BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Beyond Breakout

Beyond Breakout

Profiad ystafell ddianc unigryw newydd yn dod i'r Drenewydd gyda chymorth Busnes Cymru.

Penderfynodd Jo Woodall a Lorna Morris gychwyn eu busnes ystafell ddianc eu hunain yn y Drenewydd ar ôl colli eu swyddi ac i roi eu profiad o ddatblygu gemau unigryw ar waith. Lansiwyd Beyond Breakout ym mis Ionawr 2020 gyda chymorth gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru.

  • dechrau llwyddiannus
  • £10,000 wedi'i sicrhau gan y Cwmni Benthyciadau i Gychwyn
  • 2 swydd

Cyflwyniad i'r busnes

Creadigaeth Lorna Morris a Jo Woodall yw Beyond Breakout, ar ôl penderfynu defnyddio eu meddyliau chwilfrydig a diddordeb mewn posau i greu profiad gêm ddianc yn y Drenewydd, wedi blynyddoedd o weithio ym meysydd marchnata, digwyddiadau ac addysgu.

Penderfynodd y pâr entrepreneuraidd lansio gêm eu hunain ar ôl dylunio ac adeiladu 4 gêm lwyddiannus ar draws Canolbarth Cymru.

Mae Beyond Breakout yn brofiad ystafell ddianc, yn cynnwys gemau unigryw wedi'u dylunio gan Lorna a Jo, ac yn defnyddio cymaint o ddeunyddiau wedi'u hadfer a'u haddasu ag sy'n bosib. Yn ogystal, bu i'r busnes lansio ystafell rith-wirionedd ym mis Mawrth 2020, gyda'r bwriad o ychwanegu mwy o gemau a phrofiadau at y cynnig.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Roeddem wedi gweithio gyda'n gilydd yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, ond, yn anffodus, bu i'r ddwy ohonom golli ein swyddi ym mis Gorffennaf 2019. Pan roeddem mewn cyflogaeth gyda'n gilydd, gofynnwyd i ni adeiladu rhai ystafelloedd dianc i'n cyflogwr, a bu i ni eu dylunio a'u rhedeg yn llwyddiannus am ddwy flynedd.

Wrth fynd drwy'r broses o golli ein swyddi roedd angen i ni ystyried y cam nesaf yn ein gyrfa. Daeth dau beth yn amlwg: roeddem yn mwynhau gweithio gyda'n gilydd ac roeddem wrth ein bodd yn adeiladu a rhedeg ystafelloedd dianc, felly penderfynom barhau â hynny.

Pa heriau a wyneboch?

Ein her fwyaf oedd cyllid. Yn amlwg, roedd meddwl am sefydlu busnes heb incwm misol yn ddigon i godi gwallt eich pen. Gyda chymorth Rowan [ein Rheolwr Perthynas Busnes Cymru], bu i ni gwblhau rhagolwg llif arian ac roeddem yn teimlo y byddai ein cyllid yn iawn. Fodd bynnag, wrth i ni fynd yn ein blaenau, sylweddolom nad oeddem wedi ystyried rhai pethau, megis talu pensaer a rheoliadau adeiladu.

Roedd dod hyd i'r safle cywir i redeg ein busnes yn ein lleoliad delfrydol, gyda lle i barcio, a oedd yn gweddu i'n cyllideb hefyd yn her. Ar ôl sicrhau'r safle cywir, roedd rhaid wynebu'r her o ddibynnu ar y landlord i gwblhau'r gwaith hanfodol, megis gosod toiledau a chegin - cymerodd hyn lawer fwy o amser nag yr oeddem wedi ei ddisgwyl. O ganlyniad, roedd rhaid i ni symud ein dyddiad agor ymlaen - nifer o weithiau. Yn wreiddiol, roeddem yn credu y byddem ar agor ym mis Awst 2019, ond ni chawsom agor tan fis Ionawr 2020 gan fod popeth wedi cymryd llawer mwy o amser nag yr oeddem wedi tybio.

Cymorth Busnes Cymru

Bu i Rowan Jones, Rheolwr Perthynas Busnes Cymru, helpu Lorna a Jo i ddatblygu'r syniad gwreiddiol. Cefnogodd yr entrepreneuriaid gyda'u cynllun busnes, marchnata a rhagolygon ariannol, gan eu galluogi i sicrhau pecyn o gyllid gan nifer o ffynonellau gwahanol, yn cynnwys y Cwmni Benthyciadau i Gychwyn a Merched mewn Busnes NatWest.

Roedd Rowan hefyd ynghlwm â dod o hyd i'r eiddo cywir ar gyfer y busnes, a'i sicrhau, yn ogystal â thrafod telerau ac amodau'r brydles.

Canlyniadau

  • dechrau llwyddiannus
  • £10,000 wedi'i sicrhau gan y Cwmni Benthyciadau i Gychwyn
  • 2 swydd

Mae cymorth Rowan wedi bod yn amhrisiadwy. O'r cyfarfod cyntaf, roedd yn gwrando ar ein syniadau bras, yn gwneud i ni deimlo yn gyfforddus i ofyn unrhyw gwestiwn iddo, a'n harwain ni drwy'r hyn oedd angen i ni ei wneud. Mae hyn wedi cynnwys ein cefnogi ni i gwblhau rhagolwg llif arian a'i ddiweddaru wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen, datblygu cynllun busnes, cwblhau cytundeb partneriaeth a'n harwain ni at y Cwmni Benthyciadau i Gychwyn, lle y bu i ni sicrhau benthyciad o £10,000.

Bu i Rowan ein cyfeirio ni at REACT, nad oeddem wedi clywed amdano, i weld a oedd posib i ni ddefnyddio cyllid i helpu gydag ychydig o hyfforddiant. Yn anffodus, oherwydd ein lleoliad, nid oedd cyrsiau perthnasol i ni allu gwneud defnydd o'r cyllid hwnnw. Mae Rowan eisoes wedi bod yn wych yn ymateb i'n he-byst pan fydd gennym ymholiad, ac wedi ceisio dod o hyd i wybodaeth i ni, neu ein rhoi ni mewn cysylltiad â phobl a all ein helpu.

Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn weithgar tu hwnt yn ceisio dod o hyd i gymorth i ni allu goroesi'r pandemig COVID-19.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rydym eisiau agor dwy ystafell ddianc arall, gan ddod â'n cyfanswm i bedair. Rydym hefyd yn bwriadu cyflogi rhai staff contract a hyblyg.

Yn ogystal, hoffem gyflwyno ein syniadau mewn ysgolion drwy ddatblygu posau ar ffurf ystafell ddianc sy'n cysylltu â chwricwlwm yr ysgol.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.