BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Rapport Mortgage Services Ltd

Rapport Mortgage

 

Mae Rapport Mortgage Services Ltd., wedi’i leoli yng Nghasnewydd, yn cynnig ystod eang o wasanaethau morgais a gwarchodaeth gan gynnwys pryniannau tro cyntaf, trosglwyddiadau cynnyrch, morgeisi preswyl a chyngor yswiriant, ymhlith eraill. Cysylltodd Pennaeth y practis, Richard Williams, â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ac mae wedi elwa o gyngor y mentor busnes gwirfoddol, Graeme Tipple.

  • cyngor mentora ar recriwtio a hybu hyder
  • cynllunio strategol ar gyfer y dyfodol gan gynnwys arallgyfeirio a strwythur busnes
  • creu 1 swydd newydd

Cyflwyniad i fusnes

Wedi’i sefydlu gan Richard Williams, mae Rapport Mortgage Services Ltd. yn gwmni morgais a gwarchodaeth, sy’n ymroddedig i helpu cleientiaid i ddod o hyd i’w cartref delfrydol. Mae’r busnes yn darparu cyngor morgais preswyl yn ogystal â chymorth i brynwyr tro cyntaf, cymorth gydag ailgyllido morgeisi presennol, trosglwyddiadau cynnyrch, gwarchodaeth ac yswiriant.

“Mae yna lawer o wybodaeth i’w threulio wrth brynu eiddo neu sicrhau gwarchodaeth. Rydym yn credu mewn mynd i’r afael ag anghenion unigol cleientiaid a’u helpu i ddeall eu hopsiynau’n llawn, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni eu nodau ariannol.   

​Mae ein statws annibynnol yn ein galluogi i sefydlu perthynas waith gyda sawl darparwr yswiriant a chwmni morgais diwydiant blaenllaw. Rydym yn argymell cynnyrch a gwasanaethau sydd wedi’u teilwra ar gyfer anghenion unigryw ein cleientiaid.”  

Beth wnaeth i chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Rwyf wedi bod yn hunangyflogedig ers blynyddoedd lawer ond penderfynais agor fy mhractis fy hun gan fod gen i rai syniadau y teimlwn a allai ddatblygu’r busnes er gwell. Mae’r rhain wedi cael eu rhoi ar waith yn fy musnes ac rydym yn gwella o ddydd i ddydd o safbwynt proses a chydymffurfiaeth.  

Pa heriau a wynebwyd gennych?

Dywedwyd wrthyf ei bod yn gynyddol anodd cael cytundeb gan y rheolydd a bod rhai o’r cyfrifoldebau yn fwy heriol nag yr oedden nhw mewn gwirionedd! Roedd gen i griw o gydweithwyr gwych a chefnogol a helpodd fi trwy’r broses hon, ac rwy’n dal i fod yn ddiolchgar am hynny hyd heddiw. Ers hynny, rwyf wedi datblygu mwy o berthnasoedd gyda chyflwynwyr newydd ac wedi gwella rhai presennol.    

Cymorth Mentora Busnes Cymru

Mae cael mentor wedi rhoi’r hyder i mi deimlo’n bositif am recriwtio. Roeddwn wedi recriwtio un aelod o staff cyn ymgysylltu â’r rhaglen fentora ac rwyf newydd gyflogi aelod arall o staff gweinyddol. Yn ystod ein cyfarfodydd gyda Graeme, rydym wedi canolbwyntio cryn dipyn ar ddatblygu’r busnes ymhellach ac arallgyfeirio. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gorfod cynllunio’n ofalus ac edrych ar strwythur y busnes yn gyntaf cyn cymryd camau penodol.

Deilliannau

  • perthynas fentora yn arwain at fwy o hyder wrth recriwtio
  • cyngor ar dwf busnes, arallgyfeirio a chynllunio yn y dyfodol

Mae Graeme wedi bod yn fentor gwych. Mae wedi gwrando’n ofalus, wedi rhoi adborth adeiladol ac wedi darparu syniadau ac atebion i faterion yr wyf wedi eu hwynebu am y tro cyntaf. Er bod gen i 15 mlynedd o brofiad ym maes cynghori, rwy’n cael trafferth gyda rheoli pobl a datblygu busnes. Mae cael mentor i drafod hyn wedi bod yn llawer mwy buddiol nag y gallwn fod wedi dychmygu, ac mae wedi gwneud i mi ganolbwyntio ar fy nghynnydd dros gyfnodau penodol o amser yn ystod y flwyddyn fusnes.

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Ar hyn o bryd rwy’n chwilio am adeilad swyddfa mwy ac wedi trafod y cytundeb prydles gyda  Graeme. Rwyf hefyd eisiau recriwtio mwy o staff y flwyddyn nesaf a gosod rhai sylfeini diogel ar y modd yr wyf yn bwriadu datblygu’r busnes ymhellach yn 2021 (ar ôl cael fy ngwynt ataf ryw gymaint y flwyddyn nesaf, gobeithio!).

Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.