BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Sparkle Pro Caravan Cleaning Ltd

Mae entrepreneur o Abertawe wedi goresgyn siomedigaethau'r cyfnod clo drwy ddechrau ei fusnes glanhau carafanau ei hun.

ansiwyd Sparkle Pro Caravan Cleaning Ltd yn 2020 yn Abertawe. Cysylltodd y perchennog Ian Thomas â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud ymholiadau am gefnogaeth dechrau busnes sydd ar gael i ddechrau arni. Ar ôl ymgysylltu gyda chynghorydd dechrau busnes, roedd Ian yn gallu:

  • dechrau yn llwyddiannus ym mis Awst 2020
  • sicrhau £3,000 drwy Purple Shoots
  • creu 1 swydd

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i ddechrau gan Ian Thomas ym mis Awst 2020, mae Sparkle Pro Caravan Cleaning yn cynnig gwasanaethau glanhau proffesiynol ar gyfer cartrefi gwyliau sefydlog a charafanau sy'n teithio.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Dechreuais y busnes gan fy mod wedi gweld bwlch yn y farchnad am wasanaethau glanhau carafanau gyda llaw, proffesiynol ac roeddwn eisiau gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Yn flaenorol, roeddwn wedi gweithio i eraill yn y diwydiannau Gwerthu a Hamdden am 20 mlynedd ac roeddwn wastad yn gwybod y gallwn ei wneud fy hun dim ond i mi gymryd y camau cywir.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf o bell ffordd oedd y cyfyngiadau symud, ond roeddwn yn benderfynol o wneud gwahaniaeth i'm bywyd a gwneud fy ngorau i sicrhau twf y brand a'r busnes. Aeth pethau'n waeth byth gan fy mod yn anffodus wedi cael fy niswyddo yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau symud - collais fy swydd flaenorol heb ffyrlo. Defnyddiais yr amser oedd gennyf adref i feddwl am syniadau a ffyrdd o ddechrau fy musnes. 

Cymorth Busnes Cymru

Gweithiodd Ian gyda chynghorydd dechrau busnes, Busnes Cymru, Hywel Bassett, er mwyn dod o hyd i'r ffyrdd gorau o ddechrau ei fusnes ei hun, yn dilyn diswyddiad yn ystod y cyfnod o dan gyfyngiadau. Helpodd Hywel gyda llunio cynllun busnes a rhagolygon ariannol. Yn dilyn hynny, cynorthwyodd gyda chais am gyllid Ian, gan arwain at sicrhau benthyciad o £3,000 gan Purple Shoots tuag at brynu fan ac offer. Llwyddodd Ian i lansio'r busnes yn yr haf ac ers hynny mae wedi denu sylfaen o gwsmeriaid ffyddlon, gan gynnwys rhai enwogion rygbi amlwg eu proffil yng Nghymru.

Canlyniadau

  • dechrau yn llwyddiannus ym mis Awst 2020
  • sicrhau £3,000 drwy Purple Shoots 
  • creu 1 swydd

Cefais fy rhoi mewn cysylltiad â Hywel ar gychwyn fy menter. Trafododd yr holl opsiynau gyda mi a chysylltiadau posib y gallwn gysylltu â hwy er mwyn ceisio sefydlu fy musnes. Nid oeddwn yn gymwys am fenthyciad gan y Llywodraeth, felly roedd hi'n her dod o hyd i gymorth. Cefais fy nghyflwyno gan Hywel i'r benthyciadau Purple Shoots fel opsiwn cyllid. Llwyddais i gael benthyciad gwerth £3,000, ac er nad yw'n swm anferthol, bu hyn o gymorth i mi fuddsoddi mewn fan newydd wedi'i brandio, oherwydd roeddwn eisiau i'm busnes gael ei weld fel cwmni proffesiynol gyda'r gwasanaeth a'r cymorth gorau ar gael i gwsmeriaid.

Mae'r busnes wedi fy syfrdanu: mewn cyfnod byr iawn, rwyf wedi cael dros 19 adolygiad pum seren sy'n destun balchder ac yn dangos fy mod ar y llwybr cywir i lwyddo. Mae gennyf lawer i'w ddysgu, ond rwy'n benderfynol o weithio'n galed a gwneud fy musnes yn enw adnabyddus.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Y dyfodol ar gyfer Sparkle Pro Caravan Cleaning Ltd yw dod yn enw brand adnabyddus mewn aelwydydd ledled Cymru. Hoffwn sicrhau contractau gyda pharciau gwyliau amlwg, nid yn unig yng Nghymru ond yn ehangach hefyd. Rwy'n awyddus i ddarparu'r gwasanaeth cwsmer gorau a rhoi fy amser a'm gwybodaeth o fewn y diwydiant i'm cwsmeriaid er mwyn gallu rhoi cymaint o gymorth â phosib iddynt.

Rwy'n gweithio'n galed a gobeithiaf y bydd yn arwain at stori lwyddiant arbennig, nid yn unig i mi ond i eraill a gafodd eu gadael heb ddim - rwyf eisiau dangos i bobl eu bod yn gallu cyflawni llawer mwy ac na ddylent golli gobaith yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.