BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

To^st Café and Deli

To^st Café and Deli

Gyda chymorth Busnes Cymru mi wireddais fy mreuddwyd o agor caffi a deli yn Wrecsam. Roeddent yno bob cam o’r ffordd yn fy arwain gyda fy nghais am gyllid entrepreneuriaeth canol tref. Nawr ein bod wedi agor maent yn parhau i roi cymorth busnes ac yn cynnig ystod eang o gyrsiau byr i gynorthwyo perchnogion busnes newydd.

Daeth Claire Wright atom am gymorth pan oedd hi eisiau agor ei chaffi a'i deli ei hun. 

Cwblhaodd arolwg busnes gyda’i hymgynghorydd i adnabod a mynd i’r afael ag elfennau allweddol, gan gynnwys yr angen i ddod o hyd i safle addas yng nghanol y dref, deall ei chostau dechrau busnes a’r cymorth ariannol posib a fyddai’n ei galluogi i agor ei busnes newydd.

Cafodd Claire gymorth ei hymgynghorydd busnes gyda’i chais i Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref, gan gynnwys cydweithio ar ddogfennaeth ategol fel ei chynllun busnes a rhagolygon llif arian.

Roedd Claire yn llwyddiannus yn sicrhau’r cyllid ac fe agorodd ei chaffi, to^st café and deli!

Dysgwch sut all ein hymgynghorwyr busnes profiadol eich cynorthwyo i wireddu eich breuddwydion busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.