BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Busnes Cymru - Datganiad Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru ac yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR y DU) rydym wedi datblygu Hysbysiad Preifatrwydd sy'n cwmpasu pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael eu prosesu'n deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Cymerwch eiliad i ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd.

1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu'r data a gesglir

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolwr Data ar gyfer y data personol a roddwch wrth gael mynediad at Gymorth Busnes Cymru.  Yn unol â'n tasg gyhoeddus defnyddir y data i'ch adnabod a rhoi'r cymorth mwyaf priodol i chi gan ein timau.

Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes berthnasol a fydd yn ein galluogi i roi'r cyngor a'r wybodaeth briodol i chi.  Gall methu â rhoi'r wybodaeth hon i ni eich atal rhag cael mynediad i'r gwasanaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am ddata buddiolwyr er mwyn bodloni gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau a gyllidir Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. 

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud y gwaith o ariannu, cynllunio, monitro a chynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth i fonitro ac adrodd ar nifer yr unigolion a'r mentrau sy'n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy'n cael cymorth (e.e. gwahanol oedrannau, rhywedd ac ethnigrwydd).  

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion busnes ar gyfer gweithgareddau marchnata Busnes Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data heb eich caniatâd at y diben penodol hwn.

Sylwer mai dim ond sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu â nhw. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil/gwerthusiad am eich profiad ar y prosiect, bydd diben y cyfweliad neu'r arolwg yn cael ei esbonio i chi a byddwch yn cael yr opsiwn i ddweud ie neu na i gymryd rhan. Dim ond ar gyfer ymchwil gymeradwy y defnyddir eich manylion cyswllt a byddant yn cael eu dileu unwaith y bydd yr ymchwil gymeradwy hon wedi'i chwblhau.

2. Pwy fydd yn cael gweld eich data?

Bydd yr wybodaeth yn cael ei storio ar System TG ddiogel Llywodraeth Cymru. Mae'n cael ei chasglu a'i rhannu gyda'r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrir isod:

  • Ein Contractwyr Busnes Cymru sy'n darparu'r gwasanaeth i chi.
  • Gan sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i gynnal gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal o'r gwasanaeth.
  • Y CE (y Comisiwn Ewropeaidd) a Thîm Archwilio'r Cronfeydd Ewropeaidd (EFAT) a fydd yn cymryd samplau o'n data i sicrhau ein bod yn dilyn y prosesau cywir.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi timau gwasanaeth a gweinyddwyr technegol ei system sy'n cefnogi'r system I.T. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.

4. Am faint o amser ydyn ni'n eu cadw?

Mae'n ofynnol i ni o dan ddeddfwriaeth Cymorth Gwladwriaethol gadw eich data personol am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'r prosiect ddod i ben ac ar ôl hynny cânt eu dinistrio mewn modd diogel.

5. Beth yw eich hawliau?

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:

  • gael gafael ar y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch;
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu
  • gofyn i’ch data (mewn rhai amgylchiadau) gael eu 'dileu'
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane, Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â'n Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen i gysylltu â ni.

6. Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth a roddwch i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i ofyn am eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

7. Newidiadau i'r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau'n cael eu postio yma ac maent yn effeithiol ar unwaith. Pan fydd newidiadau'n digwydd i'r polisi hwn byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost rydym wedi'i gofnodi yn eich cyfrif i'ch galluogi i adolygu'r fersiwn newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth

Cyfeiriad post:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@gov.cymru

Diweddarwyd ddiwethaf 17 Mehefin 2021.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.