BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Alby and Eric

Owner Lisa Davies

Busnes cerdded cŵn, gwarchod anifeiliaid anwes, gofalu am anifeiliaid anwes a thwtio cŵn ar gyfer y gymuned sy'n caru anifeiliaid yw Alby and Eric.

Sefydlwyd y busnes gan Lisa Davies, gwirfoddolwr gyda’r RSPCA sydd â phrofiad o berchen ar, a gofalu am amrywiaeth o anifeiliaid anwes, gan gynnwys cŵn, cathod, cwningod, moch cwta a bochdewion.  Mae Alby and Eric yn wasanaeth dibynadwy lle mae perchnogion anifeiliaid anwes yn gwbl hyderus y bydd eu hanifail anwes yn cael gofal o’r safon uchaf.

Mae Lisa yn adnabyddus fel rhywun sydd â chariad at anifeiliaid ac angerdd am les anifeiliaid, mae hi wedi bod yn wirfoddolwr a chodwr arian gyda’r RSPCA ers nifer o flynyddoedd. Yn ddiweddar mae hi hefyd wedi dod yn ofalwr maeth gyda'r Hedgehog Helpline ac mae hi eisoes wedi helpu i adfer iechyd draenog oedd wedi’i anafu fel y gellid ei ryddhau yn ôl i'r gwyllt yn ddiogel.

Beth ddaru nhw

"Ar ôl cael fy niswyddo yn fy swydd flaenorol, trefnais i gyfarfod â chynrychiolydd o Gyrfa Cymru. Eglurais fy mod eisiau sefydlu busnes fel cerddwr cŵn, twtiwr cŵn a gofalwr anifeiliaid anwes ac fe roddodd ef fi mewn cysylltiad â Chyngor Caerffili a Busnes Cymru a wnaeth roi lawer o gyngor a chysylltiadau i'm helpu i ymchwilio a pharatoi fy nghynllun busnes. Ymchwiliais hefyd i'r lle gorau i wneud fy hyfforddiant a chefais gyllid trwy REACT i helpu gyda'r gost. Treuliais lawer o amser yn ymchwilio, paratoi, cwrdd â phobl, holi cwestiynau, mynd i gyrsiau a gwirfoddoli, i gyd i baratoi at lansio fy musnes. Hyrwyddais fy musnes ar y cyfryngau cymdeithasol a gweithiais gyda Dylunydd Graffig ar frandio a'n gwefan.

Cynlluniais fy lansiad ar gyfer ychydig wythnosau ar ôl gorffen fy hyfforddiant. Yna, ysgrifennais at fy nghymdogion i gyd i ddweud wrthyn nhw am fy musnes, fe wnes i ddosbarthu taflenni yn lleol ac mewn mannau lle mae pobl yn cerdded neu'n mynd â'u cŵn, gadewais gardiau busnes yn y Milfeddygfeydd a’r Canolfannau Achub lleol a sefydlais gyfrif i hysbysebu gyda Yell. Gwnes bopeth y gallwn i feddwl amdano i ennyn diddordeb a phan lansiais, roedd gen i 22 o gleientiaid - mae hyn bellach wedi cynyddu i 150 o fewn 6 mis" esboniodd Lisa.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol?

"Byddwn yn ceisio peidio â phoeni cymaint. Roedd yn newid mawr ond dylwn wedi cael mwy o hyder ynof fy hun. Gallwn wedi arbed costau marchnata oherwydd nid oedd peth o'r hysbysebu yn llwyddiannus, ychydig o gleientiaid a gafodd eu denu ac roedd yn gostus. Cefais y rhan fwyaf o'm cleientiaid trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac argymhellion. Mae Yell hefyd wedi dod â rhai cleientiaid da i mi, ond bedi bod yn araf yn datblygu, tra bod y cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi fy sylfaen cleientiaid cychwynnol i mi ynghyd â chymdogion a oedd wedi cael fy llythyr. Hefyd, byddwn wedi gallu arbed arian gyda rhai o'r cynhyrchion a'r offer a brynais. Er fy mod wedi ymchwilio ac wedi gofyn llawer o gwestiynau cyn eu prynu, nid ydych chi'n sylweddoli nad yw rhywbeth yn addas hyd nes y byddwch chi'n ei ddefnyddio."

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Rwy’n cael fy eiliadau mwyaf balch pan fyddaf yn cael adolygiad da, pan fydd cleient yn hapus gyda'r gwasanaeth neu pan fydd ci yn cyffroi wrth fy ngweld oherwydd ei fod yn mwynhau mynd am dro neu gael triniaeth cymaint. Mae gan un o'r cŵn rwy’n mynd am dro cyfarthiad arbennig i mi, mae'n cyffroi’n arw pan mae’n amser i mi ei nôl ac yn aros wrth y drws ar yr un pryd bob wythnos."

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Helpodd Carla Reynolds, Ymgynghorydd Busnes Cymru, Lisa gyda chynllunio’r busnes, rhagamcaniadau llif arian a rhagolygon ariannol. Rhoddodd gefnogaeth gychwynnol gynhwysfawr, a wnaeth helpu Lisa i lansio ei busnes cŵn yn llwyddiannus.

Edrychodd Carla ar gyfleoedd ariannu a helpodd Lisa i gael grant cychwyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o £500 tuag at brynu offer i’r salon.

Gan fod Alby ac Eric yn tyfu’n gyflym, mae Lisa hefyd wedi bod i nifer o weithdai Marchnata a Chyllid gan Busnes Cymru. Ar hyn o bryd, mae hi'n gweithio gyda Carla i archwilio’r ffyrdd gorau o ddefnyddio isgontractwyr ac adnabod adeiladau addas i ehangu’r busnes.

Yn ogystal, mae Lisa wedi cael ei pharu â mentor busnes, Hugh Edney, sy'n rhoi arweiniad iddi ar dwf y busnes yn y dyfodol.

Dywedodd Lisa: "Mae Busnes Cymru wedi bod yn help aruthrol. Nid oedd gennyf syniad bod yna gymaint o wybodaeth a chymorth ar gael i mi. Rwyf wedi bod i nifer o'r cyrsiau dechrau busnes ac rwyf hefyd wedi cael cyngor defnyddiol iawn gan fy ymgynghorydd, Carla Reynolds, am sut i ddatblygu fy musnes. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda Hugh Edney, fy Mentor, sydd wedi fy herio a fy arwain. Yn fy swydd flaenorol, roeddwn yn gyfrifol am roi adroddiadau ariannol misol ac adroddiadau am gynnydd y busnes. Rwyf wedi gallu gwneud hyn a thrafod gyda'm mentor i sicrhau fy mod ar y trywydd iawn, mae Hugh hefyd yn rhoi arweiniad i mi ar adeiladu fy musnes a mynd ag ef i’r lefel nesaf."

Cyngor Da

Dyma brif gynghorion Lisa i unrhyw un arall sy'n awyddus i ddechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:

  • ymchwil
  • paratoi
  • cynllunio
  • holi cwestiynau
  • siaradwch â phobl sydd eisoes yn gwneud yr hyn hoffech chi ei wneud

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.