BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blynyddoedd Cynnar Cymru - Cefnogaeth i ysgol

Cefnogaeth i ysgol er mwyn galluogi lleoliad gofal dydd llawn ddod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol  

Cyfarfu swyddog llywodraethu Blynyddoedd Cynnar Cymru â’r prifathro, y dirprwy brifathro a’r llywodraethwyr i drafod model gofal dydd y lleoliad. Ar ôl y drafodaeth, dewisodd y llywodraethwyr gofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol a dechrau ar y broses o gofrestru.  Mae gan Flynyddoedd Cynnar Cymru lwybr carlam gyda’r Comisiwn Elusennau ac ysgwyddodd ein swyddog llywodraethu’r rhan fwyaf o’r gwaith gan ddefnyddio ei system llwybr carlam.  Cyflwynwyd yr holl waith papur perthnasol gan gofrestru eu Sefydliad Corfforedig Elusennol o fewn 48 awr. 

Aeth cofrestriad y Sefydliad Corfforedig Elusennol  trwodd ond, cyn y gallai’r Unigolyn Cyfrifol (y dirprwy brifathro) uwchlwytho gwaith papur Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y Sefydliad Corfforedig Elusennol, dywedodd llywodraethwyr yr ysgol wrtho gau’r Sefydliad Corfforedig Elusennol a sefydlu Cwmni Buddiannau Cymunedol yn ei le. Roedd y llywodraethwyr o’r farn y byddai hyn yn strwythur mwy addas ac y byddai'n rhoi mwy o reolaeth i'r ysgol dros y busnes a thros gyllid. Cofrestrwyd y Cwmni Buddiannau Cymunedol gyda rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a Thŷ’r Cwmnïau a dechreuwyd ar y gwaith o ddiddymu’r Sefydliad Corfforedig Elusennol.

Aeth yr Unigolyn Cyfrifol ar wefan y Comisiwn Elusennau i ddiddymu’r Sefydliad Corfforedig Elusennol ar lein; fodd bynnag, cysylltodd gweithiwr achos i holi ynghylch trosglwyddo asedau. Nid yw Cwmnïau Buddiannau Cymunedol yn elusennau, felly ni ellir trosglwyddo asedau heb gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau a, gan nad oedd pethau'n glir ynghylch hyn, clustnodwyd y Sefydliad Corfforedig Elusennol gyda ‘rhybudd rheolaethol’. 

Rhoddodd Blynyddoedd Cynnar Cymru gefnogaeth ynghylch y Sefydliad Corfforedig Elusennol ac Arolygiaeth Gofal Cymru ond y llywodraethwyr oedd yn ymdrin â’r Cwmni Buddiannau Cymunedol a rheoliadau TUPE.

Roedd yr Unigolyn Cyfrifol yn cydnabod cymaint o waith oedd Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi’i wneud ac roedd yn ddiolchgar iawn ac yn ymddiheuro hefyd, roedd derbyn y rhybudd rheolaethol yn frawychus ac roedd yr ysgol angen cefnogaeth i drosglwyddo o Sefydliad Corfforedig Elusennol i Gwmni Buddiannau Cymunedol yn unol â’r rheoliadau.

Diolch unwaith eto, allwch chi ddim dychmygu cymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi’ch amser ac ymdrech.” Diolch Sue, Sori Sue!!!
(Pennaeth Cynorthwyol)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.