithio gyda nhw!

Rwyf wastad wedi bod yn uchelgeisiol, rwyf wedi manteisio ar gyfleoedd ac eisiau dechrau fy musnes fy hun - roeddwn i ond angen syniad da.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf i mi ei hwynebu oedd dod o hyd i gyllid a manylion bychain dechrau busnes. Roedd gen i fy arbedion personol fy hun, a dechreuais yn fychan a dysgu ar hyd y ffordd wrth imi dyfu. Bues yn profi fy syniad busnes yn Laura May cyn i mi fynd amdani ar fy mhen fy hun ac agor y siop fy hun fis Hydref ddiwethaf yn Arcêd Morgan. Gwnes rywfaint o arian o'r cam treialu ac yna cymerais ran mewn cystadleuaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd o'r enw Countdown to Launch. Ar wahân i ennill gwobr yn y gystadleuaeth, cefais gyfarfod buddsoddwr ac roeddwn yn gallu sicrhau ychydig o gyllid pellach. Dechreuodd bopeth ddigwydd o'r fan honno.

Roedd hysbysebu fy musnes yn ffactor mawr, ac yn dal i fod - canolbwyntio ar farchnata a chael pobl i glywed amdanom ni, ein hargymell ni, oedd y brif her. Gan fy mod yn gwneud popeth ar fy mhen fy hun, rwyf wedi cael trafferth ymdopi â bod yn y siop a hyrwyddo fy musnes.

Cymorth Busnes Cymru

Cafodd Naomi gefnogaeth gan Miranda Bishop, Ymgynghorydd Twf Busnes Cymru, gyda chyngor busnes cyffredinol ynghylch prif elfennau dechrau a rhedeg busnes gan gynnwys marchnata, rhagolygon ariannol ac Adnoddau Dynol, gan alluogi The Pretty Perfect Boutique i ail-lansio'n llwyddiannus ym mis Hydref 2019.

Canlyniadau

  • lansiad llwyddiannus
  • creu 1 swydd
  • cefnogaeth ymgynghorol a gweithdai

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'u cynllun entrepreneuriaeth, Laura May Bridal a Busnes Cymru wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw. Pan ddaeth fy syniad yn realiti, cymerais fantais o bob help a oedd ar gael i mi. Mae Miranda wedi fy helpu'n bersonol gyda phob agwedd o gyngor cyffredinol i Adnoddau Dynol, marchnata ac arian, ac rwyf yn dal i gwrdd â hi'n rheolaidd.

Mae Busnes Cymru wedi bod yno i ateb unrhyw gwestiynau a oedd gennyf, nad oeddwn yn gallu eu hateb fy hun. Maent hefyd wedi fy rhoi ar ben ffordd o safbwynt cyrsiau neu hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael i mi.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Flwyddyn nesaf, byddaf yn canolbwyntio ar feithrin enw da'r cwmni a dod yn fwy adnabyddus o fewn canol dinas Caerdydd a'r ardal gyfagos. Rydym eisiau parhau i dyfu'r busnes a dod y lle i siopa am wisgoedd achlysur yng Nghaerdydd. Rydym hefyd eisiau adeiladu ar y profiad o fewn y siop a chynnig dewis mwy amrywiol o steiliau i'n cwsmeriaid! Pwy a ŵyr beth arall a all ddigwydd, rydym yn agored i fanteisio ar bob cyfle a ddaw.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.