BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Boddhad Cwsmeriaid Gwasanaeth Busnes Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Opinion Research Services (ORS) i gynnal arolwg gyda defnyddwyr diweddar gwasanaeth Busnes Cymru, y cwsmeriaid hynny sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn yr 8 mis cyn cael eu cyfweld. Bydd yr arolwg yn coladu lefelau boddhad gan ganolbwyntio'n benodol ar ansawdd.

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd ORS yn casglu gwybodaeth drwy arolwg dros y ffôn. 

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data'r ymchwil. Fodd bynnag, bydd ORS yn symud unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad dienw.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau wrth gael mynediad at wasanaeth Busnes Cymru yn bwysig er mwyn helpu i lywio darpariaeth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn ORS yw Kester Holmes
Cyfeiriad e-bost: Kester.Holmes@ors.org.uk
Rhif ffôn: 0800 107 7890
Gwefan: www.ors.org.uk/privacy

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Mae Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'r DU (GDPR y DU) yn diffinio data personol fel 'unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau'r data a roddir ar yr adeg gofrestru gyda Gwasanaeth Busnes Cymru er mwyn i ORS gysylltu â chi. Mae gan Lywodraeth Cymru'r data personol canlynol a fydd yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel i ORS:

Enw Busnes, Math o Gyfrif, Dyddiad Menter a Grëwyd, Cyfeiriad, Cod Post, Rhif Ffôn Busnes, Nifer y Cyflogeion, Enw Cyswllt, Rhif Symudol, E-bost Cyswllt, teitl y pecyn cymorth, Cofnod y rhaglen ar gyfer (categori busnes), Cofnod yr is-raglen ar gyfer (categori busnes), Dyddiad Ymyrryd Cynharaf, Dyddiad Ymyrryd Hwyraf, Mathau o Gamau Gweithredu; Rhywedd, BME, A yw’r Cleient yn ystyried ei hun yn anabl; Statws cyflogaeth.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, neu gysylltu eich hunaniaeth â nhw. Os byddwch yn cyflwyno ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol gan ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais yn ôl at y swyddog perthnasol yn unig.

Pan gynhelir arolwg dros y ffôn, bydd y gweithredwr yn nodi'r ymatebion a roddwch ac yn recordio’r sgwrs am resymau ansawdd a monitro. Bydd ORS yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r arolwg ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym nad ydych am gymryd rhan os nad ydych yn hapus i’r drafodaeth gael ei recordio.  Bydd y cofnodion cael eu dileu o fewn 6 mis ar ôl diwedd yr arolwg. 

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o'r data rydym yn ei gasglu yn 'ddata categori arbennig' (yn yr achos hwn eich statws ethnigrwydd ac anabledd) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil. 

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
• Gynllunio darpariaeth cymorth busnes yn y dyfodol 
• Gwerthuso lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaeth Busnes Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i ORS bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael gafael ar y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd ORS yn defnyddio'r data hwn. Mae gan ORS ardystiad Cyber Essentials.  

Mae gan ORS weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch data. Os drwgdybir bod achosion o’r fath wedi digwydd, bydd ORS yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn a byddan nhw’n rhoi gwybod i chi ac unrhyw reolydd perthnasol lle mae gofyniad cyfreithiol iddynt wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Ni fydd eich busnes yn cael ei adnabod yn y set ddata ddienw hon. Bydd ORS yn dadansoddi'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu canlyniadau penawdau a data dienw. Yna caiff y set ddata ddienw hon ei throsglwyddo'n ddiogel i Lywodraeth Cymru sy'n dehongli'r canlyniadau i wella'r modd y darperir gwasanaethau a'r ddarpariaeth yn y dyfodol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol? 

Bydd ORS yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract (Ionawr 2021 – Rhagfyr 2024), a bydd unrhyw ddata personol yn cael eu dileu gan ORS dim hwyrach na chwe mis ar ôl diwedd y contract. Y dyddiad olaf ar gyfer eu dileu fydd 31/05/2025.

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarparwch yn rhan o’r ymchwil hon, mae gennych yr hawl:
•    i gyrchu copi o’ch data eich hun
•    i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
•    i wrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (dan amgylchiadau penodol)
•    i’ch data gael eu ‘dileu’ (dan amgylchiadau penodol)
•    i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol dros ddiogelu data

Gwybodaeth Gyswllt

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.
Gwefan: www.ico.gov.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'r DU, cysylltwch â:
Enw: Cerris Dearsley-Hopkins
Cyfeiriad e-bost: cerris.dearsley-hopkins@llyw.cymru
Rhif ffôn: 03000 615864

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.