BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blynyddoedd Cynnar Cymru - Cymorth i leoliad ddatrys problemau cyflogaeth a chytundebol

Cymorth i leoliad ddatrys problemau cyflogaeth a chytundebol a dod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol. 

Gweithiodd Blynyddoedd Cynnar Cymru gyda’r ymddiriedolwyr newydd oedd newydd eu penodi i leoliad ble roedd y staff yn credu eu bod yn hunan gyflogedig. Roedd Blynyddoedd Cynnar Cymru yn amau hynny,  gan fod  y staff wedi trosglwyddo o dan TUPE o gyflogwr arall, a dylai eu telerau a’u hamodau fel cyflogeion fod yn dal yr un fath.  Credai’r staff yn gryf eu bod yn hunan gyflogedig ac felly roeddynt yn dal i weithio fel staff hunan gyflogedig ac â statws anghorfforedig ar gyfer y lleoliad. 

Pan orfododd Covid-19 y lleoliad i gau, cysylltodd y lleoliad a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi er mwyn cofrestru ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws.  Gwrthododd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i ganiatáu ffyrlo oherwydd statws y staff, gan eu cyfeirio at y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig.  Cysylltodd y staff ag ACAS a oedd yn ansicr a oeddynt yn gyflogeion neu’n hunan gyflogedig.

Roedd hyn yn sefyllfa anodd gan fod pryderon yn codi ynghylch atebolrwydd ariannol personol yr Ymddiriedolwyr newydd. 

Gweithiodd Blynyddoedd Cynnar Cymru’n galed gyda’r Ymddiriedolwyr newydd i sefydlu gweithdrefnau a chytundebau priodol. Roedd y broses yn un gymhleth ond roedd yn sicrhau fod y problemau statws cyflogaeth a chytundebol yn cael eu datrys.

Gweithiodd Blynyddoedd Cynnar Cymru gyda’r Ymddiriedolwyr gydol y cyfnod clo, gan gynnal 12 o gyfarfodydd rhithiol, 67 o alwadau ffôn ac 122 o e-byst wrth gynnig arweiniad a chefnogaeth ynghylch gweithdrefnau, polisïau a chyfraith cyflogaeth ac elusennol.  Roedd yr Ymddiriedolwyr yn ystyried talu crocbris i fargyfreithiwr i ddatrys y problemau cyflogaeth ond llwyddodd Blynyddoedd Cynnar Cymru i’w cyfeirio at gyfreithiwr cyflogaeth amgen a roddodd y cyngor a chefnogaeth yr oeddynt eu hangen, gan arbed cryn gostau a thrafferth.  

Cafodd anghydfod cytundebol cymhleth ei setlo drwy drafodaethau oedd yn cael eu hwyluso ac mae'r lleoliad wedi gallu symud ymlaen, gan fynd o nerth i nerth. Llwyddwyd i osgoi achos cyfreithiol drud, ac erbyn hyn maen nhw wedi cofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol, gan roi atebolrwydd cyfyngedig iddyn nhw eu hunain ac unrhyw Ymddiriedolwyr yn y dyfodol, gyda chefnogaeth sylweddol oddi wrth Blynyddoedd Cynnar Cymru.

Cefais gyfarfod arall gyda Sue ac Elaine ddoe ac fe hoffwn gymryd y cyfle hwn i anfon fy niolchiadau iddyn nhw am eu holl gefnogaeth. Mae Sue wedi bod yn anhygoel yn ein harwain ac yn rhoi'r cyngor roedden ni ei angen i gael trefn ar ein llywodraethiant ac i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Ac mae Elaine yn seren, mae wedi bod yn gymaint o gefnogaeth i mi yn bersonol dros y 12 mis diwethaf (mae hyd yn oed wedi fy ffonio y tu allan i oriau swyddfa gan ei bod yn gwybod fy mod yn gweithio llawn amser). Maen nhw’n dîm grêt ac yn helpu xx i gael eu hunain yn barod i symud” (Ymddiriedolwr)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.