BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Xscape Rooms Ltd

Xscape Rooms Ltd

Helpodd Busnes Cymru ni i agor ein busnes‘escape room’, gan ddod â’n breuddwyd ac atyniad oedd mawr ei angen i Fangor.

Daeth Nick at Busnes Cymru gan ei fod ef a’i frawd yn awyddus i gychwyn y busnes ‘escape rooms’ cyntaf ym Mangor. Mynychodd weminar Busnes Cymru, Cychwyn a Rhedeg Busnes a derbyniodd gefnogaeth un i un gan ei gynghorydd, a gynorthwyodd gyda’u cais Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref. Gyda’r gefnogaeth a’r cyngor a roddwyd, roedd eu cais Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref yn llwyddiannus, a chawsant agor Xscape Rooms Ltd! 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.