BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Wonderwool Wales

Wonderwool Wales

 

Busnes Cymru yn helpu'r ŵyl wlân fwyaf yng Nghymru i gadw deupen llinyn ynghyd a dod o hyd i ffyrdd newydd o arddangos busnesau gwlân a ffibr yng nghanol pandemig byd-eang.

Wonderwool Wales yw'r ŵyl wlân fwyaf yng Nghymru. Fe'i cynhelir yn flynyddol ym Mhowys, ac mae'n ddigwyddiad hollbwysig i'r ardal, gan ddenu dros 6,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Er i ni orfod canslo'r digwyddiad ddwy flynedd yn olynol oherwydd pandemig Covid-19, mae Wonderwool wedi cael cymorth ymgynghorol ac ariannol gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ac mae'n edrych ymlaen at ŵyl wahanol, ond cyffrous serch hynny, yn 2021.

  • Llwyddwyd i sicrhau £101,611 o'r Gronfa Adfer Diwylliannol.
  • Mabwysiadu polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ddangos i gwsmeriaid ein hymrwymiad i weithredu mewn modd cynhwysol.
  • Mabwysiadwyd polisi Cynaliadwyedd i leihau costau, gwella effeithlonrwydd a chyfleoedd busnes drwy fodloni’r galw am arferion busnes cynaliadwy.

Cyflwyniad i fusnes

Wonderwool Wales yw'r ŵyl wlân a ffibr fwyaf yng Nghymru. Fe'i cynhelir yn flynyddol ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanfair-ym-muallt, ar benwythnos olaf mis Ebrill, gan arddangos dros 220 o fusnesau gwlân a ffibr yn ogystal â nifer o ddarparwyr bwyd stryd. Yn 2019, dyfarnwyd y Digwyddiad Gorau ar gyfer 2019/2020 i Wonderwool yng ngwobrau cyntaf Twristiaeth Canolbarth Cymru a Chanmoliaeth Uchel yng nghategori digwyddiadau gwobrau Gwau a Crochet Prydain cylchgrawn Let's Knitt.

O ble y deilliodd y syniad i gynnal yr ŵyl? 

Prosiect Glasu oedd Wonderwool Wales yn wreiddiol i ychwanegu gwerth cynnyrch i gynhyrchwyr gwlân bach ym Mhowys ac fe'i hariannwyd am dair blynedd. Roedd y sioe wreiddiol yn 2006 yn rhan o Ŵyl Wanwyn Sioe Frenhinol Cymru gyda 42 o arddangoswyr. Y flwyddyn ganlynol fe'i trefnwyd fel digwyddiad annibynnol ac mae wedi mynd o nerth i nerth byth ers hynny. 

Ar ôl y tair blynedd o gyllid, penderfynodd sawl aelod o'r pwyllgor llywio, y cynhyrchwyr gwlân a ffibr eu hunain, fynd ati i gynnal y digwyddiad, sydd bellach dan ofal tri chyfarwyddwr, Chrissie Menzies, Sarah Stacey ac Olwen Veevers.

Gofynnwyd i Chrissie sut maen nhw wedi bod yn ymdopi â heriau'r pandemig a sut mae'r ŵyl wedi llwyddo i addasu i'r byd newydd:

Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu?

Fel llawer o fusnesau eraill, mae Wonderwool Wales wedi cael ei daro'n ddifrifol gan bandemig Covid-19. Bu'n rhaid i ni wneud y penderfyniad i ganslo'r digwyddiad yn 2020 oherwydd y pandemig. Arweiniodd hyn at golli'r holl gostau a ysgwyddwyd wrth drefnu'r digwyddiad a'r costau dilynol sy'n gysylltiedig â chanslo, ad-daliadau a chyfrifon diwedd blwyddyn. O ganlyniad defnyddiwyd ein cronfeydd wrth gefn ar gyfer argyfyngau, oedd yn golygu y byddem yn dechrau digwyddiad 2021 heb ddim ond yr arian ar gyfer stondinau a gynigiwyd gan hanner ein harddangoswyr i gadw'r digwyddiad i fynd. 

Roedd yn gyfnod pryderus iawn, ac nid oeddem yn fodlon defnyddio arian nad oedd yn perthyn i ni yn dechnegol ond yn hytrach i'n harddangoswyr a'n deiliaid tocynnau. Roeddwn wedi cysylltu â Busnes Cymru o'r blaen i ofyn am gymorth gyda materion polisi ac fe'm rhoddwyd mewn cysylltiad â [ymynghorydd busnes] Debra Davies-Russell sydd wedi bod o gymorth mawr wrth ein cynorthwyo i fynd drwy’r cyfnod anodd hwn.

Cymorth Busnes Cymru

Cefnogwyd prif ddigwyddiad tecstilau a gwlân Cymru gan ymgynghorydd busnesau newydd Busnes Cymru, Debra Davies-Russell a'r ymgynghorydd arbenigol, Catherine Rowland. Rhoddodd Debra a Catherine Chrissie a'r tîm gymorth i lunio polisïau a gweithdrefnau fel rhan o'u cais i'r Gronfa Adfer Diwylliannol. O ganlyniad, mae Wonderwool Wales wedi gallu sicrhau'r grant i helpu gyda chostau digwyddiad 2020 a gweithgareddau'r busnes yn 2021.

Hefyd rhoddodd yr ymgynghorwyr gymorth i Wonderwool gyda materion busnes cyffredinol oherwydd y pandemig, gan gynnwys cynlluniau busnes, marchnata a symud i ddigwyddiad ar-lein.

Canlyniadau

  • Llwyddwyd i sicrhau £101,611 o'r Gronfa Adfer Diwylliannol.
  • Mabwysiadwyd polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ddangos i gwsmeriaid ymrwymiad i weithredu mewn modd cynhwysol.
  • Mabwysiadwyd polisi Cynaliadwyedd i leihau costau, gwella effeithlonrwydd a chyfleoedd busnes drwy ateb y galw am arferion busnes cynaliadwy.

Cysylltais â Debra i geisio cymorth ariannol i'r sector digwyddiadau ac yn y pen draw, rhoddodd Debra wybod i ni am y Gronfa Adfer Diwylliannol. Fe'n cynorthwyodd drwy wirio ein cais cyn i ni ei gyflwyno a'n cynghori ar unrhyw ychwanegiadau angenrheidiol. Bu hyn yn fodd i ni gyflwyno cais llwyddiannus am gyllid i dalu am ein colledion o sioe 2020 a'r costau ymlaen llaw ar gyfer trefnu digwyddiad 2021. Mae'r cyllid hwn wedi achub y sioe ac wedi ein galluogi i ariannu ein cronfa wrth gefn ar gyfer argyfyngau ac i drefnu ein digwyddiad nesaf heb bryderon.

Yn anffodus, bu'n rhaid i ni ganslo'r sioe am yr ail flwyddyn oherwydd y pandemig, sydd wedi bod yn siomedig iawn i'n harddangoswyr, ein hymwelwyr ac i ninnau. Fodd bynnag, gyda'r Gronfa Adfer Diwylliannol a chynllunio ariannol gofalus, rydym mewn sefyllfa dda iawn i barhau tuag at 2022 pan fyddwn yn benderfynol o gynnal digwyddiad gwych i bawb.

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Yn 2020, cynhaliwyd ein sioe ar-lein gyntaf drwy ein tudalen Facebook. Ychydig iawn o wybodaeth oedd gennym am gynnal digwyddiadau ar-lein, felly fe'i cadwyd yn syml – gweithiodd hynny'n dda iawn i ymwelwyr ac arddangoswyr. Gan ein bod unwaith eto wedi gorfod canslo ein digwyddiad ar gyfer mis Ebrill 2021, rydym yn cynnal digwyddiad ar-lein yn ystod penwythnos sioe Ebrill a’r tro yma, rydym wedi llogi rhywun i helpu i sefydlu a chynnal y digwyddiad ar yr ochr dechnegol. Fe’i cynhelir ar Facebook, ond byddwn yn gwerthu ‘safleoedd ar-lein’ i’n harddangoswyr a hefyd byddwn yn gwerthu gweithdai 2 awr a gynhelir drwy Zoom ar hyd y penwythnos.

Rydym yn bwriadu ychwanegu mwy at ein Hysgolion Gwlân, a gynhelir drwy’r penwythnos, a gweithio gyda thiwtoriaid rhyngwladol i gynnig amrywiaeth ehangach o weithdai. Rydym wedi bod yn gwneud enw i’n hunain dros y byd fel sioe wlân a byddai’n wych adeiladu ar hyn yn y blynyddoedd nesaf, er mwyn denu mwy o grwpiau o deithwyr ac ymwelwyr unigol o dramor i’r sioe.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gallu darparu bwrsariaeth o £1000 i un neu ddau o raddedigion mewn BA Gwau a Thecstilau o Goleg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin. Mae enillydd(wyr) y fwrsariaeth yn cael cyfle i gael stondin yn sioe'r flwyddyn ganlynol yn rhad ac am ddim. Oherwydd ein sefyllfa ariannol yn 2020, nid oeddem yn gallu dyfarnu'r fwrsariaeth, ond rydym yn falch iawn o allu ailddechrau hyn.

Rydym yn falch o hyrwyddo'r defnydd niferus o wlân drwy'r sioe ac i ddarparu llwyfan gwerthu i fusnesau bach, canolig a mawr sy'n rhan o’r diwydiant ac rydym yn gobeithio parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod.

Os ydych chi eisiau darllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.