BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Roost Merthyr Tydfil Ltd

The Roost Merthyr Tydfil Ltd

Mae Busnes Cymru wedi cynnig cyngor a chysylltiadau i ni er mwyn ein helpu i symud at y lefel nesaf.

Mae cabanau hunanarlwyo eco-gyfeillgar The Roost Merthyr Tudful wedi'u dylunio i gyd-fynd yn berffaith â'r amgylchedd naturiol lleol. O'r dechrau un, roedd y cyfarwyddwyr, Kath a Kristian Morgans, eisiau creu ardal gynaliadwy ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd â'r awyr agored.

Er mwyn tyfu eu busnes a datblygu nod cynaliadwyedd y busnes, aeth eu hymgynghorydd Effeithlonrwydd Adnoddau Busnes Cymru ati i drafod cyflwyno ynni adnewyddadwy, mannau gwefru cerbydau trydan ac adeiladu cabanau ychwanegol gyda nhw. Cynghorir gosod Paneli Solar fel y ffynhonnell ynni adnewyddadwy mwyaf addas, ond aethant ati i archwilio tyrbinau gwynt a micro-hydro fel opsiynau amgen posibl.

Mae The Roost Merthyr Tudful wedi ennill Tystysgrif Goriad Gwyrdd, yn cydnabod eu safonau rhagorol yn y maes cynaliadwyedd o fewn twristiaeth, ar ôl cymryd camau fel cynaeafu dŵr glaw ar gyfer toiledau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl a defnyddio cynnyrch glanhau sy'n ecogyfeillgar yn unig. 

Maent hefyd wedi llofnodi ein Haddewid Twf Gwyrdd, a byddant yn gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol, yn defnyddio tir, ynni a dŵr yn ddoeth ac yn cymryd camau i sicrhau eu bod yn gymdeithasol gyfrifol er budd llesiant staff.

A hoffech chi wella cynaliadwyedd amgylcheddol eich busnes?

Cysylltwch â ni heddiw i fanteisio ar gymorth ein harbenigwyr cynaliadwyedd Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.