BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Tangent Partnership Ltd

The Tangent Partnership

Asiantaeth ddylunio a brandio lwyddiannus yn ennill bri yng Nghymru ar ôl symud o West Sussex.

Asiantaeth ddylunio a brandio wedi’i lleoli yn Aberhonddu yw Tangent Partnership Ltd, a Mary a David Kerfoot sy’n berchen arni ac sy’n gyfrifol am ei rheoli. Aeth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ati i helpu’r ddau i symud yn llwyddiannus i Gymru, a diolch i gymorth tendro pellach, mae’r gwasanaeth wedi eu galluogi i ennill nifer o gontractau pwysig yn y farchnad leol.

  • Cymorth Rheoli Perthnasoedd i symud i Gymru
  • cyngor tendro yn ymwneud â GwerthwchiGymru a chyflwyno tendrau
  • enillwyd contract gwerth £70,000 gyda Chyngor Abertawe a rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru

Cyflwyniad i’r busnes

Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, aeth Mary a David Kerfoot ati i lansio Tangent Partnership Ltd yn 2000. Asiantaeth ddylunio a brandio yw Tangent, ac mae’n cynnig gwasanaeth ymgynghori dylunio am bris rhesymol i sefydliadau’r sector preifat a’r sector cyhoeddus ledled Cymru, y DU ac Ewrop.

Mae’r busnes yn arbenigo mewn gwasanaethau dylunio mewnol a brandio ar gyfer y diwydiant lletygarwch, gan amrywio o fusnesau sydd newydd ddechrau i gwmnïau mawr, rhyngwladol.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Cafodd Mary Kerfoot, cyfarwyddwr a phrif ddylunydd mewnol y cwmni, ei geni a’i magu yn Abertawe. Mae ganddi atgofion melys o Farchnad Abertawe, yn enwedig o’r cyfnod pan fynychai hen Ysgol Stryd Rhydychen a phan arferai fynd i’r farchnad amser cinio i wledda ar gocos a theisennau cri. Mae’r gair ‘hiraeth’ yn mynegi dyhead angerddol am eich mamwlad – mae’n fwy na ‘gweld eisiau’ eich mamwlad ac mae’n arwydd o’r cwlwm annatod sydd rhyngoch chi a’ch mamwlad pan fyddwch ymhell oddi wrthi.

Yn 1989 ac 1990 treuliasom flwyddyn yn teithio’r byd, yn rhannol er mwyn gweld a oeddem yn byw yn y wlad a oedd yn gweddu orau inni. Daethom ar draws llefydd a oedd wrth fodd ein calon, ond llefydd na allem weithio ynddynt; a hefyd, daethom ar draws y gwrthwyneb. Ond wnaethom ni ddim darganfod y lle perffaith, felly dychwelyd i’r DU fu ein hanes. Yna, yn 2016, cafodd Mary bwl ofnadwy o hiraeth, a chan fy mod yn fodlon cyd-fynd â hi, dyma ni’n codi ein pac ac yn dod i Gymru. Yn awr, rydym yn rhedeg y stiwdio ddylunio o Ddefynnog ger Aberhonddu ac mae gennym swyddfa werthu yn Llundain.

Cymorth Busnes Cymru

Yn 2018, cysylltodd Mary a David gyda Steve Maggs, Rheolwr Perthnasoedd Busnes Cymru, trwy gyfrwng y Ffederasiwn Busnesau Bach, gan eu bod yn dymuno symud eu cartref a’u swyddfa o Loegr i Bowys. Yn y misoedd cyn iddynt symud, gwnaeth Busnes Cymru yn siŵr fod Mary a David yn gyfarwydd â’r cymorth busnes a oedd i’w gael yng Nghymru. Ar ôl iddynt symud, aeth Steve ati i gynnal adolygiad cyffredinol o’r busnes a chadarnhau beth oedd dyheadau a nodau’r ddau, gan esbonio mentrau fel Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi, y Contract Economaidd a’r amrywiol Fargeinion Twf ledled Cymru, yn ogystal â rhaglenni’n ymwneud yn benodol â Chanolbarth Cymru, fel Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio. Cafodd y ddau gymorth gan Guto Carrod, Cynghorydd Tendro arbenigol Busnes Cymru, ynghylch defnyddio platfform GwerthwchiGymru, ac aeth ati i helpu Tangent i dendro am gontractau lleol.

O ganlyniad, penderfynodd Tangent Partnership weithio gydag un o gleientiaid Busnes Cymru, sef RW Evans a’i Fab, ar brosiect amlddisgyblaethol a oedd yn cynnwys gwaith dylunio, brandio ac ymgynghori cyn agor safle gwerthu newydd yn Aberhonddu. Ymhellach, yn dilyn cyfle ar GwerthwchiGymru, llwyddodd David a Mary i ennill contract gwerth £70,000 trwy gyfrwng Cyngor Abertawe a rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r Cyngor, masnachwyr a’r cyhoedd i drawsnewid ac ailwampio ardal fasnachu ysbeidiol Marchnad Abertawe.

Canlyniadau

  • Cymorth Rheoli Perthnasoedd i symud i Gymru
  • cyngor tendro yn ymwneud â GwerthwchiGymru a chyflwyno tendrau
  • enillwyd contract gwerth £70,000 gyda Chyngor Abertawe a rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru

Fe wnaeth y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chyngor Sir Powys ein cyflwyno i Steve Maggs. Daeth Steve draw i’n gweld ym mis Ebrill 2019 er mwyn cael golwg gyffredinol ar y busnes. Rhoddodd ni mewn cysylltiad â Guto Carrod, Cynghorydd Tendro, yn ogystal â Cyflymu Cymru i Fusnesau i gynnal adolygiad o’n gwefan.

Mae Guto wedi bod yn hollbwysig o ran ein helpu i baratoi ar gyfer tendrau. Mae wedi ein cyflwyno i GwerthwchiGymru ac wedi ein helpu gyda chyngor a gwaith papur ar gyfer prosiectau yr oeddem o’r farn eu bod yn gweddu i ni. Roeddem eisoes yn meddu ar y sgiliau a’r profiad i fynd i’r afael â’r gwaith ei hun, ond cyfraniad Guto oedd ein cynorthwyo i gyrraedd y pwynt hwnnw. Llwyddasom i basio adolygiad gwefan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn hollol ddidrafferth, er ein bod wedi cael ambell awgrym defnyddiol, a bu’r profiad yn fuddiol ac yn ddifyr. Hefyd, fe wnaethom fynychu gweithdai’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol a seiberddiogelwch. Ochr yn ochr â’r hyfforddiant, mae’r digwyddiadau hyn wastad yn fuddiol o ran creu cysylltiadau lleol – gyda chleientiaid a chyflenwyr fel ei gilydd.

Yn ddiweddar, llwyddasom i ennill tendr gyda Chyngor Abertawe i ailwampio Ardal Fasnachu Ysbeidiol Canol Marchnad Abertawe. Mae a wnelo’r gweddnewid yn bennaf â chreu ardal gymunol, amlddefnydd ar gyfer eistedd, cyfarfod, cyfarch, bwyta a chynnal digwyddiadau. Heb Busnes Cymru, ni fyddem wedi bod yn ymwybodol o’r prosiect.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn a hanner. Fe wnaethom ennill nifer o wobrau uchel eu bri, yn cynnwys “Asiantaeth Ddylunio’r Flwyddyn ar gyfer Caerdydd a De Cymru” yn y Corporate LiveWire Prestige Awards a’r “Asiantaeth Ddylunio Manwerthu a Lletygarwch Amlddisgyblaethol Orau – Ewrop” yn yr SME News 2020 UK Enterprise Awards. 

Yr hyn rydym yn gobeithio’i gyflawni yn y dyfodol yw dal ein gafael ar ein cleientiaid presennol (rydym wedi llwyddo i ddal gafael ar oddeutu 90% hyd yn hyn) ac ehangu ein cleientiaid fel y gellir cynnwys sefydliadau mwy eu maint o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus.

Rydym eisiau parhau i ddatblygu ein cynnig digidol, yn cynnwys y wefan, y cyfryngau cymdeithasol, Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) ac apiau symudol, yn ogystal â diweddaru ein caledwedd a’n rhwydweithiau. Rydym eisiau creu perthnasoedd rhwydweithio gyda sefydliadau sydd ymhellach i ffwrdd; ond oherwydd y pandemig, dim ond yn lleol yma yn Ne Cymru rydym wedi llwyddo i wneud hyn hyd yma.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.