“Rwyf wedi fy mhlesio’n arw â’r lefel o gyngor, pa mor gyflym y gweithiodd y tîm i gynnig cymorth a’r adnoddau oedd ar gael i ni.”

Thornbush Hill Staff in their shop

 

Gan ddechrau fel hobi o’u cegin gartref, lansiodd Adam Lewis a’i wraig Kirsty Lewis Thornbush Hill Ltd yn 2016. Mae'r cwmni'n cynhyrchu canhwyllau, toddion cwyr a gwasgarwyr unigryw. Tyfodd eu busnes yn naturiol ers iddynt lansio, gan weithredu dau safle manwerth a gwefan, a gweithio gyda chyflenwyr a thîm o hyrwyddwyr Brand Thornbush Hill ledled y DU. 

Roeddent yn awyddus i ddatblygu Thornbush Hill ymhellach fyth, ac wrth wynebu hinsawdd economaidd heriol, aethant i geisio cymorth ac arbenigedd gan Busnes Cymru. Cafodd Adam gefnogaeth gan gynghorydd gwybodus a helpodd i ddatblygu cynllun busnes a rhagolygon ariannol. Fe’i cyfeiriwyd wedyn at gynghorydd AD gan fod Adam eisiau bod yn sicr ei fod yn rheoli iechyd a llesiant ei staff yn dda. 

Gyda chymorth gan ei gynghorydd AD, llofnododd Adam yr Addewid Cydraddoldeb, lle bydd yn datblygu llawlyfr cwmni i fod yn ganllaw o ran polisïau a gweithdrefnau’r cwmni. Cofrestrodd hefyd ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, gan dynnu sylw at ymdrech y busnes i fod yn ecogyfeillgar drwy ddefnyddio cwyr sy’n 100% seiliedig ar blanhigion yn y canhwyllau, defnyddio pecynnu wedi’i ailgylchu a chael gwared â phlastig untro o’u busnes. 

Rydym yn falch iawn o glywed bod Thornbush Hill Ltd wedi mynychu Sioe Bro Morgannwg yn ddiweddar a dyfarnwyd hwy’n 3ydd ‘Stondin Fasnachol Orau’ allan o dros 200 o fanwerthwyr!

Ydych chi angen cymorth gyda thwf eich busnes? Cysylltwch â’r tîm i ganfod sut allwn eich helpu chi ar eich taith fusnes. 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen