BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Art by Osian

Art by Osian

 

Oriel gelf gyfoes newydd sbon yw Art by Osian, , sydd newydd ei hagor ym mherfeddion Canolbarth Cymru. Yn sgil argymhelliad cyfaill, cysylltodd y perchennog a’r artist Osian Gwent â Busnes Cymru i drafod cychwyn ei fusnes ei hun. Galluogodd cefnogaeth gynghorol i Osian lansio’r oriel ac y mae eisoes yn edrych ymlaen at lwyddo mewn marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol.    

Ar ôl byw a theithio o amgylch y byd am dros 20 mlynedd, yn 2016, penderfynodd y peintiwr celfyddyd-gain Osian Gwent ddychwelyd i Gymru, a fu’n ffynhonnell o ysbrydoliaeth i lawer o’i waith.

Gyda’i baentiadau yn cael eu harddangos mewn cystadlaethau a lleoliadau o fri ledled y DU, gan gynnwys Canolfan Celfyddydau Canolbarth Cymru, yr Arddangosfa o Gelf Gyfoes o Gymru yn Llundain ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd, llwyddodd Osian i wireddu ei freuddwyd o agor ei stiwdio ei hun yn agos at adref, yng nghalon Canolbarth Cymru.    

Wedi’i hagor yn Llanidloes yn Ionawr 2019, mae Art by Osian yn stiwdio waith ac oriel gelf lle mae croeso i ymwelwyr gwrdd â’r artist, sgwrsio neu hyd yn oed wylio’r broses o beintio ar waith.

Beth wnaeth i chi gychwyn eich busnes eich hun?

Symudais i ardal lle nad oedd Ilawer o gyfleoedd gwaith. Felly, roedd rhaid i mi greu fy ngwaith fy hun.

Roedd gen i yrfa o’r blaen ond wedi colli diddordeb ynddi. Es i goleg celf i fod yn artist, ond roeddwn i’n rhy ifanc ac amhrofiadol i redeg fy musnes fy hun ar y pryd. Erbyn hyn, roedd gen i’r cyfle a’r profiad bywyd i roi tro arni. 

Pa heriau a wynebwyd gennych?

Pan benderfynais sefydlu fy oriel fy hun, doeddwn i ddim wir yn gwybod sut i fynd ati i gychwyn a rhedeg fy musnes fy hun. Roedd angen help arnaf i ddelio gydag arian, cael fy mhen o gwmpas gweinyddu swyddfa a chyfrifon, yn ogystal â marchnata er mwyn fy helpu i godi fy mhroffil a sefydlu fy hun yn y dechrau.   

Pam wnaethoch chi gysylltu â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru a pha gefnogaeth a gawsoch?

Cysylltodd Osian â Busnes Cymru am gefnogaeth gychwynnol, gan gynnwys cyngor gyda chynllunio, trefnu, rheoli a marchnata. Mynychodd weithdy cychwynnol gan nad oedd erioed wedi rhedeg busnes o’r blaen, â’r syniad o fod yn hunangyflogedig yn codi ofn arno. Lliniarodd y cwrs ei ofnau a rhoi’r hyder iddo fynd amdani.  

Mynychodd weithdy Treth a Chadw Llyfrau hefyd er mwyn dysgu am ei statws cyfreithiol a ffurflenni treth.

Deilliannau

  • lansio busnes newydd yng Nghanolbarth Cymru wledig
  • creu 1 swydd

Roedd ffrind i mi wedi cychwyn ei fusnes eu hun ac wedi argymell Busnes Cymru i mi. Roedd fy nghynghorydd busnes Lee Stephens yn ddefnyddiol a chraff iawn. Fe helpodd fi i sefydlu rhannau o’r busnes i ganolbwyntio a datblygu mwy arnynt.

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Ar hyn o bryd, rwy’n sefydlu fy hun yn lleol ac yn rhanbarthol. Yn y ddwy i dair blynedd nesaf, rwy’n bwriadu cael cynrychiolaeth genedlaethol ac wedyn canolbwyntio ar farchnadoedd rhyngwladol hefyd.

Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.