Canllawiau ar Ryddhad Ardrethi Gorfodol a Dewisol a Chynlluniau Gostyngiadau yng Nghymru: Elusennau, Sefydliadau Nid Er Elw, Eiddo Gwag ac Eraill

Canllawiau

Ynglŷn â’r canllawiau hyn 

Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar ryddhad ardrethi gorfodol a dewisol a chynlluniau gostyngiadau ardrethi. I Gymru yn unig y mae’r canllawiau hyn yn gymwys. 

Nid yw’r canllawiau yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn ag ardrethi annomestig nac unrhyw ganllawiau ar ryddhadau nas nodwyd yn y canllawiau hyn (e.e. rhyddhad ardrethi i fusnesau bach). 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn i: 
LocalTaxationPolicy@llyw.cymru

Cangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd 
CF10 3NQ

Mae nifer o ryddhadau ardrethi gorfodol a dewisol eraill ar gael hefyd ac maent yn rhoi cymorth ar gyfer mathau penodedig o eiddo.

Mae ein  tudalennau gwe Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth i drethdalwyr am gynlluniau rhyddhad ardrethi.

Cyflwyniad

Diben y ddogfen hon yw rhoi gwybodaeth gyffredinol a chanllawiau i awdurdodau bilio mewn perthynas â dyfarnu rhyddhad gorfodol a dewisol a gostyngiadau ar gyfer ardrethi annomestig o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) (fel y’i diwygiwyd). Mae’n cwmpasu’r cynlluniau sydd ar gael i gyrff elusennol, sefydliadau nid er elw eraill, eiddo gwag, eiddo a feddiannir yn rhannol, caledi a rhyddhad dewisol lleol.
  
Mae polisi ardrethi annomestig wedi’i ddatganoli i Gymru ers 1999. Trysorlys EM fu’n gyfrifol am reoli cyllidol ardrethi annomestig tan 1 Ebrill 2015 pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn hefyd i Lywodraeth Cymru. Arweiniodd hyn at newidiadau i’r trefniadau cyllidebol ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Ers y dyddiad hwn, mae refeniw’r ardrethi a gesglir yng Nghymru yn effeithio’n uniongyrchol ar y swm o gyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Caiff holl refeniw ardrethi annomestig a godir yng Nghymru ei ddosbarthu i lywodraeth leol drwy’r setliadau blynyddol er mwyn cefnogi gwariant ar wasanaethau lleol. Caiff yr holl drafodion sy’n ymwneud ag ardrethi annomestig eu rheoli gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa ardrethi annomestig Cymru.

Gofynnir i awdurdodau adolygu eu harferion presennol mewn perthynas â rhyddhad ardrethi, gan ystyried arfer da fel yr amlinellwyd yn y ddogfen hon. Cyfrifoldeb pob awdurdod yw barnu p’un a yw’r meini prawf yn y canllawiau hyn yn gymwys ym mhob achos a pha bwys, os o gwbl, y dylid ei roi arnynt. 

Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu rhyddhadau gorfodol a dewisol. Bydd y ffordd y mae awdurdod yn dyfarnu rhyddhad ardrethi dewisol yn dibynnu ar yr amgylchiadau lleol a chyfansoddiad ei sylfaen drethu. 

Mae’r darpariaethau sy’n llywodraethu sut yr ariennir y gwahanol ryddhadau wedi’u nodi yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (y Rheoliadau). Mae’r Rheoliadau yn nodi’r ganran a ariennir drwy’r gronfa ardrethi annomestig a’r ganran a ysgwyddir gan yr awdurdod ar gyfer pob math o ryddhad. Mae Atodiad A yn cynnwys tabl cryno o’r wybodaeth allweddol ar gyfer pob cynllun rhyddhad. 

Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan bwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru yn adran 47(5D) o Ddeddf 1988 mewn perthynas â rhyddhad dewisol. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn arfer eu pŵer i gyhoeddi’r canllawiau hyn o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Cefndir 

Mae Deddf 1988 yn darparu bod gan eiddo sydd o dan berchenogaeth sefydliadau elusennol neu a feddiannir ganddynt yr hawl i gael rhyddhad ardrethi annomestig gorfodol. Pennir y lefel hon ar 80% o’r bil ardrethi eiddo a feddiannir. Mae’r rhyddhad hwn hefyd ar gael i Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol.

Ariennir rhyddhad gorfodol yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Felly, nid yw’n ofynnol i awdurdodau dalu’r swm a ildiwyd i mewn i’r gronfa.

Gall awdurdodau ychwanegu at y rhyddhad hyd at 100% o’r bil ardrethi eiddo a feddiannir yn ôl eu disgresiwn. Mae’n ofynnol i awdurdodau dalu 75% o unrhyw ryddhad ychwanegol o’r fath i mewn i’r gronfa ardrethi annomestig. Caiff y 25% arall ei ariannu’n ganolog.

Nid oes rhaid i awdurdod gynnig rhyddhad dewisol. Fodd bynnag, os bydd yn penderfynu dyfarnu rhyddhad dewisol, mae’n arfer da dyfarnu rhyddhad ar sail meini prawf cymhwysedd sydd ar gael ar wefan yr awdurdod.

Mae’r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth a chanllawiau mewn perthynas â’r canlynol:

  • Meini prawf cymhwysedd ar gyfer elusennau (gan gynnwys siopau elusennol);
  • Meini prawf cymhwysedd ar gyfer Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol

Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Elusennau

Mae gan dalwr ardrethi ar gyfer eiddo ar y rhestr ardrethu leol yr hawl i gael rhyddhad gorfodol rhag ardrethi: 

  • os yw’n cael ei feddiannu gan elusen neu ymddiriedolwr elusen;  
  • os yw’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol

Ceir hefyd delerau ac amodau ychwanegol ar gyfer siopau elusennol.

A yw’r eiddo yn cael ei feddiannu gan elusen neu ymddiriedolwr elusen?

Cyn bod awdurdod yn dyfarnu rhyddhad, mae’n rhaid iddo fodloni ei hun bod y sefydliad sy’n gwneud cais am ryddhad yn elusen (neu ymddiriedolwr elusen) mewn gwirionedd. Os yw’r sefydliad yn elusen sydd wedi’i chofrestru â’r Comisiwn Elusennau, yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn gallu rhoi ei rif cofrestru. 

Fodd bynnag, nid yw pob elusen yn elusen gofrestredig. Ceir rhagor o wybodaeth am elusennau nad oes angen iddynt gofrestru ar wefan y Comisiwn Elusennau

Os oes gan awdurdod unrhyw amheuon ynglŷn â ph’un a yw sefydliad yn elusen; gall ofyn am lythyr gan Cyllid a Thollau EM yn cadarnhau bod y sefydliad yn cael ei drin fel elusen at ddibenion treth. 

A yw’r adeilad yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol?

Defnyddir adeiladau at amrywiaeth o ddibenion elusennol ac, mewn llawer o achosion, bydd yn amlwg eu bod yn cael eu defnyddio ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf’ at ddibenion elusennol. Er enghraifft, gallant gael eu defnyddio fel pencadlys elusen neu ganolfannau cymunedol, hyfforddi ac addysgol neu fel siopau elusennol. 

Mae cyfraith achosion ddiweddar yn rhoi mwy o eglurder ynghylch p’un a ddylai awdurdodau ddyfarnu rhyddhad i sefydliadau elusennol os nad ydynt yn defnyddio rhan sylweddol o’r eiddo. Ceir rhagor o wybodaeth am y mater hwn ar wefan y Comisiwn Elusennau.

Os bydd gan awdurdod broses gwneud cais, dylid gofyn i’r elusen roi esboniad clir a chyfiawnhad dros y defnydd arfaethedig o’r adeiladau. 

Mae’r Comisiwn Elusennau yn ymwybodol o achosion lle mae manwerthwyr a landlordiaid eiddo anodd ei osod yn cysylltu ag elusennau er mwyn gofyn iddynt ymrwymo i gytundebau tenantiaeth a fyddai’n rhoi rhyddhad i’r landlordiaid rhag y gofyniad i dalu ardrethi annomestig llawn. 

Telerau ac amodau ychwanegol i siopau elusennol

Mae adran 64(10) o Ddeddf 1988 yn nodi mai dim ond os yw siop elusennol yn cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf i werthu nwyddau a roddwyd i elusen a bod yr enillion o werthu’r nwyddau (ar ôl didynnu unrhyw dreuliau) yn cael eu cymhwyso at ddibenion elusen y bydd ganddi hawl i gael rhyddhad ardrethi gorfodol.

Mae’n arfer cyffredin ystyried y canlynol wrth benderfynu p’un a ddefnyddir siop elusennol yn gyfan gwbl neu’n bennaf i werthu nwyddau a roddwyd:  

  • Canran yr arwynebedd a feddiannir gan nwyddau a roddwyd;
  • Canran y trosiant a’r elw sy’n dod o werthu nwyddau a roddwyd; 
  • Canran yr eitemau unigol a werthir sy’n nwyddau a roddwyd.

Mae rhai busnesau wedi codi pryderon yn y gorffennol ynglŷn â’r twf yn nifer y siopau elusennol ar y stryd fawr. Er bod rhanddeiliaid yn cydnabod bod siopau elusennol mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru yn cynnig llawer o fanteision, mae rhai yn credu bod gwerthu nwyddau newydd mewn siopau elusennol yn arwain at elfen o gystadleuaeth annheg i fusnesau bach. 

Wrth ddyfarnu rhyddhad dewisol ‘ychwanegol’ i siopau elusennol, mae’n rhaid i awdurdodau ystyried effaith bosibl siopau elusennol ar fusnesau lleol. Dylai awdurdodau fonitro niferoedd mewn ardaloedd gwahanol yn ofalus ac addasu eu polisi ynglŷn â rhyddhad dewisol ‘ychwanegol’ yn unol â hynny. Os bydd awdurdod yn credu bod siopau elusennol yn cael effaith negyddol ar yr economi leol, gall, er enghraifft, ddewis peidio â dyfarnu rhyddhad dewisol ‘ychwanegol’ i unrhyw siopau elusennol, yn unol â Deddf 1988. Os bydd gan awdurdod bryderon penodol ynglŷn â gwerthu nwyddau newydd mewn siopau elusennol, gall ddewis pennu trothwy uwch mewn perthynas â’r rhyddhad dewisol ychwanegol nag y byddai ei angen o dan ryddhad gorfodol.

Mae’n arfer da i awdurdodau gynnal arolygiadau o siopau elusennol o bryd i’w gilydd hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw reswm dros amau bod cyfran ormodol o nwyddau newydd yn cael ei gwerthu. Dylid cynnal arolygiadau ar adegau gwahanol o’r flwyddyn fel y gellir cadarnhau i ba raddau y cydymffurfir â’r rheolau yn ystod amodau masnachu arferol. 

Gall awdurdodau hefyd ddewis cynnal arolygiad o siopau elusennol yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, er mwyn sicrhau bod elusennau yn parhau i gydymffurfio â’r rheolau ar nwyddau newydd yn ystod y cyfnod hwn. 

Cyfrifoldeb yr elusen yw sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr yn ymwybodol o’r rheolau ar werthu nwyddau newydd. Os bydd siop yn torri’r rheolau, ni ddylid caniatáu iddi gael rhyddhad gorfodol mwyach. Os yw’r awdurdod yn rhoi rhyddhad dewisol, efallai y bydd am anfon llythyr ffurfiol yn hysbysu’r elusen nad yw’n gymwys i gael rhyddhad dewisol mwyach ac, o ganlyniad, y caiff y rhyddhad hwnnw ei dynnu’n ôl.

Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol

Mae gan eiddo yr hawl i gael rhyddhad os yw’r talwr ardrethi yn glwb chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig ac:

  • os yw’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion y clwb chwaraeon amatur cymunedol; neu 
  • os yw’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion y clwb chwaraeon amatur cymunedol a sefydliadau tebyg.

  
Fodd bynnag, ni all awdurdod gynnig rhyddhad i glwb chwaraeon amatur cymunedol ar gyfer eiddo sy’n hereditament a eithrir. 

Cyn bod awdurdod yn dyfarnu rhyddhad ar y sail hon, bydd angen iddo gadarnhau mai clwb chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig ydyw. Mae rhestr gyfredol o glybiau sydd wedi’u cofrestru â CThEM ar gael ar wefan GOV UK. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth i sefydliadau sydd am gofrestru’n glwb chwaraeon amatur cymunedol. 

Os nad yw clwb chwaraeon yn elusen nac wedi’i gofrestru’n glwb chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig, gall awdurdod serch hynny benderfynu dyfarnu rhyddhad dewisol. Ceir gwybodaeth am ryddhad dewisol ar gyfer mathau eraill o glybiau chwaraeon ym  yr adran Rhyddhad Dewisol Arall.

Cefndir

Mae adran 45 o Ddeddf 1988 yn nodi atebolrwydd eiddo heb ei feddiannu, sef 100% o ardrethi eiddo a feddiannir. 

Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • Cyfnod yr Eithriad Cychwynnol;
  • Eiddo nad yw’n talu ardrethi eiddo gwag;
  • Rhyddhad ar eiddo gwag i elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol; 
  • Osgoi trethi ac eiddo gwag.


Cyfnod yr Eithriad Cychwynnol

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 (Rheoliadau 2008) yn darparu ar gyfer rhoi rhyddhad gorfodol yn y tri mis cyntaf y mae eiddo annomestig yn wag, neu’r chwe mis cyntaf os yw wedi’i ddosbarthu’n eiddo diwydiannol. 

Mae’n darparu ymhellach fod yn rhaid bod yr eiddo gwag wedi’i feddiannu am gyfnod o fwy na 26 wythnos yn union cyn hynny er mwyn bod yn gymwys i gael yr eithriad cychwynnol hwn. Caiff unrhyw gyfnod o feddiannu sy’n llai na 26 wythnos ei ddiystyru. Mae hyn yn osgoi hawliadau am gyfnodau dilynol o ryddhad ar ôl cyfnodau byr o ddeiliadaeth.

Eiddo nad yw’n talu Ardrethi Eiddo Gwag

Mae Rheoliadau 2008 hefyd yn diffinio’r mathau o eiddo nad ydynt yn talu ardrethi eiddo gwag (hyd yn oed ar ôl y cyfnod o dri mis pan na thelir ardrethi). 

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Eiddo y gwaherddir ei feddiannu yn ôl y gyfraith;
  • Eiddo a gedwir yn wag oherwydd camau penodol a gymerir gan y Goron neu awdurdod lleol neu gyhoeddus;
  • Adeiladau rhestredig ac adeiladau sy’n destun hysbysiadau cadw adeilad;
  • Henebion cofrestredig; 
  • Eiddo y mae gan ei berchennog ond hawl i’w feddiannu yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol person ymadawedig, datodwr neu ymddiriedolwr o dan weithred gymodi; neu 
  • Eiddo y ei berchennog yn destun achos ansolfedd;
  • Eiddo y mae ei werth ardrethol yn llai na £2,600. 

Rhyddhad ar Eiddo Gwag ac Elusennau neu Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol
 
Mae Deddf 1988 yn darparu bod eiddo a fydd yn cael cyfradd sero os nad yw’n cael ei feddiannu yn achosion lle:

  • mae’r talwr ardrethi yn elusen neu’n ymddiriedolwyr elusen; 
  • yr ymddengys y bydd yr hereditament, pan gaiff ei ddefnyddio nesaf, yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol (p’un ai at ddibenion yr elusen honno neu ddibenion yr elusen honno ac elusennau eraill); 

neu lle:

  • mae’r talwr ardrethi yn glwb cofrestredig at ddibenion adran 658 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (clwb chwaraeon amatur cymunedol);  
  • yr ymddengys, pan fydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio nesaf, 
  • y bydd yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion y clwb hwnnw ac y bydd y clwb hwnnw yn glwb cofrestredig o’r fath; neu 
  • y bydd yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion dau neu ragor o glybiau, gan gynnwys y clwb hwnnw, ac y bydd pob un o’r clybiau hynny yn glwb cofrestredig o’r fath.

Osgoi Trethi ac Eiddo Gwag

Ymddengys mai’r dulliau mwyaf cyffredin o osgoi talu ardrethi yw’r rhai sy’n gysylltiedig â rhyddhad ar eiddo gwag. Ymhlith yr ystrywiau cyffredin a ddefnyddir i osgoi talu ardrethi mae: 

  • cyfnodau mynych o feddiannu artiffisial/dyfeisiedig;
  • elusennau yn meddiannu eiddo mewn modd artiffisial neu ddyfeisiedig;
  • defnyddio eithriadau ansolfedd.

Bydd awdurdodau eisoes yn ymwybodol o’r ystrywiau uchod a nifer o ystrywiau eraill. Mae’n bwysig eu bod yn ystyried pob cais yn ofalus a gofyn am ragor o wybodaeth a thystiolaeth pan fo amheuaeth ynghylch p’un a ddylid rhoi unrhyw ryddhad.

Cefndir 

Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am y pwerau sydd ar gael i awdurdodau o ran gostyngiadau ar gyfer eiddo a feddiannir yn rhannol.

Gostyngiadau ar gyfer Eiddo a Feddiannir yn Rhannol

Mae adran 44A o Ddeddf 1988 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau leihau atebolrwydd talwr ardrethi lle yr ymddengys i’r awdurdod bod rhan o eiddo heb ei meddiannu ac y bydd yn parhau felly am gyfnod byr yn unig.

Gall awdurdodau ddewis defnyddio’r pŵer disgresiwn hwn pan fo anawsterau ymarferol o ran meddiannu neu adael eiddo. Er enghraifft, pan fydd angen meddiannu neu adael yr eiddo o fewn a thros nifer o wythnosau neu fisoedd neu pan fo rhyw ddigwyddiad megis tân neu lifogydd yn golygu nad oes modd defnyddio rhan o’r eiddo. 

Ni fwriedir i’r pwerau disgresiwn hyn gael eu defnyddio lle nad yw rhan o eiddo yn cael ei defnyddio dros dro neu lle y gwneir llai o ddefnydd ohoni dros dro, e.e. lle mae offer, cyfarpar neu beiriannau yn parhau i fod ynddo.

Dylai ymgeiswyr roi’r dyddiad y cafodd yr eiddo ei feddiannu’n rhannol, neu y caiff ei feddiannu’n rhannol, y rheswm dros ei feddiannu’n rhannol a’r dyddiad y maent yn disgwyl i’r eiddo gael ei feddiannu’n gyfan gwbl neu ei adael yn wag yn gwbl gyfan.

Lle mae awdurdod yn bwriadu arfer ei bwerau disgresiwn i roi gostyngiad, dylai geisio dosraniad o’r gwerth ardrethol gan y Swyddog Prisio. Ar ôl cael cais o’r fath, mae’n ofynnol i’r Swyddog Prisio ddosrannu gwerth ardrethol yr eiddo rhwng y rhan o’r eiddo a feddiannir a’r rhan sydd heb ei meddiannu.

Ar ôl i gyfnod yr eithriad cychwynnol ddod i ben (ar ôl tri mis, neu chwe mis ar gyfer eiddo diwydiannol), yn y rhan fwyaf o achosion daw’r dosraniad i ben a bydd ardrethi eiddo a feddiannir yn gymwys i’r eiddo cyfan. Fodd bynnag, os na fydd y meddiannydd yn gymwys ar gyfer yr ardrethi eiddo gwag ar yr eiddo am ei fod wedi’i eithrio neu os bydd gan yr eiddo gyfradd sero, e.e. am ei fod o dan berchenogaeth elusen neu ymddiriedolwyr elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol, bydd y dosraniad yn parhau’n weithredol ac ni fydd y talwr ardrethi yn atebol am dalu ardrethi ar y rhan wag.

Mae’r cyfnod gweithredol yn dechrau ar y diwrnod y daw’r eiddo yn eiddo heb ei feddiannu’n rhannol. Yn achos dosraniad pellach, mae’r cyfnod gweithredol yn dechrau ar y diwrnod y daw’r dosraniad pellach yn weithredol. Yn y naill achos a’r llall, bydd y cyfnod yn parhau hyd at un neu ragor o’r digwyddiadau canlynol: 

  • caiff unrhyw ran o’r rhan o’r eiddo sydd heb ei meddiannu y mae’r dosraniad yn berthnasol iddi ei meddiannu;
  • diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r awdurdod yn gofyn am y dosraniad ynddi;
  • mae gofyn am ddosraniad pellach;
  • daw’r eiddo yn eiddo heb ei feddiannu’n gyfan gwbl.

Mae’r cyfyngiadau uchod yn golygu y bydd unrhyw ddosraniad sy’n weithredol yn peidio â bod yn weithredol ar ôl 31 Mawrth bob blwyddyn. Os bydd awdurdod yn dymuno parhau â’r trefniant yn y flwyddyn ariannol ddilynol, mae’n rhaid iddo ddefnyddio ei ddisgresiwn i’w gwneud yn ofynnol i gael dosraniad pellach. Yn ymarferol, os na fu unrhyw newid i’r graddau y mae’r eiddo wedi’i feddiannu’n rhannol, gallai’r dystysgrif gynharach a roddwyd gan y Swyddog Prisio barhau oni bai:

  • bod y flwyddyn ariannol nesaf yn flwyddyn ailbrisio; neu 
  • bod y gwerth ardrethol ar gyfer yr hereditament fel arall wedi cael ei newid (e.e. yn sgil newid perthnasol mewn amgylchiadau).

Lle y bo modd i’r rhan o’r eiddo sy’n wag gael ei hasesu ar wahân, ni fydd angen i’r awdurdod arfer ei ddisgresiwn os gofynnir i’r Swyddog Prisio rannu’r asesiad presennol yn ôl y rhan a feddiannir a’r rhan sy’n wag. 

Cefndir

Mae gan awdurdodau nifer o bwerau i ddyfarnu rhyddhadau dewisol i sefydliadau a busnesau. Os bydd awdurdod yn penderfynu cynnig rhyddhad, mae’n arfer da ei ddyfarnu ar sail meini prawf cymhwysedd sydd ar gael ar wefan yr awdurdod.

Mae’r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am y pwerau canlynol sydd ar gael i awdurdodau ddyfarnu rhyddhad dewisol:

  • Rhyddhad Caledi;
  • Rhyddhad dewisol i sefydliadau sydd â budd cyhoeddus; 
  • Rhyddhad dewisol cyffredinol.


Rhyddhad Caledi

O dan adran 49 o Ddeddf 1988, mae gan awdurdodau bwerau i roi rhyddhad o hyd at 100% i dalwr ardrethi sy’n profi caledi:

  • os byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’r awdurdod yn dyfarnu rhyddhad; 
  • os yw’n rhesymol i’r awdurdod wneud hynny, ar ôl rhoi sylw i fuddiannau trethdalwyr lleol. 

Rhaid i awdurdodau hefyd eu bodloni eu hunain bod y rhyddhad yn cydymffurfio â’r rheolau Cymorth Gwladwriaethol a Rheoli Cymorthdaliadau.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Cymorth Gwladwriaethol a Rheoli Cymorthdaliadau. 

Efallai y bydd awdurdodau am ddyfarnu rhyddhad o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Lle mae sefydliad neu fusnes wedi dioddef neu’n mynd i ddioddef caledi ariannol oherwydd ffactorau allanol penodol. Er enghraifft, efallai y bydd busnes yn colli masnach yn sgil difrod llifogydd. Efallai y bydd awdurdod am ofyn am dystiolaeth i gefnogi hyn, e.e. cyfrifon busnes.
  • Lle y gellir diogelu rhagolygon cyflogaeth mewn ardal neu amwynder penodol drwy ddyfarnu rhyddhad.
  • Lle y byddai effaith andwyol ar fuddiannau trethdalwyr yn y byrdymor neu’r hirdymor pe na bai rhyddhad yn cael ei roi. Mae’n bosibl y bydd yr achos dros leihau’r ardrethi sy’n daladwy neu dros beidio â’u codi, at ei gilydd, yn bwysicach na’r gost gyffredinol i drethdalwyr.


Rhyddhad Dewisol i Sefydliadau sydd â Budd Cyhoeddus

Fel yr amlinellwyd ym yn yr adran Rhyddhad i Sefydliadau Elusennol a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol, mae Deddf 1988 yn darparu bod gan elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol yr hawl i gael rhyddhad gorfodol, a bennir ar lefel o 80% o ardrethi eiddo a feddiannir. Gellir ychwanegu at y rhyddhad hwn hyd at 100% yn ôl disgresiwn yr awdurdod bilio. Mae’n ofynnol i awdurdodau dalu 75% o unrhyw ryddhad ychwanegol o’r fath i mewn i’r gronfa ardrethi annomestig. Ariennir y 25% arall yn ganolog. 

Mae adran 47 o Ddeddf 1988 hefyd yn darparu y gall awdurdodau roi rhyddhad dewisol cyffredinol o hyd at 100% mewn achosion lle mae’r eiddo: 

  • yn cael ei feddiannu gan un neu ragor o sefydliadau a sefydlir neu a gynhelir at ddibenion nid er elw ac y mae eu prif amcanion yn rhai elusennol neu sydd fel arall yn haelionus neu’n grefyddol neu sy’n ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu’r celfyddydau cain; neu
  • sy’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion hamdden, ac sy’n cael ei feddiannu’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion clwb, cymdeithas neu sefydliad arall nad yw wedi cael ei sefydlu na’i gynnal er elw.

Os dyfernir rhyddhad ar y sail hon, mae Llywodraeth Cymru yn talu 90% o’r gost ac mae’r awdurdod dyfarnu yn talu’r 10% arall. Mae’n rhaid i unrhyw ryddhad a ddyfernir fod er budd y gymuned leol a’r trethdalwyr lleol yn yr awdurdod sy’n dyfarnu’r rhyddhad.

Rhyddhad Dewisol i Glybiau Chwaraeon nad ydynt yn Elusennau Cofrestredig nac yn Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol

Gall awdurdod roi rhyddhad dewisol i glwb chwaraeon nad yw’n elusen nac yn glwb chwaraeon amatur cymunedol. Wrth wneud penderfyniad i ddyfarnu rhyddhad, efallai y bydd awdurdodau am ystyried y diffiniad cyfreithiol o glwb chwaraeon amatur cymunedol, fel y’i nodwyd yn adran 658 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, ac i ba raddau y mae’r sefydliad yn cyfrannu at y gymuned leol ac amcanion yr awdurdod ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol. 

Efallai y bydd awdurdodau am ystyried defnyddio system bwyntiau i asesu ceisiadau am ryddhad. Nid oes angen rhoi 100% o ryddhad ym mhob achos a gellir dyfarnu canran is os bodlonir rhai ond nid pob un o’r meini prawf. Dylai meini prawf ar gyfer system o’r fath fod ar gael i’r cyhoedd er tryloywder.
 
Pwerau Disgresiwn Cyffredinol 

Mae adran 47 o Ddeddf 1988 hefyd yn darparu pwerau mwy cyffredinol i awdurdodau roi rhyddhad dewisol. 

Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau roi rhyddhad ardrethi dewisol pe bai’n rhesymol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i fuddiannau trethdalwyr lleol. Mae’n rhaid i’r awdurdod ysgwyddo cost lawn unrhyw ryddhad a roddir o dan y pwerau hyn. Bwriadwyd i’r darpariaethau alluogi awdurdodau lleol i roi rhyddhad i dalwyr ardrethi er mwyn adlewyrchu amgylchiadau lleol penodol nad ydynt wedi’u cwmpasu gan unrhyw un o’r cynlluniau gorfodol. Mae’r pwerau yn ychwanegol at bwerau awdurdodau i roi rhyddhad mewn achosion o galedi. 

Nid yw Deddf 1988 yn nodi unrhyw feini prawf cymhwyso ar gyfer rhyddhad o’r fath. Fodd bynnag, mae disgwyliad o dan gyfraith gyhoeddus i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn modd teg a chyson. Felly, mae’n arfer da i awdurdodau gytuno ar bolisi ar ddyfarnu rhyddhad dewisol o dan y pwerau hyn a chyhoeddi’r polisi hwnnw.

Nid yw’r rhyddhad dewisol hwn wedi’i gyfyngu i sefydliadau nid er elw. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r pwerau i roi rhyddhad ardrethi i unrhyw dalwr ardrethi yn ei ardal ac mae ganddo ddisgresiwn llwyr o ran sut mae’n penderfynu p’un a ddylid rhoi rhyddhad ac ar ba sail – bwriedir i’r pŵer disgresiwn alluogi pob awdurdod i ystyried anghenion ac amgylchiadau lleol.

Cefndir

Yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y mae rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol yn gymwys. 

Ar 1 Ionawr 2021, daeth Cyfundrefn Gymorthdaliadau y DU i rym. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan Lywodraeth y DU ynghylch gweithredu cynlluniau rhyddhad ardrethi o dan reolaethau cymorthdaliadau a bydd canllawiau diwygiedig sy'n cadarnhau'r sefyllfa yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Ceir canllawiau pellach ar Gyfundrefn Gymorthdaliadau’r DU ar dudalennau gwe GOV.UK

Cyswllt

Gellir cysylltu ag Uned Polisi Cymorth Gwladwriaethol Llywodraeth Cymru yn:  
Uned Polisi Cymorth Gwladwriaethol 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd 
CF10 3NQ
E-bost: State.Aid@gov.wales

Cefndir

Nid oes unrhyw ofyniad statudol i awdurdodau ei gwneud yn ofynnol i dalwyr ardrethi gyflwyno ceisiadau ysgrifenedig am ryddhad. Fodd bynnag, mae’n arfer da i awdurdodau ddyfarnu rhyddhad ar sail prosesau gwneud penderfyniadau tryloyw ac atebol.

Mae’r adran hon yn nodi’r gofynion statudol ac arfer da mewn perthynas â’r canlynol:

  • gwybodaeth a roddir i dalwyr ardrethi;
  • derbyn a chydnabod ceisiadau;
  • rhoi gwybod am Benderfyniadau; 
  • adolygu rhyddhad a’i dynnu’n ôl.

Gwybodaeth a roddir i Dalwyr Ardrethi

Nid oes unrhyw ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â rhoi cyhoeddusrwydd i gynlluniau rhyddhad. Fodd bynnag, er mwyn cydymffurfio ag arfer da, dylai awdurdodau roi gwybodaeth ar dudalennau gwe perthnasol am y cynlluniau rhyddhad sydd ar gael, meini prawf cymhwysedd, unrhyw bolisïau cyffredinol sydd gan yr awdurdod a hefyd fanylion am arolygiadau, apeliadau a sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau. 

Dylai fod modd i ymgeiswyr gwblhau’r broses ymgeisio ar-lein naill ai drwy gwblhau ffurflen ar-lein, neu drwy lawrlwytho cais o’r wefan. Dylai awdurdodau hefyd anfon copïau papur o’r ffurflen gais os gofynnir am hynny neu/a chynnig cymorth pan fo’i angen i ymgeiswyr sy’n llenwi’r ffurflen ar-lein. 

Dylai awdurdodau ofyn am wybodaeth a thystiolaeth ategol briodol sy’n berthnasol i’w cais, er enghraifft tystiolaeth o statws elusennol, cyfrifon archwiliedig, cyfansoddiadau ysgrifenedig, manylion aelodaeth. 

Weithiau, mae sefydliadau yn methu â hysbysu awdurdodau am newid mewn amgylchiadau, yn enwedig os ydynt o’r farn y gallai arwain at fil ardrethi uwch. Dylai awdurdodau bwysleisio bod dyletswydd ar y rhai sy’n cael rhyddhad i hysbysu’r awdurdod am unrhyw newid mewn amgylchiadau. 

Derbyn a Chydnabod Ceisiadau

Dylai awdurdodau gydnabod pob cais am ryddhad ardrethi yn unol â’u targedau arferol ar gyfer ymateb i ohebiaeth gan dalwyr ardrethi. Dylai cydnabyddiaethau hysbysu talwyr ardrethi pryd y bydd unrhyw benderfyniad yn debygol o gael ei wneud, ac am y posibilrwydd y bydd angen i’r awdurdod ofyn cwestiynau neu wneud ymholiadau pellach.

Bydd gan awdurdodau eu gweithdrefnau sefydledig eisoes ar gyfer penderfynu ar geisiadau am ryddhad ardrethi. Bydd llawer yn dirprwyo pwerau i wneud penderfyniadau i swyddogion unigol neu bwyllgorau gyda chylch gorchwyl y cytunir arno.

Mae’n bwysig bod awdurdodau wedi deall canllawiau ar benderfynu p’un a ddylid rhoi rhyddhad ac ar benderfynu swm unrhyw ryddhad a roddir. 

Ym mhob achos, dylai awdurdod allu dangos ei fod wedi ystyried achos yn ôl ei deilyngdod.

Rhoi Gwybod am Benderfyniadau

Dylai awdurdodau hysbysu pob ymgeisydd am ryddhad ardrethi am eu penderfyniad yn ysgrifenedig. Lle y rhoddir rhyddhad, dylai’r llythyr nodi: 

  • swm y rhyddhad a roddir ac o ba ddyddiad y’i rhoddwyd;
  • os rhoddwyd rhyddhad am gyfnod penodol, y dyddiad y daw i ben;
  • y swm newydd y gellir ei godi;
  • manylion unrhyw ddyddiadau adolygu arfaethedig a’r rhybudd a roddir cyn bod lefel y rhyddhad a roddwyd yn cael ei newid; 
  • gofyniad y dylai’r ymgeisydd hysbysu’r awdurdod am unrhyw newid mewn amgylchiadau a all effeithio ar yr hawl i gael rhyddhad.

Dylai awdurdodau roi esboniad o’u penderfyniad ym mhob achos lle y caiff rhyddhad ei wrthod neu ei gyfyngu i swm sy’n llai na’r hyn y gwnaed cais amdano. 

Gall gweithredu fel uchod fod yn arbennig o bwysig. Yn gyntaf, i sicrhau bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r rhesymau dros y penderfyniad ac yn ail, i sicrhau y gall sefydliad, os dymuna, gymryd camau i gydymffurfio â’r meini prawf a fabwysiadwyd gan yr awdurdod ar gyfer rhoi rhyddhad. Mae’n un o egwyddorion cyfraith gyhoeddus y dylai awdurdod roi rhesymau dros benderfyniad ac, os na wneir hynny, mae mwy o risg y caiff penderfyniad ei adolygu.

Dylid hefyd hysbysu’r talwr ardrethi ar yr un pryd am unrhyw hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod. 

Adolygu Rhyddhad a’i Dynnu’n ôl

Mae’n arfer da i awdurdodau ofyn am wybodaeth wedi’i diweddaru bob blwyddyn gan dalwyr trethi am y defnydd presennol o’r eiddo a ph’un a fu unrhyw newid mewn amgylchiadau. Pan fydd awdurdodau yn amau bod newid wedi digwydd ond nad yw’r talwr ardrethi wedi’u hysbysu amdano, dylid cysylltu â’r talwr ardrethi i ofyn am wybodaeth. Mae’n bwysig gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y talwr ardrethi yn dal i fod yn gymwys i gael rhyddhad. 

Gall rhai awdurdodau ofyn i ymgeiswyr wneud cais am ryddhad bob blwyddyn neu ddwywaith y flwyddyn. Gall eraill anfon llythyr wedi’i gyfeirio at y talwr ardrethi cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd, yn gofyn iddo gadarnhau’r defnydd presennol o’r eiddo.

Os na fydd awdurdod yn cael ymateb i unrhyw gais am wybodaeth am y defnydd presennol o’r eiddo, gall ddewis cynnal archwiliad gweladwy o’r eiddo. Os ymddengys nad yw’r eiddo yn cael ei ddefnyddio mwyach at ddibenion y dyfarnwyd rhyddhad yn wreiddiol ar eu cyfer, gall awdurdod anfon llythyr ffurfiol yn nodi ei fwriad i dynnu’r rhyddhad yn ôl.