BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Busnes Cymru – Cronfa Cydnerthedd Brexit – Datganiad Preifatrwydd

Er mwyn cael ystyriaeth ar gyfer Cronfa Cydnerthedd Brexit  a derbyn cymorth gan Busnes Cymru, mae’n ofynnol i ni  gasglu gwybodaeth gennych. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes berthnasol a fydd yn ein galluogi i ddarparu’r cyngor a’r wybodaeth briodol i chi. Bydd methu â darparu’r wybodaeth hon i ni yn eich atal rhag bod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cydnerthedd Brexit a chael mynediad at wasanaeth Busnes Cymru.

Mae Busnes Cymru angen eich gwybodaeth bersonol er mwyn asesu eich cymhwyster ar gyfer adrannau grant y gronfa a hefyd bydd gwybodaeth ariannol am eich busnes yn cael ei darparu i Fanc Datblygu Cymru (DBW) iddyn nhw asesu eich cymhwyster ar gyfer benthyciad masnachol sy’n cael ei weithredu drwy Fanc Datblygu Cymru.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolwr data a Busnes Cymru fydd y prosesydd data yng nghyswllt gwybodaeth bersonol yn ymwneud â’r grant a Banc Datblygu Cymru fydd y rheolwyr data o ran gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes ariannol i ddibenion ymgeisio am fenthyciad a derbyn benthyciad ganddyn nhw.  

Os ydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru fel rhan o broses ymgeisio Cronfa Cydnerthedd Brexit, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o ddatganiad preifatrwydd Banc Datblygu Cymru yn ogystal â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Gellir cael mynediad at hysbysiad preifatrwydd Banc Datblygu Cymru gan ddefnyddio'r ddolen hon https://developmentbank.wales/cy/polisi-preifatrwydd 

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu’n unol â’r gyfraith ac yn dryloyw.

Y seiliau cyfreithiol dros brosesu data fydd tasg Gyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae prosesu data’n angenrheidiol er mwyn i Busnes Cymru ddarparu'r grant hwn, ac mae sail glir dros hynny yn y gyfraith.

Mae hyn yn unol ag Erthygl 6(1)(e) y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 ac yn seiliedig ar ein hawdurdod swyddogol dan Adran 60 (1) (a) Deddf Llywodraeth Cymru. Lle y mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gymryd camau a ystyrir yn briodol ganddi i hyrwyddo neu wella lles economaidd Cymru. Lle bo data categori arbennig yn cael ei ddarparu gan ddefnyddwyr, mae dan yr amod a roddir yn Erthygl 9(2) (a) GDPR (Rheoliad yr UE 2016/679).

Rhowch funud neu ddau i ddod yn gyfarwydd â’n harferion preifatrwydd

1. Pam ein bod yn casglu ac yn prosesu’r data a gesglir

Er mwyn i chi gael ystyriaeth ar gyfer Cronfa Cydnerthedd Brexit a derbyn cefnogaeth Busnes Cymru, mae’n ofynnol i ni gasglu gwybodaeth gennych. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes berthnasol a fydd yn ein galluogi i ddarparu’r cyngor a’r wybodaeth briodol i chi. Bydd methu â darparu’r wybodaeth hon inni yn eich atal rhag bod yn gymwys ar gyfer y gronfa a chael mynediad at y gwasanaeth. Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys enw, cyfeiriad, gwybodaeth gysylltu a gwybodaeth am eich busnes. I dderbyn cymorth Busnes Cymru, byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth ddemograffig sy’n ein helpu i dargedu’r grwpiau demograffig cywir ar gyfer Cymorth Busnes. Caiff ymgeiswyr yr opsiwn o nodi “Gwell gen i beidio â dweud”. Os na fyddwch yn llwyddiannus yn eich cais, byddwn yn ysgrifennu atoch gydag amlinelliad o’r rhesymau pam a sut y gallwch ail-ymgeisio am gyllid (Os byddwch yn dymuno).

2. Pwy fydd yn gallu gweld eich data: 

Bydd gweinyddwyr technegol y system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu gweld yr wybodaeth a gesglir. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd. Caiff yr wybodaeth a gesglir i ddibenion Busnes Cymru ei rhannu gyda’r sefydliadau canlynol i’r dibenion a nodir isod – 

  • Gan gontractwyr yn cyflwyno gwasanaeth Busnes Cymru sy’n darparu cymorth i fuddiolwyr.
  • Gan sefydliadau ymchwil gymdeithasol gymeradwy, i wneud gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal yng nghyswllt gwasanaeth Busnes Cymru.
  • Y Comisiwn Ewropeaidd a Thîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd (EFAT) a fydd yn cymryd samplau o’n data i sicrhau ein bod yn dilyn y prosesau cywir.
  • Bydd rhywfaint o wybodaeth ariannol am eich busnes yn cael ei rhoi i Fanc Datblygu Cymru fel y gallant asesu a ydych yn gymwys am fenthyciad masnachol a weithredir drwy Fanc Datblygu Cymru. Gallwch weld eu datganiad preifatrwydd yma https://developmentbank.wales/cy/polisi-preifatrwydd. Bydd Banc Datblygu Cymru yn rhannu gwybodaeth bersonol â Llywodraeth Cymru ond bydd hyn yn gyfyngedig i’r data sy’n ofynnol ar gyfer gweinyddu elfen grant Cronfa Cydnerthedd Brexit.

3. Beth fyddwn ni’n ei wneud â’r wybodaeth

  • Monitro ac adrodd ar y nifer o unigolion a mentrau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy’n cael cymorth (e.e. gwahanol oedrannau, rhywiau ac ethnigrwydd).  
  • Nodwch, os gwelwch yn dda, mai dim ond â sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn ymchwil/gwerthusiad o’ch profiad ar y prosiect, bydd diben y cyfweliad neu arolwg yn cael ei esbonio i chi a rhoddir dewis i chi dderbyn neu wrthod y cais i gymryd rhan. Dim ond i ddibenion ymchwil gymeradwy y defnyddir eich manylion cysylltu a byddant yn cael eu dileu pan fydd yr ymchwil gymeradwy wedi’i chwblhau.

4. Am ba hyd y caiff eich manylion eu cadw

Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru dan ddeddfwriaeth Cymorth Gwladol gadw eich data personol am isafswm o 10 mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben  ac ar ôl y cyfnod hwnnw caiff ei ddinistrio’n ddiogel. Mae gan Fanc Datblygu Cymru ei bolisi cadw ei hun. Gweler hysbysiad preifatrwydd Banc Datblygu Cymru ar y ddolen isod https://developmentbank.wales/cy/polisi-preifatrwydd

5. Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data mae gennych hawl i’r canlynol:

  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru’n ei gadw amdanoch chi;
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (o dan rai amgylchiadau);
  • ‘dileu’ eich data (o dan rai amgylchiadau);
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

I gael cymorth gydag unrhyw un o’r hawliau uchod cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth  a’ch Gwybodaeth Chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am weld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn cysylltu â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.