Canllawiau Blogio
Dylai fod thema fusnes neu entrepreneuriaeth i’r blogiau. Er enghraifft:
- digwyddiad busnes neu rywbeth sydd yn y newyddion,
- awgrymiadau neu gynghorion yn sgil eich profiad chi
- disgrifiad o sut y bu i’ch busnes oresgyn her arbennig
- egluro beth fyddech chi wedi’i wneud yn wahanol pe baech yn cael ail gyfle i ddechrau neu dyfu’ch busnes
- Dylai’r pyst blogio fod yn ddiddorol i gynulleidfa fusnes gyffredinol, a ddim yn rhy dechnegol neu arbenigol
- Dylai’r blogiau fod oddeutu 700 i 1000 o eiriau yn fras, ond os yw’ch erthygl yn fyrrach neu’n cynnwys llawer o luniau – mae’n bosibl y gallwn ei chynnwys.
- Mae’n rhaid i’ch blog gael ei ysgrifennu mewn Cymraeg neu Saesneg clir.
- Cyn belled â bod gennych yr hawl i ailgyhoeddi’r blog, gall blogiau fod wedi’u cyhoeddi mewn llefydd eraill. Gall blogiau fod yn newydd hefyd.
- Ni ddylai pyst blog fod yn hysbyseb i’ch busnes chi nag i unrhyw fusnes arall, ac ni ddylai chwaith fod yn hysbyseb i weithgareddau cymunedol fel codi arian a digwyddiadau cymdeithasol. Rydym yn fodlon cynnwys dolen i chi neu’ch busnes yn y post blog, ond dyna’r cyfan.
- Ni fydd Busnes Cymru yn eich talu am eich erthygl.
- Yn anffodus ni fydd pob blog a gynigir yn cael ei gyhoeddi ac ni fydd Busnes Cymru’n ymateb i bawb a anfonodd bost blog
- Os yn briodol, rhowch ffynhonnell eich erthygl
- Cofiwch roi llun wrth eich erthygl – gorau po fwyaf ei faint
- Am resymau amlwg, ni allwn bostio blogiau sy’n beirniadu polisi Llywodraeth Cymru, neu sy’n agored wleidyddol eu naws
- Cofiwch ddilyn rheolau arferol cwrteisi a pharch tuag at unrhyw un a allai fod yn darllen eich blog