Mae Busnes Cymru wedi helpu i gadw ein datblygiad busnes cyfnod cynnar ar y trywydd iawn ac wedi rhoi’r cysylltiadau i ni adeiladu cadwyn gyflenwi gref yng Nghymru.
Daeth Elliot Tanner at Busnes Cymru i drafod ei syniad ar gyfer busnes newydd ar ôl iddo ddylunio a chael patent rhannol ar gyfer system storio beics.
Gyda chyngor ac arweiniad gan ei gynghorydd busnes profiadol, sefydlwyd Stashed Products Ltd.
Roedd y cyngor a gafodd yn cwmpasu amrywiaeth o faterion yn cynnwys dechrau a thyfu busnes, archwilio’r potensial allforio ac adolygu eu gweithgareddau ymchwil, datblygu ac arloesi.
Mae’r busnes wedi cyflawni twf yn gyflym ac wedi sicrhau cyfleoedd masnach rhyngwladol pellach ar gyfer y dyfodol.
Cofrestrwch heddiw i gael cefnogaeth gyda dechrau busnes a thwf busnes.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.